– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 30 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ ar Cyflymu Cymru, ac rydw i'n galw arni i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i heddiw roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein cynlluniau i ymestyn cwmpas band eang cyflym yn dilyn diwedd cyfnod adeiladu prosiect Cyflymu Cymru. Drwy Cyflymu Cymru, rydym wedi newid y tirlun band eang yn sylfaenol yng Nghymru, gan ddod â band eang cyflym iawn i ardaloedd yng Nghymru na fyddai wedi eu cysylltu o gwbl fel arall. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae'r band eang cyflym iawn sydd ar gael ledled Cymru wedi mwy na dyblu yn uniongyrchol oherwydd y prosiect hwn a'n buddsoddiad ni. Mae adroddiad diweddaraf Ofcom yn dangos mai Cymru erbyn hyn sydd â'r argaeledd uchaf o fand eang cyflym iawn—dros 30 Mbps—o blith y gwledydd datganoledig er gwaethaf heriau amlwg ein topograffi wrth gyflwyno rhwydweithiau band eang. Mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar gyflawniad sylweddol y prosiect peirianneg mawr hwn. Mae cartrefi a busnesau ar hyd a lled Cymru erbyn hyn yn elwa ar fanteision y buddsoddiad hwn ac yn defnyddio gwasanaethau digidol.
Bydd yr Aelodau yn awyddus i ddeall faint o safleoedd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau a gysylltwyd drwy brosiect Cyflymu Cymru a sawl safle a gysylltwyd i gyd. Byddaf yn rhyddhau'r wybodaeth hon cyn gynted ag y bydd gennyf. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r data diweddaraf a gyflwynwyd gan Openreach ac yn gweithio drwy ein profion cadarn a'n proses ddilysu. Fy nod yw cyhoeddi'r ffigurau terfynol wedi'u cadarnhau yn y gwanwyn.
Er gwaethaf llwyddiant Cyflymu Cymru wrth drawsnewid cysylltedd band eang ledled Cymru, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n dal i dderbyn llwythi o lythyrau gan unigolion, cymunedau a busnesau sy'n rhwystredig oherwydd diffyg band eang cyflym lle maen nhw'n byw neu'n gweithio. Mae'r Llywodraeth hon yn rhannu'r rhwystredigaeth honno ac yn ymrwymedig i weithredu i fynd i'r afael â'r problemau band eang hynny.
Rydym ni wedi nodi 88,000 o safleoedd ledled Cymru na chaiff eu gwasanaethu dros y tair blynedd nesaf heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae map manwl yn dangos y safleoedd hyn ar gael ar y wefan. Fel yr amlinellais yn fy natganiad llafar ar 8 Tachwedd 2016, rydym ni wedi ymrwymo £80 miliwn i alluogi'r gwaith hwn. Mae'n bwysig cydnabod, fodd bynnag, y bydd y gwaith sydd i'w wneud yn mynd yn fwy anodd ac efallai na fydd dull gweithredu unffurf yn sicrhau'r canlyniad gorau. Felly, rwyf i heddiw yn cyhoeddi cyfres o fesurau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn ein helpu i wireddu'r uchelgais a ddisgrifir yn 'Symud Cymru ymlaen' i ddod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.
Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod erbyn hyn wedi gwahodd cyflenwyr i dendro ar gyfer y cynllun olynol i Cyflymu Cymru. Rydym ni wedi gwahodd y farchnad i gyflwyno atebion mewn tair lot gyda phwyslais ar ddarparu gwledig, blaenoriaethu busnes a gwasanaethau gwibgyswllt 100 Mbps. Gwnaeth Cyflymu Cymru ddarparu mynediad i nifer fawr o safleoedd mewn ardaloedd gwledig, ond mae mwy o waith i'w wneud mewn rhannau o Bowys a Cheredigion yn arbennig. I fynd i'r afael â hyn, rydym ni wedi annog atebion sy'n cysylltu safleoedd yn yr ardaloedd hynny ac mewn ardaloedd â chwmpas data symudol 4G is. Bydd asesiad y tendr hefyd yn cydnabod y cynigwyr hynny sy'n targedu safleoedd sy'n dioddef y cyflymderau lawrlwytho isaf. Mae busnesau yn manteisio ar y cyfleoedd y mae bod â chysylltiad cyflym yn eu cynnig, ond rydym yn cydnabod bod meysydd lle gallai busnesau gael eu gwasanaethu'n well. Rydym ni, felly, wedi annog cynigwyr i roi sylw arbennig i safleoedd busnes yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendro.
Mae'r galw am gysylltedd a chyflymder y cysylltedd hwnnw yn parhau i dyfu. Yn y cartref, er enghraifft, mae ffrydio fideo i setiau teledu 4K ac 8K erbyn hyn yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar led band ac mae angen inni sicrhau bod y seilwaith yn parhau i ddiwallu'r galw hwn. Mae angen inni hefyd sicrhau, pryd bynnag y bo'n bosibl, ein bod yn lleihau'r angen am ymyrraeth gyhoeddus yn y dyfodol cymaint â phosibl drwy annog atebion cynaliadwy y gellir eu datblygu yn y dyfodol heb yr angen am ragor o fuddsoddiad cyhoeddus. Rydym ni, felly, wedi annog y farchnad i ganolbwyntio ar gyflawni cysylltedd gwibgyswllt a gigabit yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendr. Rwy'n gwybod bod ansicrwydd ynghylch pa safleoedd a gaiff eu cysylltu â'r amserlenni ar gyfer eu cysylltu wedi achosi rhywfaint o rwystredigaeth wrth ddarparu Cyflymu Cymru. I helpu i liniaru hyn, bydd y cynigiwr llwyddiannus yn gorfod nodi o'r cychwyn cyntaf y safleoedd penodol a fydd yn cael eu gwasanaethu mewn unrhyw lot penodol. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i drigolion a busnesau yn y cynllun, a bydd hefyd yn galluogi'r safleoedd hynny na fydd yn cael eu cynnwys i ganolbwyntio ar ddulliau amgen.
Rwy'n ymwybodol iawn bod llithriant yn yr amserlenni cyflawni wedi bod yn bla i Cyflymu Cymru a gwnaeth hyn achosi rhwystredigaeth ddiddiwedd i'r rheini y newidiwyd eu dyddiadau. Er ei bod yn annhebygol y gellir dileu llithriant yn y prosiect yn llwyr oherwydd cymhlethdod y beirianneg dan sylw a maint yr her, byddwn yn annog cyflenwyr i ystyried sut y gellir lleihau oedi ac i roi gwybod i safleoedd pan fydd newidiadau na ellir eu hosgoi yn codi. Er hyn, mae'n rhaid imi fod yn glir ei bod yn annhebygol y bydd y cyllid sydd ar gael yn darparu band eang cyflym i bob safle a nodwyd gennym. Mae'r gwahoddiad i dendro yn cynrychioli un rhan o gyfres o ymyriadau cydgysylltiedig a gynlluniwyd i wella cysylltedd. Bydd ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn yn parhau i ddarparu cyllid ochr yn ochr â'r gwaith hwn. Mae'r ddau gynllun yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu'r atebion cywir ac yn ategu'r cynllun newydd i olynu Cyflymu Cymru newydd a'r tirlun band eang ehangach.
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd, ychwanegol sy'n cefnogi cymunedau sy'n dangos galw pendant, gan dargedu yn arbennig y cymunedau hynny na fydd cyflenwyr yn eu cynnwys yn eu hymateb i'r gwahoddiad i dendro. Rydym yn ceisio sefydlu tîm allgymorth band eang i gefnogi'r dull hwn ac i weithio gyda chlystyrau o gartrefi neu fusnesau i harneisio'r galw hwn, diffinio prosiect lleol, a chaffael ateb. Mae llawer o waith i'w wneud ar y dull hwn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion maes o law.
Yn olaf, codwyd pryderon am y safleoedd hynny lle mae'n ymddangos bod y seilwaith sydd ei angen i'w cysylltu nhw wedi ei osod gan Openreach, ond nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau. Mewn amgylchiadau o'r fath, gall Aelodau fod yn sicr nad yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu unrhyw agwedd ar y seilwaith hwnnw. Rydym ni wedi gwahodd Openreach i roi manylion am y strwythurau hyn a byddwn yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r gwaith o'u cwblhau drwy'r dull cyfran enillion yn y cytundeb grant fel y gellir ymdrin â chynifer o safleoedd â phosibl. Yn ogystal â hyn, rwyf hefyd wedi cytuno i gais gan Openreach i ymestyn dau fis ar gyfnod adeiladu prosiect Cyflymu Cymru er mwyn i'r gwaith sydd wedi'i oedi ar ryw 2,500 o safleoedd gael ei gwblhau a'i gomisiynu. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Er fy mod i'n credu'n gryf na ddylid tanbrisio llwyddiant Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn annog yr Aelodau i ystyried y llwyddiannau sylweddol yn eu hetholaethau yn ogystal â'r heriau, rwyf yn cydnabod bod gennym lawer i'w wneud. Yn anad dim, mae angen inni sicrhau bod band eang cyflym ar gael i bawb er mwyn i Gymru allu ateb y galw cynyddol am led band cyflymach a digido cynyddol. Gyda'i gilydd, bydd y cynllun olynol, y cynllun cymunedol, a'n cynlluniau talebau yn darparu pecyn cynhwysfawr o ymyriadau a fydd yn ein helpu i gyflawni heriau'r dyfodol.
A gaf i gytuno ag arweinydd y tŷ fy mod yn credu bod yn rhaid inni ddathlu'r ffaith bod prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu band eang ffeibr i lawer o gartrefi a busnesau ledled Cymru? Canlyniad y gwelliant hwnnw, wrth gwrs, yw bod ymdeimlad o anghyfiawnder yn cynyddu ymhlith y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl, ac mae'r ymdeimlad o anghyfiawnder yn cael ei waethygu, rwy'n meddwl, gan oedi parhaus, cyfathrebu gwael a diffyg capasiti sydd wedi gadael lleiafrif sylweddol o drigolion yn meddwl tybed a fyddan nhw byth yn cael hyn a addawyd iddynt dro ar ôl tro—neu a ddylwn i ddweud 'ei amserlennu'? Rwy'n wirioneddol falch, wrth gwrs, arweinydd y tŷ, eich bod wedi cydnabod y rhwystredigaeth hon yn eich datganiad ac rwyf wedi fy nghalonogi y bydd y cynllun newydd yn rhwymo enillwyr unrhyw lotiau penodol i nodi pa safleoedd a gaiff eu gwasanaethu. Credaf fod hynny i'w groesawu yn fawr iawn ac rwy'n credu bod honno'n wers a ddysgwyd o'r cynllun Cyflymu Cymru.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae gen i gyfres o gwestiynau am y cynllun newydd. O'r 88,000 o safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd, faint a nodwyd yn rhan o'r adolygiad o'r farchnad agored a faint ohonyn nhw a oedd wedi'u cynnwys yn flaenorol ar gyfer eu huwchraddio o dan gynllun Cyflymu Cymru? Yr wythnos diwethaf, awgrymodd Openreach, yn sesiwn y pwyllgor, bod ganddyn nhw'r manylion hynny, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi inni'r manylion hynny, yn ysgrifenedig, os nad heddiw. Yn eich datganiad, dywedasoch chi hefyd y bydd tair lot, ond mae rhai arbenigwyr telathrebu yn awgrymu y gallai rhy ychydig o lotiau olygu na fydd llawer o fudd drwy eu rhannu yn y modd hwn. Felly, a ydych chi'n cydnabod y farn hon? Ac, os ydych chi'n dyfarnu lot ar gyfer Cymru wledig gyfan, sut byddwch chi'n sicrhau fod y cymysgedd o dechnolegau yn ddigon hyblyg ar gyfer gwahanol ardaloedd sydd â gofynion unigryw oherwydd topograffeg heriol?
Roedd hi'n ymddangos bod adroddiad a gomisiynwyd gan Ofcom ar fodelu costau band eang i bawb yn awgrymu bod angen bod yn ofalus iawn ynghylch sut y mae'r cymysgedd o dechnolegau yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig, gan ddweud bod cost ffeibr i'r safle, os yw wedi'i glystyru, ddwy ran o dair yn llai na mynediad di-wifr sefydlog, tra bod cost cysylltiad ffeibr i'r adeilad, os yw'n wasgaredig, tua un rhan o bump yn fwy na mynediad di-wifr sefydlog. Felly, byddai gennyf ddiddordeb i glywed sut yr ydych chi wedi ystyried yr adroddiad hwn gan Ofcom wrth ddylunio'r gwahanol lotiau er mwyn ystyried hynny, fel bod arian cyhoeddus, wrth gwrs, yn cael ei wario'n effeithiol ac yn gwasanaethu cynifer o bobl â phosibl.
Rydych chi hefyd wedi cadarnhau y bydd y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yn £80 miliwn, sef dim ond tua £900 fesul safle, ac mae'n ymddangos bod hyn yn awgrymu cymysgedd o dechnoleg lle bydd ffeibr i'r cabinet a di-wifr yn dominyddu, sy'n faen tramgwydd mawr, byddwn i'n awgrymu, i'r preswylwyr hynny sydd â llinellau hir ym mherfeddion cefn gwlad Cymru, fel Powys a Cheredigion, er enghraifft. Felly, a gaf i ofyn sut y byddwch chi'n gochel rhag y posibilrwydd o gyflwyno technoleg israddol sy'n methu â chyflawni mewn lleoliadau gwledig anghysbell? Gwnaf roi enghraifft. Pe byddai Openreach yn ennill lot, siawns y byddai hynny'n gam yn ôl pe bydden nhw'n penderfynu defnyddio mwy o ffeibr i'r cabinet i arbed costau, yn hytrach na bwrw ymlaen â ffeibr i'r safle ar gyfer y dechnoleg VDSL pellgyrhaeddol, sydd eisoes wedi ei dreialu'n llwyddiannus yn ucheldiroedd yr Alban.
Rwy'n cymryd y disgwylir i'r lotiau i gyd ar gyfer y cynllun newydd gael eu dyfarnu yn nes ymlaen yn y gwanwyn, felly ni fydd yn dechrau cael ei gyflwyno tan yn hwyrach yn yr haf neu'r hydref, a bydd hyn fisoedd lawer, wrth gwrs, ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben, gan adael miloedd o safleoedd yn angof yn y cyfamser. Felly, a gaf i ofyn pam na wnaethoch chi sicrhau bod y cynllun yn dilyn yn union ar ôl cynllun Cyflymu Cymru er mwyn osgoi'r oedi anochel hwn, a beth fydd yn digwydd os ydych chi'n barnu nad yw'r un o'r cynigion yn dderbyniol ar gyfer un neu fwy o'r lotiau, neu os nad oes gan yr un cwmni ddiddordeb mewn un neu fwy o'r lotiau?
Ac yn olaf, rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod y seilwaith wedi'i gyflwyno'n rhannol mewn rhai cymunedau, ac mae llawer ohonom wedi clywed adroddiadau, wrth gwrs, fel y soniasoch chi, am geblau yn hongian o bolion yn aros i gael eu cysylltu. Beth fydd yn digwydd i'r cysylltiadau ffeibr i'r adeilad hynny a gyflwynwyd yn rhannol gan Cyflymu Cymru sydd a redodd allan o amser? A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn defnyddio'r arian cyfran enillion i sicrhau bod ôl-troed cyflym iawn i'w weld 100 y cant yn y cymunedau hyn?
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rydym ni wedi ystyried yn fanwl sut y gallwn ddatrys rhai o'r materion y mae Russell George yn ddilys iawn wedi tynnu sylw atyn nhw, ac rydym ni wedi mynd am y gyfres o lotiau er mwyn cael darpariaeth benodol iawn ar gyfer mathau penodol o gymunedau. Dyna pam y mae lot cymunedol yno hefyd, oherwydd rydym ni eisiau gallu sicrhau ein bod yn cael y technolegau hyblyg cywir ar gyfer cymunedau gwahanol. Ac felly, mae cryn dipyn o waith i'w wneud ar gyfer rhai o'r cymunedau unigryw o ran sut y bydd datrysiad technoleg gorau yn gweithio, pa ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd y gellid eu denu pan fydd y dechnoleg ar waith, pa fath o berthynas fyddai rhwng y darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd hynny a rhai o'r darparwyr mawr, ac ati.
Fe soniaf am un enghraifft wrtho, oherwydd mae'n dangos y broblem. Yn aml, os wyf i'n siarad â rhywun sydd â band eang araf iawn—0.02 Mbps neu rywbeth o'r fath—mae'n dweud wrthyf i nad yw'n poeni am 30 Mbps; byddai'n falch iawn o gael 7 Mbps neu beth bynnag. Dim ond eisiau lanlwytho ei daliad sengl ac ati sydd arno eisiau ei wneud. A dyna'r anhawster, oherwydd, yn gyntaf oll, rydym ni'n sôn am gyflymderau lawrlwytho, ond yn aml bydd pobl yn sôn am broblemau uwchlwytho. Mae yna broblemau gwirioneddol o ran beth sy'n digwydd pan rydych chi'n cael 7K ac yn canfod na allwch chi ffrydio Sky mewn gwirionedd ac nad yw eich plant yn eu harddegau yn gallu gwneud eu gwaith cartref, ac yn y blaen. A rydym wedi cael gwybod gan ein cynghorwyr busnes, mewn gwirionedd, pan fo pobl yn camu ar yr ysgol honno, nad ydyn nhw, yn sydyn, yn fodlon â 7 Mbps; maen nhw eisiau dringo'r ysgol honno. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym ni system ar waith sy'n ddiogel at y dyfodol nad yw'n achosi problemau o'r math hwnnw. Felly, bydd cymysgedd yn gwbl hanfodol.
Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n nodi ein bod wedi gwrando ar y mater ynghylch amserlennu a phobl yn cael eu cynnwys neu eu hepgor, ac ati. Felly, mae gennym bellach fap penodol iawn sy'n nodi safleoedd. Rydym wedi gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr ein bod yn gwybod ymhle mae'r safleoedd hynny. Mae cysgod ar y map, sef lle rydym wedi cael rhyw arwydd drwy'r adolygiad o'r farchnad agored gan ddarparwyr eu bod nhw eu hunain yn mynd i ddarparu band eang cyflym iawn neu gwibgyswllt yn yr ardaloedd hynny. Bydd Russell George yn cofio'n dda sut y gwnaethom ni hynny y tro diwethaf, a'r ffaith ein bod ni wedi gorfod amrywio'r contract ar gyfer 42,000 o safleoedd eraill pan adolygwyd y cynlluniau hynny. Rydym ni wedi dysgu'r wers honno ac felly rydym ni wedi ei strwythuro mewn modd sy'n golygu y bydd y safleoedd hynny yn y cysgod yn dod i mewn i'r contract neu'n cael eu hepgor pan welwn ni eu bod nhw wedi'u cysylltu neu beidio. Felly, i ateb eich cwestiwn am hynny, wrth iddo ddod yn hollol glir pa un a fydd yna gyflwyno masnachol ai peidio neu a ydynt yn rhan o'r estyniad hwn ai peidio, fe fydd y bobl hynny yn dod i mewn ac allan o'r lotiau amrywiol ac rydym ni yn fwriadol wedi ei ystwytho er mwyn inni allu gwneud hynny ac nad oes gennym y broblem honno.
Y rheswm yr wyf wedi cadw'r cynllun talebau ar waith, er hyn, yw oherwydd—nid yw hyn yn gyfrinach—nad yw £18 miliwn, er ei fod yn swm sylweddol o arian ac yn fuddsoddiad mawr gan y Llywodraeth, yn ddigon i gyrraedd pob safle yng Nghymru. Bydd rhai pobl yn dal i fod yn anhygyrch mewn un ffordd neu'r llall ac felly byddwn yn disgwyl i'r cynllun talebau fod yn weithredol lle byddan nhw'n talu cyfran a byddwn ni'n parhau i dalu cyfran, i gyrraedd y safleoedd hynny sy'n anodd iawn eu cyrraedd Rwy'n gwbl agored ynglŷn â hynny. Mae topograffi Cymru yn golygu mai dyna'r sefyllfa—dyna'r sefyllfa.
Dywedaf hyn, fodd bynnag: rwyf bob amser yn rhyfeddu at nifer yr unigolion sy'n ysgrifennu ataf i ddweud eu bod wedi prynu tŷ yn ddiweddar a'u bod erbyn hyn yn siomedig iawn â'u cyflymder band eang. Dirprwy Lywydd, byddwn yn dweud hyn wrth werthwyr a phrynwyr tai yng Nghymru: beth am wirio hyn yn gyntaf? Os yw'n mynd i gostio £25,000 i chi i gael band eang, beth am ystyried tynnu'r gost honno oddi ar pris y tŷ yr ydych chi'n ei brynu? Mewn gwirionedd, hyd nes inni gael rhywfaint o realiti masnachol i hyn, ni allwn ni ddisgwyl cael cymorth y wladwriaeth bob amser. Rwy'n derbyn yn llwyr os ydych chi wedi bod yn eich tŷ chi am amser hir ac nad oes unrhyw fai arnoch chi, bod technoleg wedi newid ac ati, ond os ydych chi'n prynu tŷ newydd neu os ydych chi'n prynu safle newydd, er mwyn y nefoedd, pam na wnewch chi wirio cyn prynu?
Mae'n bosibl bod pobl yn tybio ein bod ni'n rhan o'r unfed ganrif ar hugain, felly dydw i ddim yn siŵr a wyf yn cytuno ag arweinydd y tŷ yn y fan yna. Dylid croesawu'r cynnydd a wnaed yn llwyr, ac rwy'n synhwyro yn natganiad arweinydd y tŷ ei bod yn amgyffred, fodd bynnag, teimladau o ddicter ac anghyfiawnder ymysg llawer o unigolion a llawer o gymunedau yr wyf i ac Aelodau eraill anrhydeddus yn eu cynrychioli. Mae hynny'n drasiedi mewn ffordd, oherwydd mae'r dechnoleg hon, a oedd i fod i arwain at ddiddymu pellter—i leihau'r anfantais sy'n wynebu cymunedau gwledig—mewn gwirionedd wedi ei waethygu. Nid oedd i fod felly. Dyna beth y mae'n rhaid i'r datganiad hwn fynd i'r afael ag ef. Felly, a gaf i ofyn—yn amlwg, rwy'n croesawu'r cynllun cyflenwi gwledig y mae hi wedi awgrymu—a yw hi wedi ystyried, o gofio'r torri addewidion a oedd, yn anffodus, yn nodwedd gyson o Cyflymu Cymru, cyflwyno cymalau cosb yn y contract hwnnw pe byddai'r mathau hynny o addewidion yn cael eu torri yn y dyfodol?
Soniodd am Geredigion a Phowys, a heb os mae llawer mwy o waith i'w wneud yno, ond a gaf i ofyn iddi hefyd roi ar y cofnod y bydd ardaloedd eraill o Gymru—Sir Gaerfyrddin, fy etholaeth fy hun, sydd ag un o'r cysylltiadau cyflym iawn isaf o bob rhan o Gymru—yn cael eu cynnwys hefyd?
Soniodd am y—dywedodd hefyd na allwn addo y bydd pob safle yng Nghymru hyd yn oed yn cael ei gysylltu o ganlyniad i'r ymyriadau hyn, felly a wnaiff hi roi ffigur i ni—canran? A ydym ni'n sôn am 0.1 y cant neu lai na 0.1 y cant?
Cyfeiriodd at y 2,500 eiddo y mae Openreach wedi addo gwneud rhagor o waith arnyn nhw oherwydd y sefyllfa warthus lle mae gan etholwyr—ac rwyf i ac Aelodau eraill wedi gweld achosion lle mae eu ceblau wedi eu clymu i fyny y tu allan i'w drysau ac eto ni allan nhw gael cysylltiad—a wnaiff hi roi unrhyw wybodaeth inni am ble y bydd y 2,500 o safleoedd hynny wedi eu lleoli, pryd fyddwn ni'n gwybod, ac a fydd hi'n gallu dylanwadu ar y dewis o lle y gwneir y buddsoddiad ychwanegol hwnnw?
Ac yn olaf, soniodd bod yna dri phecyn: cyflawni gwledig, gwibgyswllt a safleoedd busnes. A gaf i ei hannog, yn hytrach na gwneud y gwaith gwledig ar y diwedd y tro cyntaf hwn, a gawn ni ganolbwyntio'r buddsoddiad gwibgyswllt mewn ardaloedd, cymunedau ôl-ddiwydiannol, yn y cymoedd gogleddol ac mewn mannau eraill o'r Gymru wledig, fel bod yr ardaloedd hynny mewn gwirionedd yn ardaloedd prawf yn hytrach na bod buddsoddiad y don nesaf bob amser yn digwydd mewn ardaloedd trefol sydd eisoes â gwell cysylltiad?
Wel, mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, ond gadewch imi eich cywiro chi, Dirprwy Lywydd, ar y pwynt gwledig hwnnw. Rwy'n cynrychioli canol Abertawe. Does dim Cyflymu Cymru yno. Ymyriad marchnad yw hwn, felly mae'n bennaf yn rhaglen wledig neu wledig iawn. Gwnaethpwyd y cyfan o gam cyntaf rhaglen cyflym iawn ar sail adolygiad marchnad agored pan wnaethom ofyn i ddarparwyr masnachol lle yr oeddyn nhw yn mynd i fynd, ac mae hwn yn ymyriad cymorth gwladol. Felly, dim ond i'r lleoedd yr oedd y farchnad yn dweud wrthym na fydden nhw'n mynd yr ydym ni'n gallu mynd. Felly, does dim Cyflymu Cymru o gwbl yng nghanol Caerdydd, er enghraifft, nac yng nghanol Abertawe neu yn wir yn Wrecsam neu mewn ardaloedd poblog mawr, oherwydd, fel y gallwch chi ddychmygu, dyna ble mae'r gwariant masnachol da. Dyna ble y gallan nhw gael yr elw gorau am yr arian y maen nhw'n ei fuddsoddi'n fasnachol ac ati. Felly, mae hon wedi bod yn rhaglen wledig neu'n lled-wledig bob amser. Felly, byddwn yn parhau â hynny.
Nid oeddwn i'n ceisio dweud y byddwn yn sicrhau cyflawni gwledig neu gwibgyswllt. Roeddwn i'n ceisio dweud ein bod ni'n canolbwyntio ar flaenoriaethu cyflenwi busnesau gwledig a gwibgyswllt. Gwnaeth yr Aelod bwynt da iawn ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn ei gylch. Nid oes unrhyw rheswm o gwbl pam y dylai cymunedau gwledig orfod dringo rhyw fath o ysgol anweledig. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylen nhw neidio o ddim i 100, a dyna beth y byddwn ni'n ceisio ei wneud. Ond rwyf i eisiau bod yn gwbl onest â'r Aelodau heddiw a dweud y bydd yn ddrud iawn yn wir i gyrraedd rhai o'r safleoedd anghysbell yng Nghymru, ac ni fydd yn bosibl gyda'r £80 miliwn sydd gennym. Felly, i ni, bydd hi bob amser yn gyfaddawd rhwng cyrraedd cymaint o bobl â phosibl a gwneud yn siŵr bod gennym atebion pwrpasol ar gyfer cymunedau o bobl sydd mewn ardal benodol y gallwn ni ei chyrraedd. Mae hynny'n gyfaddawd anodd bob amser. Roedd yn anodd ar gyfer y rhaglen gyntaf ac mae'n anodd yn hon. Dyna pam yr wyf i wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yn siarad â chymunedau—rwy'n hapus iawn i ddod i unrhyw gymuned y gwyddoch chi amdani—am atebion pwrpasol iddyn nhw er mwyn gallu gwneud hynny yno.
Ond rydym ni'n cael ein llesteirio mewn nifer o ffyrdd hefyd. Mae anhawster ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn parhau i ystyried band eang a sbectrwm fel menter broffidiol i'w gwerthu i'r cynigydd uchaf—mae honno'n broblem fawr i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—a hefyd eu bod yn dal yn amharod i'w ystyried yn un o'r cyfleustodau. Felly, rydym ni'n dechrau'r holl broblemau o fforddfreintiau ac ati, oherwydd bod hwn yn dal i gael ei ystyried yn gynnyrch moethus, ac mae'n amlwg nad yw erbyn hyn. Felly, er enghraifft, nid oes unrhyw hawl i groesi tir. Felly, petaech yn cael cyflenwad trydan, byddai gennych chi'r hawl i groesi tir. Byddai'n rhaid i chi dalu swm da o arian am y fforddfraint a oedd yn angenrheidiol, ond byddech chi'n gallu gwneud hynny. Ni allwn ni. Felly, mae gennym filoedd o safleoedd yng Nghymru sy'n sownd y tu ôl i fforddfreintiau y mae angen inni eu negodi ar sail fasnachol, ac mae hynny'n anhawster parhaus. Felly, mae yna rai materion ideolegol. Mae'n ddrwg gen i ddefnyddio'r gair hwnnw—rwy'n gwybod ei fod yn gallu ennyn teimladau cryf, ond mae'n hollol wir. Credaf y dylai fod yn seilwaith cyhoeddus yn yr un modd â ffyrdd, mae mor hanfodol. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU yn dal i'w ystyried yn gynnyrch moethus y byddai pobl yn dewis ei gael ac mae hynny'n llesteirio'r ffordd y gallwn ni ei gyflwyno.
Rydym wedi ceisio, wrth strwythuro'r tendr newydd hwn, ymdrin â rhai o'r materion y mae pobl wedi eu codi gyda mi wrth i mi deithio o amgylch Cymru.
Gweinidog, roeddech chi'n iawn i ddweud bod hwn yn un o'r cyfleustodau allweddol, a dylem ni gydnabod y byddai miloedd o'm hetholwyr, heb ymyrraeth marchnad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, heb fand eang ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs mae'r rheini sydd wedi'u gadael ar ôl yn dal i fod yn rhwystredig. Cefais gyfarfod cyhoeddus bywiog nos Wener yng nghymuned y Bynie ger Llanelli, lle mae yna rwystredigaeth amlwg am y ffordd y maen nhw wedi cael eu trin. Soniasoch chi'n gynharach, pan fydd pobl yn prynu eu cartrefi, y dylen nhw wirio'n gyntaf y bydd ganddyn nhw gysylltiad. Fe wnaeth pobl yn y Bynie wirio, a dywedwyd wrthyn nhw y byddai yna gysylltiad. Mae ganddyn nhw sgrinluniau, mae ganddyn nhw negeseuon e-bost gan Openreach hyd at ddiwedd mis Rhagfyr a dyddiad yn dweud y byddai'n cael ei gysylltu, dim ond i gael gwybod na fyddai bellach yn digwydd, gydag esboniad pryfoclyd i rhai ohonyn nhw eu bod wedi'u cysylltu â chyfnewidfa Abertawe, nid cyfnewidfa Llanelli, a oedd yn cael ei galluogi ac sy'n mynd yn groes i bob synnwyr cyffredin.
Rwy'n croesawu'r cynlluniau a nodwyd gan y Gweinidog. A gaf i ofyn iddi'n benodol a wnaiff hi ystyried achos fy etholwyr yn y Bynie a gweithio gyda mi i weld beth y gellir ei wneud i'w helpu, oherwydd rwyf wir yn credu eu bod nhw wedi cael eu trin yn wael iawn?
Mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn, ac rwyf wedi ailadrodd droeon yn y Siambr hon rwystredigaeth pobl sy'n cael eu gadael ar ddiwedd y prosiect cyflym iawn. Roedd y cysylltiad wedi'i amserlennu, ond nid ei addo, ond, serch hynny, ar ôl amserlennu rhywbeth am gyfnod hir iawn o amser gall hynny deimlo'n debyg iawn i addewid. Nid wyf yn ceisio esgusodi fy hun drwy ddefnyddio semanteg, ond mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud. Rwy'n fwy na pharod i ddod gydag ef i'r gymuned neu i ystyried, fel ateb ar bapur, beth y gellir ei wneud ar gyfer y gymuned benodol yn y fan yna.
Ceir rhai problemau o ran â pha gyfnewidfa benodol y mae'r cysylltiad, ac os yw'n gysylltiad ffeibr i'r cabinet drwy rwydweithiau copr yna un o'r anawsterau yw nad yw BT wedi ad-drefnu ei rwydwaith copr er mwyn cyflwyno band eang, a dyna un o'r pethau yr ydym ni hefyd—. Mae llawer o bobl wedi codi hyn gyda mi dros y blynyddoedd ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef yn y lotiau nesaf. Ond mae yna broblem fawr ynghylch ymagwedd Llywodraeth y DU ac ymagwedd Ofcom at rhwydwaith copr BT a'r hyn sydd angen ei wneud i ad-drefnu hwnnw er mwyn hwyluso rhai o'r cysylltiadau band eang hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i ddod i siarad â'r gymuned dan sylw.
Rwy'n croesawu'r datganiad ac rwy'n hapus i gymeradwyo arweinydd y tŷ am ei hegni a'i hymrwymiad yn y rhan hon o'i dyletswyddau. Rwy'n credu ei bod yn deg i ganmol Gweinidogion pan fyddan nhw wedi bod yn llwyddiannus yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac rwy'n cydnabod yr anawsterau ymarferol y mae hi wedi gorfod ymdopi â nhw. Yn y pen draw, ni allai unrhyw berson rhesymol anghytuno â'r hyn y dywedodd. Mae'n bosibl ei bod hi bron yn amhosibl i gysylltu pob un tŷ neu safle yn y wlad, beth bynnag yw'r gost, er ein bod yn derbyn hynny ar gyfer cyfleustodau eraill fel cysylltiadau trydan ac ati, ac, yn wir, y gwasanaeth post cyffredinol, ond nid yw hynny'n gofyn am y math o fuddsoddiad seilwaith y mae hyn yn ei fynnu.
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi ac yn wir popeth y mae'r Aelodau eraill wedi ei ddweud yn ystod y ddadl hon ac ni wnaf ailadrodd unrhyw beth sydd wedi'i ddweud o'r blaen. Hoffwn i ofyn ynghylch y llithriant yn yr amserlenni cyflawni yr ydym ni wedi clywed llawer yn ei gylch.
Un o'r pethau y cyfeiriwyd ato, gan Lee Waters rwy'n credu, eiliad yn ôl, yw rhwystredigaeth pobl y dywedwyd un peth wrthyn nhw dim ond i ddarganfod nad oedd yn wir. Tybed os, yn y dyfodol, y gallai fod rhywfaint o orfodaeth ar gyflenwyr neu ddarparwyr y gwasanaethau hyn i roi cyhoeddusrwydd i'r camau a'r cynlluniau manwl gywir y maen nhw'n eu sefydlu i leihau llithriant amser a bod â rhyw fath o system—ni allwn ni ddileu oedi'n llwyr oherwydd nid oes neb yn gallu rheoli digwyddiadau'n gyfan gwbl yn yr amgylchiadau hyn, ond mae angen inni fod â rhyw fath o system well o gyfathrebu a chyfathrebu mwy onest a thryloyw a allai, efallai, gael ei threfnu yn haws yn ganolog, yn hytrach na dim ond aros i'r cwmnïau weithredu eu hunain. Y tîm allgymorth band eang, er enghraifft, y cyfeiriodd hi ato yn y datganiad—a allai hwnnw gael ei ehangu i gynnwys monitro llithriant o ran cyflawni ac amserlenni, gan nodi achosion o broblemau penodol a gweithio gyda darparwyr i hwyluso'r broses o ddatrys anawsterau?
Diolch i chi am y pwyntiau pwysig hynny. Fe wnaf ymdrin—. Ni wnes i ymdrin, pan atebais Adam Price, â'r 2,500 o safleoedd sydd yn y cysgod hwn—ymddiheuriadau. Felly, fe wnaf hynny gan fod Neil Hamilton wedi codi mater tebyg.
Mae sawl grŵp o bobl yr ydym ni'n ceisio ymdrin â nhw. Mae'r grŵp o bobl yr addawyd Cyflymu Cymru iddyn nhw ond sydd wedi syrthio allan o gwmpas y contract. Rydym ni wedi gwneud darn enfawr o waith gyda BT Openreach dros yr ychydig fisoedd diwethaf i nodi ble mae'r safleoedd hynny ac rydym wedi negodi gyda nhw y bydd y bobl hynny yn cael eu cysylltu, os oes 98 y cant ohonyn nhw wedi'u cwblhau—nid wyf am fod yn atebol am y canran—ond yn agos iawn at gael eu cwblhau, a bydd hynny'n cael ei wneud heb unrhyw gost ychwanegol i ni o dan gynllun grant y contract. Felly, rydym wedi ymestyn dyddiad terfyn y contract, ond ni fydd unrhyw gost i hynny, felly mae'n rhan o'r cynllun gwreiddiol, heb unrhyw gost i hynny. Mae hynny wedi'i negodi yn benodol oherwydd rhwystredigaeth pobl sy'n gallu ei weld yn dod, ond yna mae'n stopio ychydig cyn eu cyrraedd nhw.
Mae darn arall o waith yn cael ei wneud i nodi ymhle y mae seilwaith wedi ei roi yn y ddaear—prysuraf i ddweud, heb unrhyw gost i'r pwrs cyhoeddus, oherwydd Openreach BT sy'n gwneud yr holl fuddsoddiad ymlaen llaw; dim ond pan fydd yn cyrraedd y safle y byddwn ni'n talu—i ganfod ble y mae hwnnw. Mae arnaf ofn eu bod yn cael eu galw'n 'adnoddau a adawyd'—rydych chi'n dechrau defnyddio llawer o jargon pan fyddwch chi'n ymdrin â'r bobl hyn. Ac i ddeall yn union ble mae hynny a pha fuddsoddiad y gallai fod ei angen i wneud rhywbeth o'r buddsoddiad sydd eisoes yno ac mae hwnnw'n drafodaeth barhaus. Yn wir, rwy'n gwybod bob math o jargon nad oeddwn yn ei wybod cyn hyn.
Ac wedyn mae yna rai lleoedd lle nad oes unrhyw adeiladu wedi digwydd. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud yn y datganiad hwn fy mod yn derbyn y pwyntiau a wnaeth pawb ynghylch cyfathrebu. Digwyddodd hynny yn rhannol oherwydd y modd y gwnaethom y contract cyntaf, a oedd yn gontract Cymru gyfan. Dim ond nifer y safleoedd a bennwyd gennym, ni wnes i bennu lle y dylen nhw fod, pwy ddylen nhw fod, nac unrhyw beth arall, ac er mwyn cyrraedd y nifer hwnnw o safleoedd, roedd yn ofynnol i'r contractwyr oradeiladu, oherwydd os oeddynt yn mynd i daro ar broblem hanner ffordd drwyddo ac na allent gyflawni'r niferoedd, doedden nhw ddim eisiau cael y cosbau sylweddol iawn yn y contract. Felly, roedden nhw'n goradeiladu. Felly, beth rydym ni'n ei wneud nawr yw ymchwilio i ble mae'r goradeiladu hwnnw wedi digwydd i weld a allwn fanteisio arno. Felly, o safbwynt y pwrs cyhoeddus, mae'n beth da, ond nid wyf yn bychanu rhwystredigaeth pobl ar ben arall rhywfaint o'r goradeiladu hwnnw a rhywfaint o'r cyfathrebu.
Yn y contract newydd hwn, rydym yn gofyn iddyn nhw nodi'r safle, felly byddan nhw'n dweud wrthym ni'n union ble y byddan nhw'n mynd a sut, ac yna bydd gennym ni amserlenni, a byddan nhw'n cael eu monitro. Fel yr wyf wedi dweud, nid yw'n bosibl dileu llithriant yn yr amserlenni cyflenwi, oherwydd mae'n gontract, ac yn un peirianneg, ond, y tro hwn, byddwn ni'n gwybod pam, a byddwn yn cyfathrebu hynny'n briodol â deiliad yr aelwyd. Mae'n ddigon posibl, ar ôl dweud y byddwn ni yn benodol yn cyrraedd 32 Acacia Gardens yn rhywle, mewn gwirionedd, ei bod yn amhosibl gwneud hynny yn y pen draw oherwydd pwy a ŵyr pa broblemau peirianneg a allai godi yn ystod y gwaith, ond bydd hynny'n cael ei gyfleu'n glir, bydd y safle hwnnw yn gwybod yn union beth yw ei sefyllfa, a gallwn eu cyfeirio at y cynlluniau talebau ac yn y blaen.
Roeddwn i eisiau dweud hefyd, Dirprwy Lywydd, nad ydym yn ddibynnol ar dechnoleg yn y fan yma; rydym ni'n agored iawn i unrhyw dechnoleg a fydd yn ein harwain i'r man lle'r ydym ni eisiau bod.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf i yn awr atgoffa'r gyfres nesaf o siaradwyr yn garedig y dylai fod yn ddatganiad byr iawn cyn i chi ofyn eich cwestiwn. Paul Davies.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Bydd hi ddim yn syndod i arweinydd y tŷ, fy mod innau, hefyd, yn parhau i gael gwybod gan etholwyr am ddiffyg cyflawni ym maes gwasanaethau band eang. Mae gen i bentrefi cyfan yn fy etholaeth i, fel Mynachlog-ddu, er enghraifft, lle mae peth o'r seilwaith wedi'i uwchraddio, ond heb ei gwblhau. Gwn fod Aelodau eraill wedi cyfeirio at hyn heddiw. Sylwaf o'ch datganiad eich bod yn bwriadu archwilio sut y gallwch gefnogi cwblhau'r prosiectau seilwaith hyn, felly a allwch chi roi sicrwydd i fy etholwyr i, fel y rhai sy'n byw yn Mynachlog-ddu, y byddan nhw'n cael y gwasanaethau band eang y maen nhw'n eu haeddu? A pha ddulliau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflenwi ar amser, mewn gwirionedd, ac o fewn amserlenni derbyniol? Yn olaf, Dirprwy Lywydd, a wnaiff arweinydd y tŷ ddweud wrthym ni pa feini prawf penodol a ddefnyddir i benderfynu pa ardaloedd fydd yn cael eu targedu o dan y cynllun olynol newydd hwn y mae hi wedi ei gyhoeddi heddiw, yn enwedig pan fydd yn derbyn y data diweddaraf ynghylch nifer y safleoedd sydd heb eu cysylltu drwy Cyflymu Cymru?
Diolch i chi am y pethau pwysig hynny. Felly, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith eisoes, bydd strwythur y contractau newydd yn wahanol iawn i strwythur yr hen gontract, felly bydd gennym safleoedd wedi'u diffinio. Nid ydym, ar hyn o bryd, yn dweud pa safleoedd, rydym yn gofyn i'r farchnad ddweud wrthym pa leoedd y gallan nhw eu cyrraedd gyda'r arian hwn a sut y gallan nhw ei wneud, a gofynnir iddyn nhw nodi y safleoedd y gallan nhw eu cyrraedd. Pan gawn ni'r wybodaeth honno, byddwch ni'n gwerthuso'r contract i weld beth sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian i ni, sy'n mynd â ni at y mwyaf o safleoedd ac ati. Bydd rhywfaint o gyfaddawdu rhwng safleoedd gwledig, ynysig iawn a phentrefi, fel yr un yr ydych chi'n sôn amdano ac y mae llawer o Aelodau Cynulliad eraill yn sôn amdanyn nhw hefyd. Mae rhai pentrefi lle mae gennym ni fand eang cyflym iawn yn rhannol, efallai yng nghanol pentref, a thai gwasgaredig yn mynd allan o bentref yn y patrwm daearyddol clasurol hwnnw, os gwnaethoch chi ddaearyddiaeth drefol, y byddwch chi wedi dysgu amdano. Mae rhai materion yn ymwneud â sut yr ydym yn cyrraedd rhai o'r cymunedau gwasgaredig, a dyna pryd yr wyf yn sôn am atebion pwrpasol ar gyfer rhai ohonyn nhw, a gallai hynny fod yn amrywiaeth o bethau: gallai fod yn ddi-wifr; gallai fod yn LANs caeëdig; gallai fod yn nifer o bethau y gallwn ymchwilio iddyn nhw.
Os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf yn tynnu sylw at gymunedau penodol lle ceir problem clwstwr o'r math hwnnw, hoffwn i gael gwybod hynny, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn eu hystyried. Dirprwy Lywydd, mae hwnnw'n gynnig i'r holl Aelodau yn y Siambr—hoffem yn fawr iawn ddeall beth yw'r sefyllfa.
Byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi a ydych chi yn y 2,500 o safleoedd, oherwydd rydym wedi nodi'r rhai hynny. Felly, unwaith eto, os ydych chi eisiau gofyn imi yn benodol iawn am unrhyw safle, yna byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi beth yw'r sefyllfa. Yn amlwg, does gen i ddim yr holl wybodaeth honno heddiw, ond os rowch chi llinell ffôn neu god post i mi, yna gallwn ni roi'r wybodaeth honno i chi.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ohebu yn gyson gyda hi dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod hefyd, gan ddweud nad wyf i'n ei hystyried hi'n stranded resource, o gwbl, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am ateb mor gyson i ohebiaeth gen i.
Rwyf i jest am ofyn yn glou iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet: yr £80 miliwn mae hi wedi sôn amdano sydd ar gael ar gyfer hyn, beth yw ffynhonnell yr arian yma? A ydym ni'n dal i ddefnyddio arian Ewrop tuag at y pwrpas yna ac a oes sicrwydd bod yr arian yna yn mynd i fod ar gael ar hyd y cyfnod?
Rydw i'n croesawu beth rydych chi wedi ei ddweud am y 2,500. Rydw i'n siŵr bod rhai o'r pethau rydw i wedi bod yn gohebu amdanynt gyda chi o bosib yn dod i mewn i hynny. Pryd fyddwn ni'n cael adroddiad nôl drwy ddatganiad ysgrifenedig neu rywbeth fod y gwaith yna wedi ei gwblhau, fel ei bod hi'n glir inni ein bod ni'n symud at yr un nesaf?
A gaf i jest ofyn yn glou am fusnesau? Mae llawer o fusnesau, yn enwedig yng nghefn gwlad, ond angen 10 MB neu beth bynnag. Maen nhw'n fusnesau, ond nid ydynt yn fusnesau trosglwyddo data fel y cyfryw; maen nhw'n defnyddio broadband jest i redeg y busnes. Pan fydd gennych chi fusnes trosglwyddo data, ie, dylai'r busnes fuddsoddi ei hun yn hynny, ond rydw i jest eisiau bod yn glir fod y gefnogaeth sydd gyda chi yn y cynllun yma yn ddigonol ar gyfer y busnesau SME sydd yn digwydd yng nghefn gwlad, achos yn rhy gyson, maen nhw'n cael gan BT, 'Ond mae'n rhaid i chi dalu eich hunain', lle rydw i'n teimlo, fel chithau, mae'n siŵr, fod seilwaith cyhoeddus fan hyn ar gyfer busnesau yn mynd o gwmpas busnes bob dydd. Eto, nid ydw i'n sôn am rywbeth sy'n defnyddio data fel y cyfryw.332
A jest ar y pwynt olaf yna, ynglŷn â seilwaith cyhoeddus, rydych chi wedi crybwyll eich hun ynglŷn ag Ofcom. Rydw i o'r farn y dylai Ofcom osod mynediad at ryw gyflymder fel rhyw fath o hawl i bawb, lle bo hynny'n gwbl ymarferol. Mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi gwneud y penderfyniad yna am resymau gwleidyddol. A ydych chi mewn trafodaeth gydag Ofcom yn barhaus ar hyn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru agwedd tuag at droi'r ffordd rydym ni'n ei wneud e ar hyn o bryd yn rhyw fath o waith statudol a mynediad statudol i fand eang?
Ydy. Mae Simon Thomas yn codi nifer o faterion perthnasol iawn. Byddaf yn diweddaru'r Senedd cyn gynted ag y bydd gennyf y ffigurau ar yr alldro, a fydd, fel rwy'n dweud, tua 16 wythnos o ddiwedd y contract. Cyn gynted ag y byddan nhw gen i, byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Bydd y diweddariad hwnnw yn cynnwys nifer y safleoedd sydd wedi'u cysylltu ym mhob etholaeth, a hefyd y ffigurau sy'n manteisio ar y gwasanaeth hwnnw.
Roeddwn i eisiau achub ar y cyfle hwn i sôn ychydig am y ffigurau manteisio, oherwydd gofynnodd Simon Thomas yn benodol beth yw'r £80 miliwn, ac mae'n hollol iawn: mae'n gymysgedd o gyllid Ewropeaidd, swm bach o gyllid Llywodraeth y DU, a chyllid Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys y gyfran enillion, ac fe atgoffaf yr Aelodau y byddwn ni, cyn gynted ag yr ydym yn mynd dros 21 y cant o fanteisio ar unrhyw un adnodd, yn dechrau cael cyfran enillion, ac mae'r gyfran enillion honno yn mynd ymlaen i'r dyfodol. Felly, po fwyaf o bobl sy'n cael eu cysylltu y mwyaf o arian sydd gennym, ac ni allaf bwysleisio digon i'r rhai hynny ohonoch chi sydd mewn ardaloedd â niferoedd manteisio isel—a byddaf yn cysylltu ag Aelodau Cynulliad unigol i drafod yr hyn y gellir ei wneud—mae angen inni gynyddu'r nifer sy'n manteisio, oherwydd yn amlwg, po fwyaf o arian sydd gennym, y mwyaf y gallaf ei wario ar ddarpariaeth i fwy o safleoedd. Ond mae'r cyllid Ewropeaidd yn ddiogel ar gyfer y cam hwn o'r prosiect; dydyn ni ddim yn poeni am hynny. Rydym ni'n gwario'r arian hwn cyn gyflymed ag y gallwn, ac mae gennym ni'r gyfran enillion i gynyddu'r arian, ochr yn ochr ag eraill.
O ran Ofcom a Llywodraeth y DU, rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda nhw am yr hawl i'r gwasanaeth hwn. Nid ydym ni wedi gallu ennill y ddadl bod hwn yn seilwaith hyd yn hyn, ond nid wyf wedi rhoi'r gorau i hynny. Rwyf ar hyn o bryd yn cael sgwrs am werthiannau sbectrwm 5G a sut y gellid gwneud hynny. Mae yna faterion clir ar gyfer awtomeiddio a cherbydau awtonomaidd a phob math o bethau. Dydw i ddim eisiau i fy signal Vodafone ddiflannu yn y canolbarth wrth yrru fy nghar awtonomaidd, ac nid yw neb arall eisiau hynny ychwaith. Felly, mae yna faterion gwirioneddol i'w hystyried, ac rydym ni'n dal i ymgysylltu'n weithgar iawn â Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i ni hefyd negodi hyn i gyd gyda BT y DU, oherwydd gwneir hyn i gyd o dan esemptiadau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, felly mae'n broses eithaf cymhleth i'w negodi, ond rydym ni wedi gwneud hynny.
O ran busnesau, mae cronfa ymelwa busnes pwrpasol. Rydym ni'n hapus i ddod at unrhyw fusnes—does dim ots pa mor fach ydyn nhw—i siarad â nhw am eu hanghenion. Mae'n syndod cyn lleied y mae rhai ohonyn nhw'n ei ddeall am yr hyn a ddaw pan fydd band eang cyflym iawn yn dod, ac weithiau mae'n amlwg iawn bod angen cysylltiad ether-rwyd arnyn nhw, a gallwn ni eu helpu nhw â system dalebau i wneud yr union beth hynny, neu yn wir os oes angen band eang cyflym iawn arnyn nhw, gallwn ni sicrhau eu bod wedi'u cofrestru gyda ni. Felly, mae'n werth eu nodi.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth a ddywedwyd, ond rwy'n croesawu'r datblygiadau, ac rwyf hyd yn oed yn ddigon hen i gofio y system ddeialu yn y 1990au. Ond daeth Openreach i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf, a chodais y mater ynglŷn â beth yw model busnes iddyn nhw o ran eiddo newydd. Yr ateb a gefais oedd 30 eiddo. Rydym ni i gyd yn gwybod, mewn ardaloedd gwledig, bydd hynny ynddo'i hun yn broblem yn y dyfodol. Felly, i'r perwyl hwnnw, rwyf eisiau gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael ag awdurdodau cynllunio, pan fyddan nhw'n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd, ac ar ba bwynt—a gofynais hyn i Openreach—y maen nhw'n edrych i'r dyfodol o ran datblygiadau newydd, er mwyn i ni allu olrhain cynnydd eisoes yn hyn ym maes adeiladau newydd. Oherwydd mae'n rhaid ei drin yn yr un modd ag y caiff unrhyw un o'r cyfleustodau eraill eu trin, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Y rheswm yr wyf yn gofyn yw oherwydd, yn yr ardaloedd gwledig lle mae gennym o leiaf 30 eiddo yn cael eu hystyried yn fuddsoddiad gan Openreach, mae perygl o ddiboblogi pellach yn y cymunedau hynny sydd eisoes yn cael eu diboblogi oherwydd mynediad at wasanaethau.
Mae aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig. Rwyf i wedi cael amrywiaeth o sgyrsiau eisoes, gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch beth y gallwn ni ei wneud. Yn sicr, mae nifer fawr o adeiladwyr tai yng Nghymru yn codi llai na 30 eiddo fel mater o drefn, ond mae amrywiaeth o bethau y gellir ei wneud eisoes am hynny: gellir ei gynnwys mewn cytundeb adran 106 pan fo'r cyngor yn mabwysiadu'r ffyrdd, er enghraifft. Mae'n llawer haws rhoi'r seilwaith yn ei le yn y lle cyntaf nag ydyw i'w ôl-osod.
Rydym ni wedi gwneud rhai pethau. Fe wnes i rywfaint o waith ar hyn gyda'r diweddar Carl Sargeant, mewn gwirionedd, ynghylch rheoliadau adeiladu a'r hyn y gellir ei wneud y tu mewn i dŷ i hwyluso hyn. Un peth eironig am hyn yw bod ein safonau inswleiddio newydd ac ati yn golygu ein bod yn creu, yn ymarferol, cawell Faraday yn eithaf aml, ac felly nid yw signal yn mynd drwyddo. Felly, os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol y tu mewn i'ch tŷ, bydd yn rhwystredig iawn i chi os nad yw wedi'i wifrio mewn modd benodol. Felly, mae yna rai materion mawr ynghylch rheoliadau adeiladu i wneud yn siŵr ein bod mewn gwirionedd yn gorfodi rhai o'r safonau. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Hefyd, mae gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ddarn o waith gyda chydweithwyr ym maes cynllunio—mae yna ddarn o ymchwil, yr ydym ni i fod i'w dderbyn unrhyw funud nawr, am seilwaith ffonau symudol, ac mae rhywfaint o hynny hefyd yn cynnwys yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer seilwaith band eang mewn rhai o'n cymunedau i wneud yn siŵr bod tai newydd yn cael eu cysylltu. Ond gadewch i mi wneud y pwynt y gwnes i yn gynharach: os yw'n effeithio ar y pris y gall adeiladwyr bychain ei gael am dai, yna byddan nhw'n ystyried hynny oherwydd ei fod yn effeithio ar eu helw. Felly, os, pan fyddwch chi'n prynu eich tŷ newydd yn lle bynnag y bo, y gwelwch chi ei bod yn mynd i gostio £10,000 yn rhan o'n cynllun cysylltedd cyflym iawn i gysylltu eich busnes bach yr ydych chi'n bwriadu ei redeg o'ch garej, yna rydych chi'n mynd i fod yn flin iawn. Felly, rwy'n annog pobl i ofyn y cwestiwn hwnnw yn gyntaf a phrisio'r tŷ yn unol â hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n rhannu'r pryderon ynglŷn â gallu'r broses gynllunio i ymdrin â rhai o'r materion hyn ar gyfer ystadau tai newydd, mewn gwirionedd, ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar ein hawliau datblygu a ganiateir, fel bod pobl a allai fod angen ateb symudol i'w hanghenion band eang yn gallu cael un hefyd. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gorfodi gweithredwyr i rannu mastiau, ac yn ogystal â hynny mae angen inni gynyddu uchder posibl mastiau y gellir eu codi heb hawliau datblygu a ganiateir yma yng Nghymru, sydd yn amlwg yn llawer is nag y maen nhw mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau y gellir eu gwneud yn y maes hwnnw.
Un cyfle arall hefyd, Gweinidog, nad ydych chi wedi cyfeirio ato, yw'r gallu i gael rhywfaint o fudd o gynllun cydgasglu band eang y sector cyhoeddus. Mae gen i ysgolion yn rhai o fy nghymunedau â cyflymder band eang gwych, ond ni all dim o'r eiddo o'u hamgylch fanteisio ar y cyflymder hwnnw oherwydd na chaniateir iddyn nhw gysylltu rywsut i'r ceblau sydd wedi llwyddo i gael y cyflymderau gwych hyn i'r ysgolion. Mae'n hollol hurt. Felly, mae angen i ni allu goresgyn rhai o'r heriau hyn, er mwyn bod yna gyfleoedd i gysylltu pan fo cyflymderau uchel yn cael eu darparu i rai yn y cymunedau hyn sy'n dioddef cyflymderau gwael iawn o rwydwaith BT Openreach.
Gennyf i y mae'r anffawd, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, o fod â'r gymuned â'r mynediad isaf at gyflymderau o fwy na 10 megabeit yr eiliad yn fy etholaeth i, yn Sir Ddinbych wledig, yn Llanbedr Dyffryn Clwyd. Dim ond 6 y cant o'r aelwydydd yn y fan honno sy'n gallu cael cyflymder band eang derbyniol, tra bod tua 90 y cant yn gallu cael mynediad at un gwell mewn mannau eraill. Rwyf wedi gwerthfawrogi eich diddordeb yn fy etholaeth i. Un peth sy'n fy mhryderu i, er hynny, am eich datganiad yw ei bod yn ymddangos i mi eich bod wedi ymestyn contract BT am waith a oedd eisoes wedi'i amserlennu ond na wnaethon nhw ei gwblhau. A fydd BT Openreach yn wynebu cosb am beidio â chwblhau'r gwaith y gwnaethon nhw addo ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr? Oherwydd nid yw hynny'n glir yn eich datganiad.
Y peth arall sy'n fy mhryderu yw eich bod chi'n gwneud y datganiad hwn nawr, ond roeddem ni'n gwybod beth oedd dyddiad terfyn y contract. 31 Rhagfyr y llynedd oedd y dyddiad hwnnw. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi ddatganiad cyn 31 Rhagfyr i alluogi pobl i lunio cynigion posibl, i feddwl am y pethau hyn fel nad oes gennym ni'r cyfnod aros hir hwn yn awr tra'r ydym ni'n aros am gyflenwyr posibl eraill i gyflwyno syniadau? Rwy'n credu ei bod yn siomedig nad ydych chi wedi cyflwyno rhywbeth cyn heddiw.
Wel, i roi sylw i'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, wrth gwrs rydym ni wedi bod yn cynnal yr ymgynghoriad gyda'r farchnad ers haf diwethaf, oherwydd dechreuodd y cyfnod adeiladu ym mis Mehefin y llynedd ar gyfer hyn, ac felly rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth â'r farchnad am strwythur hwn a phwy allai fod ar gael. Felly, gallaf eich sicrhau nad dyma'r tro cyntaf y bydd unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb yn hyn wedi clywed amdano. Yn wir, rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth â nhw.
Cododd yr Aelod gyfres o bwyntiau diddorol. Rwy'n ymwybodol iawn o rai o'r cymunedau yn ei etholaeth ef, ac yn wir ledled Cymru, sydd â chysylltedd isel iawn mewn cymuned benodol, ac, fel y dywedais, rydym ni'n mynd i fod yn ceisio edrych ar y cysylltiadau isaf yn gyntaf i geisio eu cynyddu. Fel y dywedais wrth Adam Price, nid wyf yn gofyn i bobl ddringo'r ysgol; rydym ni'n ceisio rhoi hwb iddyn nhw i ben uchaf yr ysgol. Felly, dyna un o amcanion y gyfres newydd o gontractau y byddwn ni'n gobeithio eu cyflwyno.
O ran cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, mae hwnnw'n fater diddorol yr wyf wedi'i drafod droeon â'm cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac yn wir mae peth cydweithio wedi bod gyda chynllun Cyflymu Cymru i gysylltu rhai o'n hysgolion cynradd gwledig i gyflymderau sy'n addas ar gyfer rhedeg Hwb ac yn y blaen. Felly, mae honno'n sgwrs barhaus. Rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen honno yn mynd yn dda iawn ac rydym ni'n falch iawn â hi.
Mae rhai materion difrifol iawn—ac ni wnaf sôn am y rheiny yn y fan hyn, i herio amynedd y Dirprwy Lywydd, ond rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod gyda'r Aelod—. Mae yna rai problemau cyfreithiol mawr iawn ynghylch cysylltiad â Phrosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus os nad ydych chi o fewn protocolau y Llywodraeth, oherwydd mae'n rhwydwaith diogel i ba bynnag lefel ydyw, ac mae yna rai materion yn hynny o beth. Ond rydym ni'n edrych ar rai cynlluniau cymunedol y gallem ni fanteisio arnyn nhw. Ceir rhai materion cyfreithiol dyrys yn hynny hyd yn oed, ond rydym ni'n ceisio gweld a allem ni, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi a fyddai'n hygyrch i gymunedau penodol ac ati. Felly, rydym ni'n mynd i'r afael â hynny, ond mae nifer o rwystrau i'w hwynebu. Ond rwy'n barod i drafod hynny ag ef.
O ran y contract ei hun, rydym ni wedi ymestyn y cyfnod adeiladu i'r 2,500 heb unrhyw gost i ni ein hunain. Gallaf eich sicrhau chi y byddwn ni'n dwyn BT ac Openreach i gyfrif o ran faint o safleoedd y gwnaethon nhw eu cyrraedd, ac, fel y dywedais i, rydym ni'n mynd drwy broses ddilysu a phrofi gadarn iawn wrth inni siarad i wirio'r ffigurau. Maen nhw'n dweud wrthyf i eu bod wedi cyflawni'r contract. Rwy'n gobeithio'n fawr iawn bod hynny'n wir, ond byddaf yn sicr iawn erbyn i mi adrodd yn ôl i'r Senedd y tro nesaf.
Diolch. Nick Ramsay.
Fe wnaf gadw hyn yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd—
Byddwch wir.
—oherwydd rwy'n gallu gweld bod gennych chi'r olwg yna yn eich llygaid. Dau gwestiwn cyflym—[Torri ar draws.] Roedd hwnnw'n ganmoliaeth, o ryw fath.
Braidd yn ffuantus.
Yn gyntaf, arweinydd y tŷ, llwyddiant—. Cychwyn cadarnhaol. Llwyddiant gydag etholwr o Gastell-newydd, ychydig i'r gogledd o Drefynwy—sydd wedi wynebu oedi hir wrth gael mynediad at gysylltiad ffeibr i'r safle, ac rwy'n gwybod bod hynny'n gymhleth. Gwelwyd mai'r rheswm am yr oedi yn y cysylltiad hwnnw oedd bod y cofnodion a oedd yn cael eu cadw gan wasanaethau band eang BT yn anghywir, a'u bod yn meddwl na allai ef ei gael mewn gwirionedd. Ond mae'n ymddangos ei fod yn gallu ei gael, felly roedd ei rwystredigaeth yn ddiangen. A allwch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n mynd i ymdrin â'r mathau hyn o broblemau yn y dyfodol? Oherwydd, os ydym ni'n gallu, os yw etholwyr yn gallu derbyn band eang, mae hi hyd yn oed yn fwy rhwystredig os, ar ôl iddyn nhw ei gael, eu bod yn darganfod y gallen nhw fod wedi ei gael ar hyd yr amser.
Yn ail, ac yn olaf, heblaw am eich ymweliadau a'ch teithiau i rannau gwledig dyfnaf, tywyllaf Sir Fynwy, ceir canfyddiad bod Sir Fynwy, ynghyd â rhai ardaloedd gwledig eraill, yn aml yng nghefn y ciw ar gyfer band eang BT, yn sicr o ran cyflenwi band eang cyflym iawn. Rwy'n credu yn Sir Fynwy bod y ffigur 20 y cant islaw'r targed ar ddiwedd y rhaglen gyntaf. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi'n mynd i'w wneud i atal hyn rhag digwydd gyda chamau yn y dyfodol? Yn y bôn, rydych chi wedi clywed y feirniadaeth hon gan Aelodau'r Cynulliad, nawr, ers misoedd a blynyddoedd lawer, ac mae'n amlwg yr hoffem weld y cam nesaf yn cael ei reoli ychydig yn well gan BT nag a wnaed yn y gorffennol.
Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau hynny. Dim ond i bwysleisio unwaith eto na chaiff ardaloedd gwledig eu hepgor; nhw yw'r rhai a wasanaethir gan y contract hwn. Felly, gallaf i eich sicrhau bod gen i sach bost yn llawn llythyron gan bobl sy'n flin iawn yn wir gan y cyflwyno masnachol yng nghanol Abertawe, ac ni allaf eu helpu o gwbl, oherwydd mae hon yn rhaglen wledig, yn cyflenwi band eang i ardaloedd na fyddai byth wedi ei gael heb ymyrraeth y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel—. Yn amlwg, rwy'n hapus i ymdrin â rhwystredigaethau y bobl hynny nad yw ganddyn nhw, ond fe wnaf bwysleisio, Dirprwy Lywydd, ein bod wedi cyrraedd bron i 700,000 o safleoedd yng Nghymru na fyddai byth wedi cael gwasanaeth o dan unrhyw brosiect cyflwyno masnachol. Felly, mae hwn yn llwyddiant anhygoel i Gymru. Nid yw hynny'n lleddfu dim ar rwystredigaeth y rheini ar waelod y rhestr, ond serch hynny mae'n llwyddiant enfawr, ac mae gennym ni'r cysylltedd mwyaf o unrhyw genedl ddatganoledig, felly mae'n beth pwysig iawn i'w ddweud.
Nid oedd targed wedi'i bennu ar gyfer Sir Fynwy, felly ni allan nhw fod 20 y cant islaw iddo. Doedd dim targed o'r fath. Mae'r targed wedi bod ar gyfer Cymru gyfan bob amser. Nid wyf i byth wedi pennu unrhyw darged ar gyfer unrhyw ardal o Gymru yn y cam cyntaf. Byddwn ni'n rhoi sylw i hynny yn yr ail gam. Bydd gennym dargedau penodol ar gyfer cymunedau a safleoedd penodol yn yr ail gam oherwydd rydym ni'n gwybod yn union lle y maen nhw, ac rydym ni'n gallu cael cynigion yn ôl yn dweud pwy yn union fydd yn mynd i ba safle. Felly, ni fydd hynny'n wir yn y dyfodol; bydd gennym raglen wahanol. Ond, yn y cam cyntaf, nid oedd unrhyw darged ar gyfer Sir Fynwy; dim ond ar gyfer Cymru gyfan yr oedd.
Rwy'n fwy na hapus i barhau â'm taith o gwmpas Cymru er mwyn gwrando ar faterion penodol ac er mwyn i bobl gyflwyno atebion penodol i mi. Byddwn ni'n parhau â'n holl gynlluniau talebau, sy'n gallu cael eu cyfuno yn gynlluniau cymunedol pan fo angen er mwyn i ni allu parhau i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.
Yn olaf, ac yn fyr, Mark Isherwood.
Ni fyddaf yn ailedrych ar yr achosion a'r pryderon a godais gyda chi yn y Pwyllgor yr wythnos ddiwethaf. Serch hynny, pa gyfran o'r £80 miliwn a ymrwymwyd i'r rhaglen fydd yn olynu Cyflymu Cymru yr ydych yn ei rhagweld fydd yn dod o'r ad-daliad gan BT sy'n gysylltiedig â chyflawniad eu targedau dan y cymal adfachu sydd gennych chi â nhw? A pha mor sicr yr ydych y bydd yr arian yr ydych chi'n ei ddisgwyl yn dod yn ôl i chi?
Wel, nid ydym—. Nid ydym—. Rydym yn rhagweld cyfran yr hyn a enillir ar sail maint y defnydd, fel ein bod yn gwybod yn union beth fydd hynny. Ac, fel yr wyf i'n parhau i siarsio'r Aelodau, os cewch ragor o bobl yn cysylltu, yna caf ragor o arian. Ond nid wyf yn gwario arian gan ddisgwyl hynny; rydym yn gwario'r arian y gwyddom sydd gennym oherwydd ein bod yn gwybod beth yw'r cysylltiad canrannol. Wrth i'r cysylltiad canrannol hwnnw gynyddu, bydd yr arian hwnnw'n codi, ac rydym wedi ymrwymo i roi'r arian hwnnw i'r rhaglen hon ac nid i fan arall. Nid oes raid inni wneud hynny, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny, ac felly byddwn yn gwneud hynny.
O ran y canrannau, nid yw'r rheini gennyf yma o'm blaen, ond, wrth inni osod y contractau, byddaf yn rhoi datganiad i'r Senedd yn nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud o ran gosod y contractau, a daw hynny'n glir.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Diolch.