Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, bûm yn ymweld ag adeilad newydd sbon Ysgol Gyfun Trefynwy, sydd heb ei orffen eto, rhaid cyfaddef, yn Nhrefynwy, ac mae'r adeilad hwnnw'n lle gwych a chreadigol a gynlluniwyd i fod yn agored, yn dryloyw ac i leihau'r posibilrwydd o drais corfforol yn y gofod hwnnw gymaint â phosibl. Ond wrth gwrs, hanner y stori'n unig yw adeiladau, a gwyddom fod trais yn bodoli ar sawl ffurf, yn enwedig trais seicolegol, ac o ran ysgolion a'u disgyblion, seiberfwlio. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pholisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phob math o fwlio, ond seiberfwlio yn benodol, gan ei bod yn ymddangos bod hynny ar gynnydd mewn rhai ardaloedd?