Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod llwyth gwaith yn bryder parhaus i'r gweithlu, ac i minnau yn wir. Mae pryderon llwyth gwaith yn amrywio'n fawr ar draws y teulu addysg, fodd bynnag. Mae gwahanol faterion a blaenoriaethau'n codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y cyfnod ysgol y mae rhywun yn gweithio ynddo, ardaloedd gwledig, amddifadedd, maes pwnc neu eu rôl mewn ysgol unigol, yn ogystal ag arferion gweithredu unigol a fynnir neu a bennir gan arweinwyr yr ysgolion hynny. Ein nod yw meithrin gallu a lleihau llwyth gwaith gormodol er mwyn arwain at safonau gwell ar gyfer ein plant, ond hefyd at wella'r gallu i athrawon reoli eu llwyth gwaith.