Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 30 Ionawr 2018.
A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y sylwadau hynny, ac i Nick Ramsay am dynnu sylw yn gynharach at bresenoldeb Awdurdod Refeniw Cymru yma? Ef oedd eiriolwr y Siarter yn ystod hynt y Bil, ac mae'n dda gweld copïau ohono yn y Siambr y prynhawn yma. Roedd gwreiddiau llawer o'r gwaith yr ydym ni'n sôn amdano y prynhawn yma yn y Ddeddf, yr aeth Jane Hutt â hi drwy'r Cynulliad hwn yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn o weld bod y rheoliadau gerbron y Cynulliad yn cael ei chymeradwyaeth.