Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 30 Ionawr 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? O ran y sector annibynnol, mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i amlinellu ein bwriadau i ddeddfu yn y maes hwn, ac maen nhw'n gefnogol iawn i'r dull yr ydym yn ei gymryd. Nid ydyn nhw'n poeni dim ac maen nhw'n hapus i wneud eu rhan wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n ddiolchgar i Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru am eu croeso cychwynnol i'r cynigion hyn ac am eu parodrwydd i ymgysylltu â ni yn hyn o beth. Rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Nid oes a wnelo hyn â gorfodi cwricwlwm ar rieni sy'n addysgwyr cartref, ond mae deddfwriaeth eisoes yn bodoli yng Nghymru sy'n dweud bod gan bob plentyn yr hawl i addysg addas. Nawr, rydych yn llygad eich lle, mae'n debyg fod llawer o wahanol safbwyntiau ledled y Siambr hon ynglŷn â beth yn union yw addysg addas. Ond rwy'n siŵr y gall pawb gytuno bod sicrhau bod plentyn yn llythrennog ac yn rhifog yn gonglfeini sylfaenol sydd eu hangen ar unrhyw un i fynd ymlaen i gyflawni eu potensial a chael bywyd llwyddiannus, ac nid wyf i o'r farn fod a wnelo hynny a gorfodi plentyn i ddilyn cwricwlwm sy'n cael ei redeg gan wladwriaeth. Ond y sgiliau hynny y credaf eu bod yn angenrheidiol yw'r rhai y byddwn yn canolbwyntio arnynt. Yr hyn sy'n bwysig yw cael cysondeb ledled Cymru—nad oes gennym 22 o wahanol ddulliau o'r hyn y mae addysg addas yn ei olygu, a bod tegwch i'w gael, a bod tryloywder yn y broses honno. Dyna pam, yn fy marn i, y mae'n angenrheidiol cyflwyno canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar sut y dylen nhw gyflawni eu swyddogaethau yn hyn o beth, oherwydd nid wyf i eisiau gweld 22 o wahanol ddulliau. Rwy'n dymuno sicrhau cysondeb ac rwy'n dymuno i hynny fod yn glir o ran ein disgwyliadau ni. Bydd cyfle drwy'r ymgynghoriad, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni, i'r Aelodau gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw ar ffurf y canllawiau statudol.
Roeddwn i'n credu fy mod wedi egluro yn fy natganiad fy mod yn parchu hawl rhieni i ddewis addysg yn y cartref i'w plentyn os ydyn nhw'n credu bod hynny er lles gorau eu plentyn. Rwy'n ymwybodol fod rhieni'n gwneud hynny am lu o resymau. Un o'r pethau y cyfeiriodd Darren atyn nhw yw fod rhai rhieni yn teimlo eu bod dan orfodaeth i wneud y dewis hwnnw, a chredaf fod cryn waith i'w wneud—. Os yw pobl yn teimlo'u bod nhw'n cael eu gorfodi i wneud y dewis hwn oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth addysg prif ffrwd, mae angen inni weithio'n galetach i ymdrin â hynny. Bu peth tystiolaeth anecdotaidd ofnadwy am ysgolion yn annog rhieni i ddadgofrestru eu plant cyn yr arholiadau, fel na fydd materion yn ymwneud â phresenoldeb a materion yn ymwneud â pherfformiad mewn arholiadau yn cyfrif yn erbyn mesurau perfformiad yr ysgol. Yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Ceir llu o ymyriadau polisi eraill, y mae angen inni eu gwneud o ran sut yr ydym yn rheoli perfformiad mewn ysgolion, er mwyn newid y pethau hynny. Felly, nid oes a wnelo hyn â barnu'r dewisiadau y mae rhieni'n eu gwneud, ond mae a wnelo â dweud, 'Wrth gydbwyso'r hawl sydd gennych fel rhiant i ddarparu addysg yn y cartref i'ch plentyn, mae angen i ni, fel gwladwriaeth, wybod ym mha le y mae'r plant hynny.' Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn synnu, fwy na thebyg, wrth wrando ar y ddadl hon neu wrth wylio'r newyddion heno, nad ydym yn gwneud hynny'n barod—nid yw'r wybodaeth gennym ni'n barod. Mae'n fater o wybod ble yn union y mae'r plant hynny a'n bod ni'n bodloni ein hunain eu bod yn cael addysg addas, gan gydbwyso hawliau'r rhieni, ond hawliau'r plentyn hefyd.