Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch. Mae tudalen 8 'Addysg yng Nghymru' yn trafod yr angen am ymrwymiad cryf i gydweithredu effeithiol ynghyd ag integreiddio gwasanaethau lle’n briodol. A allech chi ehangu ar beth yw’r cyfleoen i weithio ar y cyd yn well rhwng colegau ac ysgolion? Er enghraifft, roedd Llywodraeth Cymru yn arfer ariannu fforymau 14 i 19 cyfrwng Cymraeg, ac roedd hwn yn ceisio hybu cydweithrediad rhwng y sectorau hynny’n benodol. A oes yna gynlluniau tebyg ar y gweill, ac, os felly, a fedrwch chi amlinellu’r rhain?