Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 31 Ionawr 2018.
Llyr, rwy'n cydnabod y gall y materion hyn fod yn arbennig o ddifrifol yn y cymunedau hynny ac i bob teulu lle y ceir lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, a dyna pam, fel y dywedais, y byddwn yn gwario dros £800,000 eleni i ddatblygu ein rhaglen Mae 'na Amser i Siarad, fel y gallwn weithio gyda theuluoedd. Wrth gwrs, mae'r cynnig gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn un o'r cynlluniau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, ac fe fyddwch yn gwybod am waith Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ymyriadau a dargedir yn arbennig ar y teuluoedd a'r cymunedau sydd fwyaf o angen y cymorth, ac sy'n cynnwys elfen gofal plant yn hynny o beth, yn ogystal â gweithio law yn llaw â rhieni i'w cynorthwyo i wneud popeth a allant i annog y sgiliau hyn yn eu plant cyn iddynt ddechrau cael addysg ffurfiol.