Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 31 Ionawr 2018.
Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd dros £0.25 miliwn a arferai fynd i Llywodraethwyr Cymru yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol nesaf, a byddant yn cyfarfod ar 16 Chwefror i benderfynu a ydynt am ddirwyn i ben.
Mae Llywodraethwyr Caerdydd yn parhau i fodoli, gydag ardoll o £50 ar gyfer pob ysgol, ac efallai fod hynny'n bosibl mewn ardal drefol lle mae'r ysgolion yn gymharol agos at ei gilydd, ond o gofio mai llywodraethwyr ysgol yw un o'r enghreifftiau gorau o ddinasyddion gweithgar—nid ydynt yn derbyn tâl am gyflawni eu dyletswyddau—pa gyfleoedd sydd ar gael bellach i sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf? Roeddwn yn edrych ar Gonsortiwm Canolbarth y De, ac nid oes unrhyw beth yno i egluro i lywodraethwyr beth yw eu rôl o ran sicrhau eu bod yn cyflawni eu blaenoriaethau. Gwn fod Cyngor Caerdydd wedi torri eu cymorth i lywodraethwyr o bedwar swyddog i ddau, felly byddai'n ddefnyddiol gwybod sut rydych yn credu y bydd llywodraethwyr yn cael eu cynorthwyo i gyflawni rôl sy'n eithaf cymhleth.