Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Nick. Credaf y gall adeiladau ysgolion chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo i greu'r amgylchedd hwnnw ar gyfer ein plant, ond mae'n rhaid inni gydnabod y gall bwlio fod yn broblem ym mhob ysgol, waeth ble y maent, ac y gall ddigwydd ar sawl ffurf. Rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrthfwlio 'Parchu Eraill', a chyhoeddir y canllawiau diwygiedig yn ddiweddarach eleni. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r problemau penodol sydd ynghlwm wrth seiberfwlio, diogelwch ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar y rhyngrwyd, a byddaf yn parhau i weithio yn y maes hwn. Mae hon yn agwedd gymharol newydd ar fwlio. Yn y gorffennol, roedd modd i blant ddychwelyd adref i le diogel. Bellach, mae eu ffonau a'u dyfeisiau symudol yn caniatáu i'r ffrwd gyson o glebran barhau, ac mae angen inni sicrhau bod ein plant yn gwybod sut orau i ymdopi â hynny, sut i ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ar-lein, ac os ydynt yn dyst i ymddygiad anghyfrifol, pwy y gallant roi gwybod iddynt amdano gan fod yn ffyddiog, wrth roi gwybod amdano, y bydd camau'n cael eu cymryd i'w cefnogi.