Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwyf wedi ymrwymo i wella addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion mewn sawl ffordd. Dyna pam rwyf wedi darparu £50,000, er enghraifft, i Cymorth i Fenywod Cymru ddatblygu adnoddau addysg rhyw a pherthnasoedd. Rwyf hefyd yn ystyried sut y gall argymhellion y panel arbenigol ar addysg rhyw a pherthnasoedd lywio cynlluniau i wella darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.