Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn. A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, ac eitem 7, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir a Deddf Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018—yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy'n cynnig bod y ddau gynnig canlynol, eitem 6 ac eitem 7, yn cael eu rhoi gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Da iawn, oherwydd ni allwn eu darllen nhw i gyd eto. [Chwerthin.]