Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 30 Ionawr 2018.
Anfonwyd datganiad gan yr Aelod ac un arall, a oedd yn dweud,
Byddwn yn cadw llygad gofalus ar y cynigion hyn wrth iddyn nhw ddatblygu, ac rydym ni'n bwriadu cyfarfod â chynrychiolwyr y bwrdd iechyd ar y cyfle cyntaf.
Mae'n gyfreithlon, yn fy marn i, i dynnu sylw at y cyfleoedd a gynigiwyd. Mae'n gwbl gyfreithlon ac yn agored i graffu. Os bydd Aelodau'n dweud eu bod nhw eisiau cyfarfod ar y cyfle cyntaf, mae'n bwysig bod dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd bod cyfleoedd wedi eu cynnig, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n debyg— [Torri ar draws.] Gwrandawais ar Rhun ap Iorwerth heb dorri ar ei draws. Efallai y gwnaiff ef roi'r un cwrteisi i mi, a gweddill ei blaid.