1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
7. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lywodraethwyr ysgol yn y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ51650
Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi llywodraethwyr drwy weithio gyda'r consortia rhanbarthol i gryfhau'r model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol a byddwn hefyd yn ymateb i'r ymgynghoriad ar lywodraethu ysgolion gyda chynigion ar gyfer fframwaith rheoleiddio diwygiedig a symlach.
Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd dros £0.25 miliwn a arferai fynd i Llywodraethwyr Cymru yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol nesaf, a byddant yn cyfarfod ar 16 Chwefror i benderfynu a ydynt am ddirwyn i ben.
Mae Llywodraethwyr Caerdydd yn parhau i fodoli, gydag ardoll o £50 ar gyfer pob ysgol, ac efallai fod hynny'n bosibl mewn ardal drefol lle mae'r ysgolion yn gymharol agos at ei gilydd, ond o gofio mai llywodraethwyr ysgol yw un o'r enghreifftiau gorau o ddinasyddion gweithgar—nid ydynt yn derbyn tâl am gyflawni eu dyletswyddau—pa gyfleoedd sydd ar gael bellach i sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf? Roeddwn yn edrych ar Gonsortiwm Canolbarth y De, ac nid oes unrhyw beth yno i egluro i lywodraethwyr beth yw eu rôl o ran sicrhau eu bod yn cyflawni eu blaenoriaethau. Gwn fod Cyngor Caerdydd wedi torri eu cymorth i lywodraethwyr o bedwar swyddog i ddau, felly byddai'n ddefnyddiol gwybod sut rydych yn credu y bydd llywodraethwyr yn cael eu cynorthwyo i gyflawni rôl sy'n eithaf cymhleth.
Diolch i'r Aelod am hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, er mwyn amddiffyn darpariaeth rheng flaen i ysgolion, fy mod yn barod i wneud penderfyniadau anodd, ac yn hynny o beth, gan fod cymorth eisoes yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr drwy awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, fel y dywedodd yr Aelod, byddwn yn dirwyn y grant i Llywodraethwyr Cymru i ben.
Nid ydym yn ceisio gosod rhywbeth yn lle neu efelychu'r cymorth a ddarparwyd yn y gorffennol gan Llywodraethwyr Cymru, gan y credwn fod llawer o'r gwasanaethau a gynigir, fel y dywedais, yn cael eu dyblygu eisoes gan awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol. Mae'n rhaid i mi nodi'n glir, o'r oddeutu 21,000 o lywodraethwyr sydd gennym yng Nghymru—a Jenny, rydych yn llygad eich lle, maent yn un o'r enghreifftiau gorau o ddinasyddion gweithgar—mai 2,000 yn unig o'r llywodraethwyr hynny oedd ar restr bostio Llywodraethwyr Cymru, yn derbyn gwybodaeth gan Llywodraethwyr Cymru, a phan gynhaliwyd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o weithgarwch a chymorth Llywodraethwyr Cymru yn 2014-15, nodwyd gennym, er enghraifft, mai 10 y cant yn unig o'r llywodraethwyr a gymerodd ran yn yr adolygiad hwnnw a oedd yn arfer cysylltu â'r llinell gymorth a weithredai Llywodraethwyr Cymru. Mewn cyfnod anodd fel hwn, ni allwn fforddio dyblygu gwasanaethau, a byddwn yn gweithio gyda'r model rhanbarthol diwygiedig a'r disgwyliadau diwygiedig o ran yr hyn sydd ei angen ar y consortia rhanbarthol i gefnogi a chydnabod, mewn llawer o achosion, fod cyrff llywodraethu a llywodraethwyr yn ceisio cymorth gan eu hawdurdodau lleol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Hefin David.