Addysg Bellach

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:17, 31 Ionawr 2018

Mae’n bwysig ein bod ni’n gweld gwell cydweithrediad rhwng ysgolion ac addysg bellach. Wrth gwrs, rŷm ni'n edrych ar sut rŷm ni'n gallu gweld y cydweithredu yna drwy PCET, y newidiadau byddwn ni’n eu gweld yn y dyfodol. Byddwn ni’n cymryd cystadleuaeth mas o’r system achos mae honno’n gallu creu problem ar hyn o bryd. Ond rydw i’n meddwl ei fod yn werth dweud bod—mae yna lwyddiant eithaf uchel yn addysg bellach ar hyn o bryd. Mae tua 86 y cant o bobl yn llwyddo ym maes addysg bellach, felly mae hwnnw’n gam eithaf pwysig. Beth sydd angen, wrth gwrs, yw ein bod ni’n mynd ymhellach a gwthio’r safonau i fyny’n gyson.