3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:55, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n arbennig o falch o allu egluro'r diwygiadau etholiadol hyn heddiw oherwydd cyn bo hir byddwn yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig a chyflwyno'r bleidlais i bob dyn. Mae'n briodol felly fy mod yn gallu datgan fy mwriad, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar fin cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon o dan Ddeddf Cymru 2017 o fis Ebrill, i ymestyn yr etholfraint ymhellach mewn sawl ffordd.

Llywydd, fy mwriad yw y bydd pobl 16 a 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Byddwn yn dilyn yr Alban yn hyn o beth, ac mae eu profiad nhw eisoes yn dangos inni gymaint y mae pobl ifanc yr oedran hwnnw yn croesawu'r cyfle ac yn ei ddefnyddio i ddatblygu'r broses ddemocrataidd ymhellach. Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.

Dylai pawb sydd wedi ymrwymo i fywyd yng Nghymru ac sy'n byw yma allu cymryd rhan yn ein democratiaeth gynhwysol. Rydym yn bwriadu caniatáu i unrhyw un o unrhyw genedligrwydd sy'n preswylio yng Nghymru allu cofrestru a phleidleisio yn ein hetholiadau. Bydd hyn yn codi uwchlaw'r ddadl dros ddyfodol hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE drwy ei gwneud hi'n glir y dylai pobl o bob gwlad a chenedl sydd wedi gwneud eu cartrefi yma allu cymryd rhan lawn yn ein democratiaeth.

Rwyf hefyd yn ystyried y posibiliadau ar gyfer ymestyn hawliau carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os yw dyddiad arfaethedig eu rhyddhau cyn diwedd cyfnod y cyngor sy'n cael ei ethol. Byddent yn gallu pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os oes ganddyn nhw gysylltiad â chyfeiriad yng Nghymru, fel arfer eu cyfeiriad diwethaf. Mae angen i bobl sy'n cael eu hanfon i'r carchar deimlo'n rhan o'r gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, a bydd yr hawl i bleidleisio yn ffurfio rhan o hyn.

Llywydd, fy mwriad i yw y bydd llywodraeth leol yn symud i gyfnod o bum mlynedd, fel sy'n digwydd gyda'r Senedd hon a'r hyn a fwriedir ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd cynghorau unigol yn gallu gwneud y dewis i newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Er mwyn newid byddai angen yn gyntaf i ddwy ran o dair y cyngor dan sylw bleidleisio o blaid newid . Byddai'n rhaid defnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy gyfres nesaf o etholiadau cyffredin.

Rwyf hefyd yn bwriadu gwneud rhai newidiadau o ran ymgeisio mewn etholiadau lleol. Rwyf eisiau dilyn yr arfer sydd eisoes yn berthnasol i etholiadau seneddol a galluogi ymgeiswyr i gyhoeddi dim ond y ward lle maen nhw'n byw yn hytrach na'u cyfeiriad cartref ar ddogfennau etholiadol. Byddaf hefyd yn rhoi trefniadau ar waith i alluogi'r ymgeiswyr i gyhoeddi datganiadau polisi ar wefan cyngor. 

Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n haws i weithwyr cyngor sefyll etholiad ar gyfer eu cyngor eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo cyn y gallan nhw hyd yn oed ymgeisio. Byddaf yn newid hyn fel nad oes angen iddyn nhw ymddiswyddo dim ond os cânt eu hethol. Fodd bynnag, byddaf hefyd yn annog awdurdodau lleol i gynnig seibiant gyrfa am o leiaf tymor cyntaf eu swyddogaeth. 

Llywydd, dyna yw fy nghynnig cychwynnol. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o'r Aelodau yn teimlo y dylai o leiaf rhai o weithwyr y cyngor allu bod yn gynghorwyr yn eu hawdurdod eu hunain, a byddaf yn gwrando'n astud ar y trafodaethau ynglŷn â'r mater hwn yn ystod y gwaith craffu. Hoffwn i ddweud ar goedd y byddaf yn ystyried mewn modd cadarnhaol y ffyrdd y gallwn ni gynnwys y safbwyntiau hyn pan ddaw hi'n bryd inni ddeddfu. Byddaf felly yn ymdrin â hyn gyda meddwl hollol agored a byddaf yn edrych ar ffyrdd o alluogi gweithwyr cyngor i sefyll mewn etholiadau yn eu hawdurdod eu hunain.

Rwy'n credu bod a wnelo'r mater canolog hwn â thal. Pe bai maint y taliadau a wneir i gynghorwyr am wneud eu gwaith yn fwy cydnaws â chyflogau, byddai cymryd seibiant o waith arall yn fwy realistig. Bwriadaf adolygu'r mater hwn, law yn llaw â'r panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol, dros y misoedd sydd i ddod.

Llywydd, rwy'n credu'n gryf na ddylai Aelodau o'r Cynulliad hwn fod yn gynghorwyr hefyd ac rwy'n bwriadu deddfu fel eu bod yn cael eu gwahardd rhag bod yn aelod cyngor. Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan aelodaeth o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gael eu gwahardd.

Yn olaf, rwy'n bwriadu diwygio'r ddeddfwriaeth fel mai Prif Weithredwr y Cyngor fydd y swyddog canlyniadau. Ni fydd y swyddog canlyniadau, fel arfer y swyddog cyngor sy'n cael y cyflog mwyaf, yn gallu hawlio ffi bersonol mwyach oddi ar eu cyngor eu hunain nac am gynnal etholiadau seneddol yng Nghymru. Nid yw'n dderbyniol i'r cyhoedd, yn enwedig ar adeg pan fo gweithwyr cyngor cyffredin yn wynebu'r fath gyfyngiadau. Rwy'n cyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr.