Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn y prynhawn yma i hysbysu'r Aelodau o'm cynigion ynglŷn â gwneud y diwygiadau o ran trefniadau etholiadau llywodraeth leol, gan gynnwys pwy sy'n cael pleidleisio, sut maen nhw'n cael eu cofrestru, sut y mae pobl yn pleidleisio a phwy all sefyll ar gyfer etholiad. Mae fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer etholiadau lleol, ond rwy'n ymwybodol, Llywydd, o'r gwaith sydd gennych chi ar y gweill ynglŷn â diwygio'r Cynulliad hwn ac y bydd yr un trefniadau i raddau helaeth iawn hefyd yn berthnasol yn y dyfodol i etholiadau Seneddol Cymru. Bydd cynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn Bil llywodraeth leol, y bwriadaf ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Mae'r cynigion yn gydnaws ag ymgynghoriad yr hydref diwethaf, a byddaf yn cyhoeddi canlyniadau manwl hwnnw cyn bo hir.
Mae democratiaeth leol yn ymwneud â chyfranogiad. Rydym ni eisiau cynyddu'r niferoedd sydd wedi cofrestru yn etholwyr, ei gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidleisiau a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan. Rydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd diwethaf sut mae'r ymgyrch i gael pobl i gofrestru yn unigol—a gafodd ei rhuthro ac nad oedd digon o baratoi ar ei chyfer, rwy'n credu— wedi arwain at rai grwpiau o bobl yn diflannu oddi ar y gofrestr. Rwy'n bwriadu gwrthweithio hynny yn rhannol trwy alluogi ac annog swyddogion cofrestru etholiadol i ychwanegu pobl yn awtomatig at y gofrestr os ydyn nhw'n fodlon gyda'r wybodaeth sydd ganddyn nhw. Dylai hynny weithio yn arbennig o dda gyda myfyrwyr ysgol lle mae gan awdurdodau lleol eu manylion eisoes ac angen gwneud dim mwy na throsglwyddo'r rhain i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai unrhyw un sydd wedi ei gofrestru'n awtomatig yn cael eu hychwanegu at y gofrestr ddiwygiedig, nid yr un sydd ar gael i sefydliadau marchnata, a byddid yn cysylltu â nhw i gadarnhau eu dewisiadau ac a ydyn nhw'n hapus i fod ar y gofrestr lawn neu, yn achos rhywun na ddylid datgelu eu hunaniaeth, i gael eu cofrestru'n ddienw.
Rwyf hefyd yn bwriadu creu cofrestr electronig Cymru gyfan, gan gyfuno'r cofrestrau sy'n bodoli ym mhob sir gyda diwyg cyffredin, gan wneud y gwaith o reoli cofrestrau yn fwy effeithlon a'i gwneud hi'n haws hollti cofrestrau ar gyfer etholiadau sy'n croesi ffiniau sirol.
Mae pleidleisio mewn etholiadau yn y wlad hon yn digwydd fwy neu lai yn yr un ffordd ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n mynd i orsaf bleidleisio ac yn taro croes ar ddarn o bapur gan ddefnyddio pensil plwm cydnerth ar ddarn o linyn. Mae llawer o bobl yn hoffi hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae hi'n gryn ddigwyddiad, yn gyfle i siarad â'r cymdogion, ac, yn gyffredinol, mae pobl yn ymddiried yn y broses. Fodd bynnag, Llywydd, rydym ni hefyd yn gwybod bod hyn yn fwyfwy anghyson â bywydau bob dydd pobl, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Am y rheswm hwn, rwy'n bwriadu deddfu i gyflwyno cynlluniau arbrofol mewn etholiadau lleol ac isetholiadau a fyddai'n ymchwilio i'r dewisiadau o bleidleisio a chyfrif electronig, a phleidleisio mewn gwahanol fannau ar wahanol ddyddiau. Byddai angen i'r Comisiwn Etholiadol arfarnu unrhyw gynllun arbrofol cyn inni wneud unrhyw beth parhaol ac eang, ond mae hi'n hen bryd gwneud y broses bleidleisio yn fwy modern a mwy hyblyg, gan ystyried, wrth gwrs, yr angen i gadw unrhyw system newydd yn hollol ddiogel.