Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 30 Ionawr 2018.
Ni fyddaf yn ailedrych ar yr achosion a'r pryderon a godais gyda chi yn y Pwyllgor yr wythnos ddiwethaf. Serch hynny, pa gyfran o'r £80 miliwn a ymrwymwyd i'r rhaglen fydd yn olynu Cyflymu Cymru yr ydych yn ei rhagweld fydd yn dod o'r ad-daliad gan BT sy'n gysylltiedig â chyflawniad eu targedau dan y cymal adfachu sydd gennych chi â nhw? A pha mor sicr yr ydych y bydd yr arian yr ydych chi'n ei ddisgwyl yn dod yn ôl i chi?