Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 31 Ionawr 2018.
Mi oedd y lle yma yn role model gwych ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, ond ers 2003, mae’r sefyllfa wedi newid ac wedi mynd am yn ôl. Hoffwn i gael eich barn chi am yr egwyddor o gyflwyno deddfwriaeth i greu cydraddoldeb o ran cynrychiolwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hynny fel ffordd o arwain at gydraddoldeb mewn meysydd eraill, gan gynnwys yn yr ysgolion ac yn y byd addysg.