Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 31 Ionawr 2018.
Nid fi yn unig sy'n dweud hyn, ond y cyflogwyr sy'n pleidleisio â'u penderfyniadau i beidio â derbyn pobl ifanc o Gymru sydd wedi sefyll rhai o'r cymwysterau hyn; y prifysgolion—prifysgolion blaenllaw ledled y DU—sy'n dweud, 'Nid ydym yn derbyn bod TGAU rhifedd pobl o Gymru yn gyfwerth â TGAU mathemateg', sef yr hyn y mae Cymwysterau Cymru yn ei ddweud wrthym, wrth gwrs. Y prifysgolion nad ydynt yn derbyn bod bagloriaeth Cymru yn gyfwerth â'r arholiadau Safon Uwch y mae plant a phobl ifanc yn eu sefyll mewn mannau eraill ledled y wlad sy'n dweud hyn. Felly, gallwch wneud cymaint o honiadau ag yr hoffwch, Ysgrifennydd y Cabinet—y gwir amdani yw ei bod yn amlwg nad yw'r rhain o werth cyfartal mewn marchnad lle mae angen iddynt fod o werth cyfartal, sef mewn perthynas â chynorthwyo pobl i gael swyddi ac i gael eu derbyn ar y cyrsiau addysg uwch ac ar y cyrsiau addysg bellach sydd eu hangen arnynt. Ac nid yn unig hynny, ond un o'r rhesymau y mae athrawon yn dweud wrthyf ac y mae'r disgyblion yn dweud wrthyf eu bod yn cael graddau is yw oherwydd, wrth gwrs, fod ganddynt bellach ddwy set o arholiadau i'w sefyll mewn perthynas â mathemateg—un ar gyfer rhifedd ac un ar gyfer mathemateg. Mae hynny'n achosi problemau gydag amserlennu, mae'n achosi problemau sy'n rhoi pwysau ar bynciau eraill, ac mae'n gwaethygu eu canlyniadau. Nawr, datgelwyd yr wythnos diwethaf eich bod yn cyflogi arbenigwr i hyrwyddo'r cymwysterau TGAU newydd ledled y wlad, gan wastraffu arian trethdalwyr, gan eich bod yn mynd ar drywydd y dull gwahanol hwn. Pa gamau rydych am eu cymryd i ddweud wrthym faint y mae hynny'n ei gostio, a faint sydd wedi'i wastraffu arnynt hyd yn hyn, a phryd rydych yn mynd i roi'r gorau i'r prosiect hurt hwn?