Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:54, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ym mis Ebrill y llynedd, canfu arolwg a gynhaliwyd ar eich cais gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu llwyth gwaith. Dywedodd un o'r undebau athrawon fod yr arolwg yn dangos bod llawer o bobl yn y proffesiwn addysgu ar ben eu tennyn. Ar y pryd, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol, fel blaenoriaeth, i fynd i'r afael â phroblem hirdymor llwyth gwaith a sicrhau bod athrawon yn cael lle ac amser i addysgu hyd eithaf eu gallu. Er lles y staff addysgu, mae'n hanfodol fod rhywbeth amlwg yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Beth yw eich asesiad o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar leihau llwyth gwaith athrawon, Ysgrifennydd y Cabinet?