Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 31 Ionawr 2018.
Mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gydweithio ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo arferion da o ran ymgysylltu ac ymgynghori ac yn cynorthwyo'r byrddau iechyd i weithio gyda'r cyhoedd, eu staff ac eraill—gan gynnwys, wrth gwrs, y cynghorau iechyd cymuned—i helpu i sicrhau'r canlyniadau a'r cynlluniau iechyd gorau posibl.