3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:00, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn. Mae hyn yn cynnig rhai cyfleoedd, ond mae hefyd yn esgor ar nifer o gwestiynau. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr angen, fel yr amlygwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, i gynyddu cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Fodd bynnag, bydd y cynigion yr ydych chi'n eu cyflwyno yn mynd i'r afael ag a ddylid gofyn am y diwygiadau a amlinellwyd er mwyn mynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd y broblem o ymddieithrio ymhlith pleidleiswyr a'r diffyg cysylltiad y mae cymaint o drigolion yn ei deimlo â gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Mae cynrychiolaeth ar awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perygl o fod yn rhywbeth cyfyngedig iawn. Yn etholiadau llywodraeth leol 2017, gadawyd 7 y cant o'r seddi cynghorau bwrdeistref sirol yn wag. Ar lefel cyngor tref a chymuned, roedd 81 y cant o'r seddi naill ai'n ddi-gystadleuaeth neu'n wag. Ymhellach, mae ymgysylltu â chynghorwyr lleol yn arswydus o isel yng Nghymru, gyda'r swm anferth o 84 y cant o'r bobl a ymatebodd i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dweud nad oedden nhw wedi cysylltu â'u cynghorydd yn y 12 mis blaenorol. Ac fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato sawl gwaith yn y fan yma, mae diffyg tryloywder yn rhemp, oherwydd rhwng 2016 a 2017, roedd awdurdodau lleol wedi gwahardd y cyhoedd yn llawn neu'n rhannol o 39 y cant o'r cyfarfodydd cabinet, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr y ffigur oedd 93 y cant.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi gwthio am gyfres fwy trylwyr o ddiwygiadau, gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad pleidleiswyr, ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys yr agenda hawliau cymunedol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, ac eto methodd Llywodraeth Cymru â rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn, nac unrhyw rymoedd ychwanegol na mwy o reolaeth o unrhyw fath i gymunedau. Ac mewn gwirionedd, mae'n deg dweud eich bod wedi methu o ran democratiaeth leol a chaniatáu i gymunedau gael mwy o lais ar faterion democrataidd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro sut y mae eich cynigion yn ymdrin â'r angen dybryd i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y meysydd hyn?

Nawr, mae pryderon eisoes yn cael eu lleisio ynghylch cofrestru pleidleiswyr posib yn awtomatig. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gynghori ynghylch sut yr ydych chi'n rhagweld cydbwysedd yn hyn o beth o ran deddfwriaeth diogelu data a defnyddio data personol, yn ogystal â sut y byddwch yn sicrhau bod y broses hon yn gwbl sicr ac yn rhydd rhag twyll pleidleisiwr?

Ar y mater hwn hefyd, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut yr ydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen â phleidleisiau post, o ystyried cyhuddiadau o ddyblygu pleidleisiau y llynedd ac, wrth gwrs, y sôn a fu am yr hyn a ddigwyddodd yn Tower Hamlets. Dyma golli cyfle euraid os ydych chi'n dechrau diwygio etholiadau llywodraeth leol. Mae pawb yn y fan yma sydd erioed wedi sefyll mewn unrhyw etholiad ar unrhyw lefel yn gwybod y gall pleidleisiau post gyda rhai o'n pobl hŷn fod yn gyfrwng hollol hanfodol a'u helpu i bleidleisio, ond gall fod yn gymhleth iawn hefyd gyda mymryn o wahaniaeth weithiau rhwng llofnodion. Caiff y pleidleisiau hynny eu rhoi o'r neilltu ac mewn gwirionedd nid ydynt yn cael eu cofrestru'n bleidlais. Felly, hoffwn i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi'n rhoi sylw i sut y gallwn ni symleiddio'r broses o bleidleisio drwy'r post fel bod pobl, mewn gwirionedd, yn fwy hyderus wrth wneud hynny nag y maen nhw ar hyn o bryd.

O ran eich cynigion o ran cynlluniau arbrofol ar gyfer pleidleisio electronig, pleidleisio mewn mannau gwahanol ac ar ddyddiau gwahanol, byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y Comisiwn Etholiadol wedi canfod cyn hyn fod arbrawf a wnaed gan Lywodraeth Lafur Prydain ar y pryd ynglŷn â chyfleusterau ychwanegol ar gyfer pleidleisio wedi bod yn aflwyddiannus ar y cyfan yn targedu pleidleiswyr mympwyol megis yr ifanc a'r henoed, gyda'r mwyafrif yn dweud y byddent wedi pleidleisio beth bynnag. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn y costau y gallwch chi eu dangos inni o ran y cynlluniau hyn er mwyn ein galluogi ni i wneud dadansoddiad cost-budd priodol cyn rhoi sêl bendith i unrhyw gynlluniau arbrofol.

Fe wnaethoch sôn am y bwriad i alluogi pobl 16 ac 17 oed i bleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Sut ydych chi'n cysoni rhoi pleidlais i bobl 16 a 17 oed pan fo'r Cynulliad hwn wedi deddfu yn eu herbyn yn y gorffennol, er enghraifft, o ran defnyddio gwely haul? Ac mae caniatâd rhieni yn dal yn ofynnol i briodi neu i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Hoffwn grybwyll hefyd ar y pwynt hwn, fel rhywun sydd wedi hen arfer ymgyrchu, fod pobl 18 i 30 oed yn aml yn cael eu heithrio achos, wrth gwrs, ni chaiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Ceir y math hwnnw o wacter — [torri ar draws.] Byddai, byddai fy holl ysgolion yn Aberconwy yn hoffi gweld mwy o sylw i'r system wleidyddol yn y maes llafur. Felly, hoffwn i ofyn ichi sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y bobl hynny sydd eisoes yn gallu pleidleisio yn cyfranogi mwy.  

O ran eich cynigion i ganiatáu i gynghorau unigol newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, byddwch yn cofio, mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad', fod 60 y cant o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio trefn y cyntaf i'r felin oherwydd y teimlad oedd bod pobl yn ei deall yn well, ac roedd 94 y cant o'r farn ei bod yn well cadw at un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ymateb hwn yn ymddangos yn groes i'ch cynigion chi heddiw, felly sut allwch chi gyfiawnhau hynny?

Croesawn y gofyniad i ymgeiswyr gofrestru aelodaeth plaid wleidyddol os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid a'r gwell tryloywder ac atebolrwydd a fyddai'n dod gyda hyn. Rydym i gyd yn gwybod—mewn etholiadau comisiynwyr yr heddlu—pan fo pobl yn sefyll fel aelodau annibynnol, mewn gwirionedd, maen nhw'n aelodau o blaid wleidyddol. Rwy'n gwybod nad yw tri aelod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a etholwyd o dan faner Plaid Cymru fis Mai diwethaf yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol ar y cyngor hwnnw bellach.

Ac yn olaf, croesawn yn fawr—ac rydym ni wedi bod yn galw am hyn—y newidiadau arfaethedig o ran rhoi terfyn ar swyddogion canlyniadau yn cael eu talu gan eu cynghorau eu hunain. Nid yw'n iawn, fel yr ydych chi yn gwbl gywir yn cyfeirio ato, fod prif weithredwr yn gallu bod ar gyflog mwy na Phrif Weinidog y wlad hon ac eto gall ennill oddeutu ugain mil o bunnoedd yn ychwanegol drwy fod yn swyddog canlyniadau. Mae hynny'n anghywir. Os ydych yn mynd i roi terfyn ar Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith cynghorwyr hefyd, dylech chi fod yn rhoi sylw i hynny ac rwy'n cefnogi hynny. 

Ac yn olaf oll, o ran newidiadau i gymhwysedd ymgeiswyr, tybed beth fyddai'r gost petai awdurdodau lleol yn rhoi seibiant gyrfa i ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn yr etholiad sydd yn gyflogedig gan y cyngor, lle mae gwrthdaro buddiannau yn debygol. Hefyd, eto, bydd costau'n digwydd os yw adrannau'n caniatáu i bobl gyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr—sut y telir y gost o ran cyflenwi eu gwaith ac ati. 

Felly, rwy'n credu bod llawer o gwestiynau yma i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at graffu ar hyn pan gaiff ei gyflwyno. Hoffwn ddweud hyn: rwy'n falch eich bod wedi cael y cwrteisi o'r diwedd i gyflwyno hyn yn y Cynulliad hwn. Roedd yn siomedig gweld Plaid Lafur y DU yn trydar y cyhoeddiad hwn cyn y rhoddwyd unrhyw fath o gwrteisi i ni, Aelodau Cynulliad. Byddwn ond yn dweud wrthych nad hon yw'r ffordd orau o wneud cychwyn da pan rydych eisiau gwneud newidiadau mor ddifrifol i'n system etholiadol. Diolch i chi.