Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Yn sicr, mae gen i etholwr sydd wedi cysylltu â mi, sydd dros 74 oed, a'i bryder ef yw nad yw wedi gallu cyfeirio ei hun ar gyfer prawf sgrinio ei hun. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r DU—yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y deallaf—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ystyried dilyn safbwynt Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ledled y DU.