Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Mr Bennett. Mae trais ac ymddygiad ymosodol mewn ysgolion, yn erbyn athrawon neu ddisgyblion, yn gwbl annerbyniol. Er mwyn mynd i'r afael â thrais ac ymddygiad ymosodol o'r fath, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi, gan weithio gyda rhanddeiliaid, mae'n rhaid inni ddeall yn gyntaf pam fod plant yn ymddwyn fel hyn. Fel arall, trin symptomau yn unig a wnawn yn hytrach na'r rhesymau sydd wrth wraidd ymddygiad o'r fath.