Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 31 Ionawr 2018.
Iawn. Diolch am eich ateb. Rwy'n cytuno bod angen inni ddeall. Efallai hefyd fod angen inni sicrhau dull safonol o fonitro lefel y trais fel y gallwn o leiaf ganfod hefyd faint sy'n digwydd mewn gwirionedd, sy'n rhywbeth y mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn galw amdano ar hyn o bryd. Felly, a fyddech bellach yn ystyried meddwl am ddull safonol o fonitro lefelau trais mewn ysgolion?