Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 31 Ionawr 2018.
Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir: ni all yr Aelod ragdybio y byddai'r plant hynny wedi gwneud yn well o dan yr hen system arholiadau TGAU. Nid wyf am ymddiheuro, Darren—ac rwy'n synnu nad ydych yn cytuno—am ddymuno cael mwy o drylwyredd yn ein system arholiadau, ac os yw arholiadau mathemateg yn cyflwyno mwy o drylwyredd, dylai hynny fod yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo, yn hytrach na gorsymleiddio ein system arholiadau. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir hefyd—oherwydd rydych yn gwneud anghymwynas â phlant ac athrawon Cymru drwy ailadrodd y myth nad yw ein harholiadau yn cymharu ag arholiadau yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Ni cheir unrhyw dystiolaeth o gwbl y gallwch ei chyflwyno yn y Siambr hon i gefnogi hynny. Mae ein harholiadau, sy'n cael eu goruchwylio gan gorff annibynnol Cymwysterau Cymru, ac sy'n cael eu haddasu a'u monitro gan gyrff ar draws y DU, o werth cyfartal i unrhyw rai eraill, a thrwy awgrymu fel arall yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gyflwyno unrhyw dystiolaeth, rydych yn gwneud anghymwynas â'r plant sydd wedi cael yr arholiadau hynny.