Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 31 Ionawr 2018.
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi, David, am eich gwasanaeth fel un o lywodraethwr yr ysgol hon? Fel chi, rwy’n siomedig fod ymddiriedolwyr Afasic Cymru wedi penderfynu dod â’u statws elusennol i ben yng Nghymru, er fy mod yn deall y byddant yn parhau i fod yn weithredol ar lefel y DU. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi y byddaf yn gofyn i fy swyddogion fonitro’r effaith y bydd cau'r elusen yn ei chael yn ofalus iawn, ac i edrych ar ffyrdd y gallwn weithio ar draws y Llywodraeth, ac ar draws y sector gwirfoddol, i gefnogi teuluoedd â phlant sydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu.