Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ni fydd y geiriau hynny o unrhyw gysur i'r dysgwyr sydd wedi cael graddau is nag y byddent wedi eu cael wrth sefyll yr arholiadau TGAU blaenorol. Rhoesom rybudd hefyd, wrth gwrs, y byddai'r cymwysterau TGAU newydd yn drysu cyflogwyr a'u bod yn llai tebygol o'u derbyn na chymwysterau o rannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, roeddem yn iawn ynglŷn â hynny hefyd. Gwyddom, o ran ceisiadau am brentisiaethau yn Lloegr, sy'n gofyn am TGAU mathemateg a phrofion Saesneg—mae rhai pobl yn gorfod ailsefyll TGAU Saesneg, gan nad ystyrir bod TGAU Cymraeg o werth cyfartal wrth ymgeisio am brentisiaethau penodol. Mae hynny'n annerbyniol, a phobl ifanc sy'n talu pris oherwydd y dyhead hwn am gymwysterau ar gyfer Cymru yn unig, ac mae ein plant a'n pobl ifanc o dan anfantais o ganlyniad i hynny.
Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr, dysgwyr a phobl sy'n awyddus i gamu ymlaen i broffesiynau, lle y ceir gofynion mynediad penodol, a phrentisiaethau lle y ceir gofynion mynediad penodol, a lle nad yw'r TGAU Saesneg sydd gennym yng Nghymru na'r TGAU Mathemateg sydd gennym yng Nghymru yn cael eu cydnabod—beth y bwriadwch ei wneud i atal ein plant a'n pobl ifanc rhag gorfod goresgyn rhwystr arall drwy orfod ailsefyll arholiadau TGAU, gan mai hynny sy'n digwydd yn ôl y dystiolaeth, er mwyn cyrraedd yno?