Sgrinio am Ganser y Coluddyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni raglen sgrinio'r coluddyn genedlaethol sefydledig ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru, a sgriniwyd bron i 147,000 o ddynion a menywod yn ystod 2016-17. Rydym ni'n chwilio'n barhaus am ffyrdd o gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyn a chyhoeddwyd cyflwyniad profion gwell a mwy ystyriol o ddefnyddwyr gennym yn ddiweddar, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Ionawr 2019.