1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella addysg rhyw a pherthnasoedd i ddisgyblion? OAQ51679
Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwyf wedi ymrwymo i wella addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion mewn sawl ffordd. Dyna pam rwyf wedi darparu £50,000, er enghraifft, i Cymorth i Fenywod Cymru ddatblygu adnoddau addysg rhyw a pherthnasoedd. Rwyf hefyd yn ystyried sut y gall argymhellion y panel arbenigol ar addysg rhyw a pherthnasoedd lywio cynlluniau i wella darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, ac rwy'n croesawu adroddiad y panel arbenigol ar addysg rhyw a pherthnasoedd ac edrychaf ymlaen at weld eu hargymhellion yn cael eu rhoi ar waith.
Yn lansiad yr 'Adroddiad ar Gyflwr Iechyd Plant' yng Nghymru yr wythnos diwethaf, dywedodd grŵp o bobl ifanc fod eu profiad hwy o addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion yn anghyson iawn, a bod yr addysg honno'n gyfyngedig iawn mewn rhai ysgolion, yn enwedig ysgolion Catholig, a nodwyd ganddynt nad oes nemor ddim o'r athrawon sy'n dysgu'r pwnc wedi'u hyfforddi'n benodol i wneud hynny. Ac wrth gwrs, cawsom adroddiad Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn 2016, a ddywedai nad oedd y ffordd y caiff y pwnc ei ddysgu yn gynhwysol o gwbl ac nad oedd yn trafod perthnasoedd Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, nac am gydsyniad nac am hunaniaeth o ran rhywedd.
Felly, sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r amrywiaeth eang o ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd? Sut y bydd yn mynd i'r afael â'r ffaith nad yw'r athrawon yn cael eu hyfforddi, a sut y bydd yn sicrhau bod y pwnc hwn yn llawer mwy cynhwysol yn y dyfodol?
Diolch, Julie. Bydd unrhyw Aelod sy'n treulio amser yn ymweld â phlant ac yn eu holi ynglŷn â'u profiadau o addysg mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol ar hyn o bryd wedi clywed cwyn debyg. Ar hyn o bryd, nid yw'r hyn rydym yn ei gynnig i blant o ran addysg rhyw a pherthnasoedd yn cyfateb i'r hyn y maent yn dymuno'i gael, ac mewn sawl achos, nid yw'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Rydych yn iawn i ddweud nad yw'n ymwneud, mewn sawl achos, â diffyg adnoddau, ond mae'n ymwneud weithiau â diffyg hyder a dealltwriaeth ymhlith rhai o'r gweithlu addysgu y mae disgwyl iddynt ddarparu rhai o'r gwersi hyn. O ran addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysol, mae arnaf ofn fod rhai gweithwyr proffesiynol yn dal i fod yn gyndyn iawn o siarad am faterion Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol oherwydd deddfwriaeth gan Lywodraethau blaenorol mewn lle arall ddegawdau lawer yn ôl, ac mae arnaf ofn fod canlyniad hynny yn dal gyda ni yn rhai o'n hysgolion.
Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddefnyddio'r panel arbenigol i sicrhau, yn y dyfodol, fod gennym addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n wirioneddol gynhwysol ac y bydd yn cael ei darparu gan broffesiwn sy'n teimlo'n ddigon parod a hyderus yn eu gallu i ddarparu'r gwersi hynny. Yn allweddol, bydd yr Aelod yn ymwybodol, Lywydd, fod iechyd a lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd, a bydd yn rhaid i ni, fel cenedl, ddatblygu arbenigedd set newydd o weithwyr proffesiynol fel y gallant ddarparu hynny fel rhan o'n cwricwlwm. Yn y blynyddoedd a fu, rydym wedi hyfforddi athrawon daearyddiaeth ac athrawon cemeg ac athrawon ffiseg, ond mae hwn yn faes yn y cwricwlwm lle nad ydym wedi gallu creu'r llwybr gyrfa penodol hwnnw, a gwn y bydd y cwricwlwm yn rhoi'r hwb sydd ei angen arnom i newid hynny yn y dyfodol er mwyn sicrhau profiad gwell i blant.
Byddwch yn cofio, yn y Cynulliad diwethaf, fod y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan y Llywodraeth. Rhoesom gryn bwysau arnynt mewn perthynas â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd hynny'n cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chefnogaeth wedyn gan Peter Black o'ch plaid chi, gan Jocelyn Davies o Blaid Cymru a gennyf fi, i gynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn y broses o ddatblygu addysg perthnasoedd iach yn y cwricwlwm ar gyfer bob ysgol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, credaf eich bod chi a minnau wedi cyfeirio at brosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n addysgu disgyblion mewn ysgolion ac yn hyfforddi athrawon mewn ysgolion ynglŷn â pherthnasoedd iach. Sut y byddwch felly'n cefnogi'r ymgyrch perthnasoedd iach a fydd yn cael ei lansio gan Hafan Cymru ar 3 Chwefror, gan eu bod yn dweud y bydd yn cefnogi dynion, menywod a phlant sy'n agored i niwed, yn eu cynorthwyo i ymdopi ag unigrwydd ac arwahanrwydd drwy eu prosiect Siediau Dynion, ac yn hanfodol, yn dysgu plant am berthnasoedd iach a cham-drin domestig drwy eu prosiect Sbectrwm?
Diolch, Mark. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod eich ymrwymiad personol i'r agenda hon. Byddwch wedi clywed, yn fy ateb i Julie Morgan, fy mod yn cadw at yr hyn a ddywedais yn yr wrthblaid â minnau yn y Llywodraeth drwy ein bod wedi rhoi grant i Cymorth i Fenywod Cymru er mwyn helpu i ddatblygu adnoddau i ysgolion mewn perthynas â deall beth yw perthnasoedd diogel, parchus a meithringar. Ac rwy'n falch fod gennym amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol sy'n barod i weithio gyda ni ar yr agenda hon.
Mae gweithgor maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad sy'n ceisio datblygu hyn yn casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan ystod eang o randdeiliaid o'r tu allan i'r system addysg er mwyn llywio eu gwaith. Ac mewn perthynas â phrosiect Siediau Dynion, rwy'n falch iawn, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad, o gael perthynas waith dda gyda'r sied yn Nhrefyclo a'r sied yn Llandrindod, a agorwyd yn swyddogol gennyf, gan fy mod yn cydnabod, weithiau, fod dynion yn ei chael hi'n anodd trafod rhai o'r materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a pherthnasoedd. Credaf fod Siediau Dynion yn brosiect gwerth chweil, gan ei fod yn creu lle diogel i ddynion siarad am rai o'r materion hyn y gallant fod yn gyndyn i siarad amdanynt.