Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, rwy’n parchu’r ffaith bod y Cynulliad yn gallu penderfynu ei hun sut i ymdrin â gwahanol reoliadau yma, ond nid wyf ond yn bwriadu siarad unwaith wrth drafod yr hyn sydd gerbron.
A gaf i, yn gyntaf oll, jyst nodi’r ffaith bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn bresennol, fel sydd wedi’i grybwyll eisoes, heddiw yn y Cynulliad? Rwy’n gobeithio bod Aelodau wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â’r awdurdod—cwrdd ag aelodau’r awdurdod. Rydym ni yn y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at gydweithio â’r awdurdod ar y trethi newydd yma a’r ffordd y maen nhw’n cael eu gweithredu yng Nghymru.
Roedd hi’n dda gennyf i glywed heddiw, o dan y rheoliadau yr ydym ni’n eu trafod, fod y cofnod cyntaf wedi cael ei wneud yn swyddogol gan Awdurdod Cyllid Cymru o’r person cyntaf sydd wedi talu treth o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Felly, dyna'r person sydd wedi gwneud hanes—troednodyn, o leiaf, pwy bynnag yw’r cwmni hwnnw, yn hanes trethu yng Nghymru.
Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth osod y ddadl yn gynharach, dyma ni heddiw yn ymdrin â threthi am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad, yn sicr—y tro cyntaf am rai canrifoedd, rwy’n meddwl yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud. Mae hanes trethi yng Nghymru yn astrus iawn. Nid yw hi mor glir â dweud ein bod ni ddim wedi cael trethi ers 800 mlynedd. Yn sicr, roedd rhai o drethi’r tywysogion yn parhau ar ôl Llywelyn ein Llyw Olaf, ac yn sicr, hyd at ddyddiad y ddwy Ddeddf uno, roedd trethi’n cael eu gwneud yn lleol o dan yr hen gyfundrefn Gymreig. Felly, nid yw'n gwbl newydd inni drethu yng Nghymru, ond mae trethi wedi newid—nid oes doubt am hynny.
Rydym ni’n sôn heddiw am y dreth tirlenwi, a byddwn ni’n sôn yn y man am y dreth trafodion tir—ddim cweit y dreth ar wartheg a oedd gan yr hen Llywelyn, efallai, neu dreth yn lle gwasanaeth milwrol, neu'r dreth hyfryd gwestfa, sef casglu bwyd tuag at y brenin. Yr Arglwydd Rhys, nid tywysogion y gogledd, ond yr Arglwydd Rhys, a wnaeth droi gwestfa yn daliad ariannol yn hytrach na thaliad bwyd, a'i alw fe'n 'twnc'. Felly, os ydych chi am gyflwyno treth newydd, dyma enw i'ch treth newydd i chi: twnc. Talu teyrnged, wrth gwrs, yw twnc, ond enw da am dreth yw twnc.
Felly, mae yna hanes yng Nghymru o drethu; hanes a ddiddymwyd, wrth gwrs, gyda'r goresgyniad, ac a ddiddymwyd yn benodol gyda'r ddwy Ddeddf uno. Ond, yn y cyfnod ar ôl i ni golli ein tywysogion ein hunain—wel, brenhinoedd oedden nhw; roedden nhw'n cael eu galw'n dywysogion gan y brenhinoedd Saesneg, er mwyn gwneud gwahaniaeth, wrth gwrs, ond roedden nhw'n frenhinoedd mewn gwirionedd. Ar ôl colli ein pendefigion union ein hunain, roeddem ni'n dibynnu ar Senedd San Steffan i drethu yng Nghymru. Nid oedd modd am gyfnod hir iawn i San Steffan drethu yng Nghymru, achos nid oedd Aelodau Seneddol yn cael eu hethol, wrth gwrs, o Gymru i fynd i San Steffan er mwyn gwneud yr awdurdodaeth honno. Dim ond ar ôl yr ail Ddeddf uno, a dweud y gwir, y cawsom ni drethi yng Nghymru go iawn am y tro cyntaf, wedi'u mynnu gan y brenin, a hynny oedd sybsidi y brenin. Ar y pryd hwnnw, roedd hawl gan y brenin i godi sybsidi ar Gymru. A byth ers hynny, rydym ni wedi bod o dan y drefn trethu sydd yn deillio o San Steffan yn hytrach na'r fan hyn, a dyma ni yn dechrau tynnu'r grym yn ôl, tynnu'r rheolaeth yn ôl, hawlio rheolaeth eto, a pheth o'r grymoedd dros drethi yng Nghymru.
Wrth gwrs, dim ond dwy dreth sydd o dan ystyriaeth y prynhawn yma. Mae treth incwm yn mynd i ddod. Efallai y bydd mwy o ddadlau a mwy o anghytuno pan ddown ni at drethi incwm, ond mae'n bwysig i nodi, rydw i'n meddwl, fod hanes yn cael ei gwneud y prynhawn yma, yn y Siambr yma, gan ein bod ni'n gosod cyfraddau treth am y tro cyntaf—ac nid 3c y pen, fel yr oedd hi ar gyfer yr hen wartheg, ond rhywbeth llawer mwy sylweddol yn ôl y trethi tirlenwi a'r trethi trafodion tir, does bosib.
Hoffwn i hefyd droi at waith mwy priodol y Pwyllgor Cyllid, efallai, a jest atgoffa Aelodau ein bod ni'n gosod treth ac yn pleidleisio y prynhawn yma mewn ffordd wahanol i'r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Mae'r ddwy dreth sydd yn ein galluogi ni i drethu yn fan hyn yn rhoi hawl i Lywodraeth, y tro nesaf, i gyflwyno trethi ar y diwrnod, os oes angen, a bydd y trethi yn dod mewn dros nos, a bydd hyd at 28 diwrnod gan y Cynulliad wedyn i fwrw pleidlais ar y trethi yna. Os yw'r Cynulliad yn anghytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth, wrth gwrs, ac Awdurdod Cyllid Cymru dalu nôl y trethi, gan fod y Cynulliad wedi anghytuno â bwriad y Llywodraeth. Felly, rydw i'n nodi hefyd eich bod chi'n pleidleisio mewn ffordd wahanol y tro yma nag, efallai, y tro nesaf, gan ddibynnu, wrth gwrs, ar yr union drefn y bydd y Llywodraeth yn dymuno ei defnyddio. Felly, mae'r dull pleidleisio am newid yn y dyfodol.
Gan fod fy nghyfaill Adam Price, sydd yn llefarydd Plaid Cymru, wedi cael ei ddwyn ymaith gan y busnes Hywel Dda, am ryw reswm, yn ystod y trafodion yma, byddwn i jest yn rhoi ar gofnod fod Plaid Cymru am gefnogi'r cyfraddau treth heddiw. Mae'n sicr y cawn ni fwy o drafodaeth gyda threth incwm, a mwy o drafodaeth ac anghytuno ar draws y Siambr, efallai, ynghylch treth incwm. Ond un peth sydd yn sicr: rydym ni'n gosod hanes yma heddiw, ac rydym ni'n gosod cywair newydd yn atebolrwydd unrhyw Lywodraeth i'r bobl, gan ein bod ni'n nawr yn trafod nid yn unig gwario arian yng Nghymru, ond codi arian yng Nghymru.