Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Jayne. Rydym am i'n pobl ifanc fod yn ddinasyddion moesol a gwybodus yng Nghymru a'r byd ac yn unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas. Golyga hynny hyrwyddo modelau rôl benywaidd a gwrywaidd cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth.