Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A hithau'n ganmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf a'r bleidlais i fenywod dros 30 oed, mae'n hanfodol ein bod yn rhannu cyfraniad cynifer o fenywod dros y blynyddoedd gyda bechgyn a merched. Ddoe, roeddwn yn falch o ddadorchuddio plac glas i Annie Mistrick yng Nghasnewydd—nyrs ar y rheng flaen a beryglodd ei bywyd ei hun i drin ac i ofalu am filwyr a anafwyd yn y rhyfel byd cyntaf. Fe'i gwobrwywyd â'r anrhydedd uchaf am ddewrder gan Lywodraeth Ffrainc. Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd Gwynllyw Sant i'r dadorchuddiad i glywed am fenyw leol a oedd mor arbennig, ond y bu bron iddi ddiflannu o hanes serch hynny. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar draws y cwricwlwm yn dysgu am fenywod, o'r gorffennol a'r presennol, sy'n chwarae rôl mor bwysig, a lle y bo modd, yn cysylltu ysgolion â menywod a digwyddiadau lleol i ddod â hwy'n fyw i genhedlaeth newydd?