Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 31 Ionawr 2018.
A gaf fi dynnu sylw at y ffaith eich bod, pan fyddwch ar gwrs prentisiaeth, yn derbyn incwm, ac mae unrhyw incwm, mewn egwyddor, yn drethadwy? Felly, mae'n rhaid inni fod yn sensitif. Rydym wedi edrych ar beth sy'n bosibl, gan y cydnabyddir fod hwn yn fudd trethadwy. Felly, nid ydym yn cymharu afalau gydag orennau, rydym yn sicrhau mewn gwirionedd nad yw'r bobl hyn yn mynd i fwy o drafferthion.
Credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi pwysau, weithiau, ar rai o'r cwmnïau bysiau. Os edrychwch chi yng Nghaerdydd, er enghraifft, y cerdyn Iff, ceir gostyngiadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, felly mae modd i hynny ddigwydd. Ond eisoes—os yw ar gael i bawb, nid yw'n broblem. Pan fyddwch yn dechrau ei ddarparu mewn amgylchiadau arbennig yn unig, dyna pryd y mae'n creu problem.