Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un ffordd o leihau llwyth gwaith athrawon, ar wahân i leihau faint o waith papur y mae'n ofynnol iddynt ei wneud, ac ni chlywais sôn am hyn gennych, fyddai lleihau maint dosbarthiadau. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf yn ei gylch. Byddai'n fuddiol i athrawon a disgyblion, a byddai'n cyfrannu'n helaeth at y gwaith o ddarparu'r addysg wych y gwn y gallai ein hathrawon ei darparu pe baent yn cael eu caniatáu i wneud hynny. A ydych yn cytuno? Ac os felly, pa fesurau rydych wedi eu rhoi ar waith i leihau maint dosbarthiadau?