Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 31 Ionawr 2018.
Efallai fod un peth da ynglŷn â'r sefyllfa rwyf ynddi: o leiaf gall Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hawlio cynrychiolaeth fenywaidd o 100 y cant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. [Chwerthin.] Er, rhaid cyfaddef nad yw'r peth da penodol hwnnw yn rhywbeth y buaswn wedi'i groesawu.
Rwyf bob amser, drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol, wedi talu teyrnged i bleidiau gwleidyddol eraill sydd wedi cymryd camau dewr iawn, yn fy marn i, i sicrhau cynrychiolaeth dda iawn o ran rhywedd yn y lle hwn. Mae'n rhaid cyfaddef na lwyddais i ennill y frwydr honno pan oeddwn yn arweinydd fy mhlaid wleidyddol. Rwy'n credu'n gryf: oni bai eich bod yn gallu gweld rhywbeth, ni allwch obeithio dod yn hynny o beth.
Ond o'm rhan i ym maes addysg, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i mi yw ein bod, drwy ein cwricwlwm ABCh presennol a'n cwricwlwm newydd, yn rhoi cyfle i fenywod ifanc ddysgu am y broses wleidyddol, i ddeall sut y mae'r broses wleidyddol honno'n gweithio, ac i'w hannog i fod eisiau cyfrannu ati, drwy ymgyrchu a gweithredu yn eu cymunedau eu hunain yn ogystal â thrwy fod yn wleidyddion ffurfiol a allai wasanaethu ar gynghorau, mewn Cynulliadau neu mewn Seneddau.