Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Joyce. Rwy'n falch eich bod yn hoff o'r ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau ar draws y Siambr—wel, gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr—wedi gweld yr hysbysebion ar y teledu, a'r deunyddiau sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol. Credaf eu bod yn wirioneddol ddiddorol a difyr, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd yr effaith enfawr y gall rhieni ei chael drwy roi amser i siarad â'ch plant. Er mwyn cryfhau darpariaeth gynnar o ran iaith a chyfathrebu ymhellach ledled Cymru, rydym yn buddsoddi £890,000 mewn rhaglenni llafaredd ar gyfer y cyfnod sylfaen yn 2017-18. Mae hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer yr ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, ond hefyd er mwyn ariannu'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol i weithio gydag ysgolion i wella datblygiad iaith yn y cyfnod sylfaen.