1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
1. What is the Welsh Government doing to promote language and communication skills among pupils? OAQ51657
Diolch, Joyce. Mae sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu rhagorol yn rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae ein rhaglen lythrennedd a rhifedd genedlaethol, a'i pholisïau allweddol, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, yn targedu ymyriadau llythrennedd, gan ein cynorthwyo i gyflawni'r nod hwn.
Rwy’n arbennig o awyddus i groesawu'r ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae, a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru. Gŵyr pob un ohonom fod helpu plant i ddysgu iaith yn gynnar yn hynod o bwysig, nid yn unig wrth iddynt gamu ymlaen drwy'r ysgol, ond drwy fywyd ac i'r gweithle. Ac rwy’n cefnogi'r rhaglen hon yn gryf, gan y credaf y bydd mentrau fel hyn, sy'n helpu plant i ddysgu drwy gael hwyl, yn hytrach na mewn lleoliad addysgol, yn rhoi'r dechrau gorau iddynt mewn addysg. A byddai gennyf ddiddordeb, Ysgrifennydd y Cabinet, pe baech yn rhoi alldro a diweddariad inni ymhen 12 mis, i weld pa mor effeithiol y bu'r rhaglen hon.
Diolch, Joyce. Rwy'n falch eich bod yn hoff o'r ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau ar draws y Siambr—wel, gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr—wedi gweld yr hysbysebion ar y teledu, a'r deunyddiau sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol. Credaf eu bod yn wirioneddol ddiddorol a difyr, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd yr effaith enfawr y gall rhieni ei chael drwy roi amser i siarad â'ch plant. Er mwyn cryfhau darpariaeth gynnar o ran iaith a chyfathrebu ymhellach ledled Cymru, rydym yn buddsoddi £890,000 mewn rhaglenni llafaredd ar gyfer y cyfnod sylfaen yn 2017-18. Mae hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer yr ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, ond hefyd er mwyn ariannu'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol i weithio gydag ysgolion i wella datblygiad iaith yn y cyfnod sylfaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi bod yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Arbennig Meadowbank, sy'n ysgol sy'n darparu gwasanaethau addysgol ar gyfer plant ag anawsterau dysgu lleferydd ac iaith. Maent wedi bod ar y safle yn Gabalfa ers dros 40 mlynedd, ac roeddent ar flaen y gad o ran datblygu arferion gorau yn y maes hwn, yn enwedig wrth i’r rhieni a’r athrawon wneud cymaint i sefydlu Afasic yn y 1970au. Rwy’n bryderus iawn ynghylch cau Afasic yng Nghymru, a beth sy'n mynd i ddigwydd i'r sgiliau, gwybodaeth a chymorth a ddarperir i rieni, i athrawon. Rwy'n gobeithio y bydd eich swyddogion yn monitro hyn yn ofalus iawn, ac efallai'n siarad â'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod modd cadw seilwaith hanfodol, fel elusennau megis Afasic, gan eu bod yn darparu gwasanaeth gwych.
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi, David, am eich gwasanaeth fel un o lywodraethwr yr ysgol hon? Fel chi, rwy’n siomedig fod ymddiriedolwyr Afasic Cymru wedi penderfynu dod â’u statws elusennol i ben yng Nghymru, er fy mod yn deall y byddant yn parhau i fod yn weithredol ar lefel y DU. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi y byddaf yn gofyn i fy swyddogion fonitro’r effaith y bydd cau'r elusen yn ei chael yn ofalus iawn, ac i edrych ar ffyrdd y gallwn weithio ar draws y Llywodraeth, ac ar draws y sector gwirfoddol, i gefnogi teuluoedd â phlant sydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu.
Fe wyddom, o ffigurau a ddarparwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, fod dros 50 y cant o blant o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol yn dechrau yn yr ysgol, o bosibl, gyda sgiliau cyfathrebu, iaith a lleferydd gwael. Nawr, a ydych chi, felly, yn rhannu pryderon Comisiynydd Plant Cymru fod cyfyngu cynnig gofal plant y Llywodraeth i blant rhieni sy'n gweithio yn unig, yn hytrach na'i ymestyn i bob plentyn, yn peri risg o ledu'r bwlch hwnnw o ran parodrwydd i ddechrau yn yr ysgol ymhlith y grŵp difreintiedig yn gymdeithasol y cyfeiriais atynt yn gynharach?
Llyr, rwy'n cydnabod y gall y materion hyn fod yn arbennig o ddifrifol yn y cymunedau hynny ac i bob teulu lle y ceir lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, a dyna pam, fel y dywedais, y byddwn yn gwario dros £800,000 eleni i ddatblygu ein rhaglen Mae 'na Amser i Siarad, fel y gallwn weithio gyda theuluoedd. Wrth gwrs, mae'r cynnig gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn un o'r cynlluniau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, ac fe fyddwch yn gwybod am waith Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ymyriadau a dargedir yn arbennig ar y teuluoedd a'r cymunedau sydd fwyaf o angen y cymorth, ac sy'n cynnwys elfen gofal plant yn hynny o beth, yn ogystal â gweithio law yn llaw â rhieni i'w cynorthwyo i wneud popeth a allant i annog y sgiliau hyn yn eu plant cyn iddynt ddechrau cael addysg ffurfiol.