2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol? OAQ51671
Mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gydweithio ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo arferion da o ran ymgysylltu ac ymgynghori ac yn cynorthwyo'r byrddau iechyd i weithio gyda'r cyhoedd, eu staff ac eraill—gan gynnwys, wrth gwrs, y cynghorau iechyd cymuned—i helpu i sicrhau'r canlyniadau a'r cynlluniau iechyd gorau posibl.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr, fel y cytunwch, ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn ddiweddar, mae AMBU wedi cynnal tri, neu wrthi'n cynnal tri ymgynghoriad cyhoeddus—llawdriniaethau thorasig cyn y Nadolig, ac ar hyn o bryd maent yn cynnal ymgynghoriad ar y rhwydwaith trawma mawr a'r newidiadau i'r ffiniau. Yn ôl yr hyn a glywaf, mewn gwirionedd, ychydig iawn o aelodau'r cyhoedd sy'n mynychu'r cyfarfodydd cyhoeddus hyn. 'Does bosibl nad yw'n bwysig fod y byrddau iechyd, pan fyddant yn cydnabod nad oes llawer o bobl yn mynychu, yn bod yn rhagweithiol ac yn mynd yn ôl at y bobl er mwyn cynnal yr ymgynghoriad. Fel arall, ceir adroddiad sy'n dweud fawr ddim gan nad oes pobl wedi bod yn mynychu. Efallai nad yw pobl yn mynychu oherwydd nad ydynt yn gwybod. Roedd llawer o fy etholwyr heb gael gwybod fod yr ymgynghoriadau hyn yn mynd rhagddynt. Mae angen inni roi gwybod amdanynt. Mae'n rhaid iddynt ymgysylltu â'r bobl. Mae'n rhaid iddynt gydnabod, os nad ydynt yn siarad â hwy, os nad ydynt yn mynychu—ewch yn ôl a dechreuwch eto fel y gall ymgynghoriad fod yn ystyrlon yn hytrach na geiriau gwag.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. Mae'r cydbwysedd o ran yr hyn sydd angen inni ei wneud yn bwysig. Mae'n rhaid inni sicrhau y gwneir ymgais wirioneddol a rhagweithiol i gynnwys y cyhoedd mewn ymgynghoriadau drwy amrywiaeth o ffyrdd gwahanol. Mae'n ymwneud â'r sgwrs bersonol rhwng pobl a staff, y cyfryngau ysgrifenedig, yr hysbysiadau ffurfiol, cynnal cyfarfodydd cymunedol, yr holl bresenoldeb ar-lein hefyd, ac wrth gwrs, y cynghorau iechyd cymuned a'u rôl hwy wrth ymgysylltu gyda'r cyhoedd hefyd.
Rwy'n fwy na pharod i ymuno â'r hyn a ddywedodd Julie James ddoe yn ystod y cwestiynau busnes o ran annog pobl nad ydynt wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad trawma mawr i wneud hynny cyn y daw i ben yr wythnos nesaf. Ond mae'n rhaid inni dderbyn hefyd na allwn orfodi'r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Yn aml, pan fo'r pwnc yn fawr ac yn eang, mae'r cyhoedd yn llai tebygol o gymryd rhan, ond pan fydd y cynnig yn fwy penodol a lleol, mae pobl yn tueddu i gymryd rhan. Mae'r gyfraith cynllunio yn enghraifft dda, y tu allan i faes iechyd, yn fwriadol. Fel arfer, nid oes llawer o bobl yn tueddu i gymryd rhan mewn sgyrsiau cyffredinol ynglŷn â chynllunio, ond mae hynny'n digwydd bob tro, bron pan fo cynnig cynllunio penodol gerbron mewn ardal leol. Ond rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu ein bod wir yn ceisio dysgu a gwella. Ac wrth gwrs, ar un o'r cynigion y cyfeiriwch atynt—yr ymgynghoriad ar lawdriniaethau thorasig—cafwyd cadarnhad ddydd Llun y bydd llawdriniaethau thorasig yn cael eu canoli, yn unol ag argymhelliad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac y byddant wedi'u canoli yn ysbyty Treforys yn Abertawe.
Rydych yn hollol gywir, Ysgrifennydd Cabinet, ni allwn orfodi pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Ond gan gyfeirio at y pwynt a wnaeth David Rees, mae nifer enfawr o ffyrdd gwirioneddol dda o ennyn diddordeb pobl ar lawr gwlad a mesur tymheredd y newidiadau arfaethedig. Mae sefydliadau megis INVOLVE, sy'n cynnal ymgynghoriadau yn Lloegr—maent yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, maent yn cynnal diwrnodau hwyl, mae pob math o ffyrdd newydd o gyrraedd y rhai sy'n anodd eu cyrraedd mewn gwirionedd, yn hytrach na'r ymgynghoriadau hen ffasiwn a gynhelir ar bapur, neu os ydych yn lwcus a bod gennych fand eang, yr ymgynghoriadau cyfrifiadurol sydd gennym am gyfnodau byr iawn, ac sy'n cael eu cynnal, bron yn anochel, yn ystod cyfnod y Nadolig neu yn ystod gwyliau'r haf. Hoffwn ofyn i chi edrych yn ofalus ar yr holl ffyrdd amgen y gallwn eu cyrraedd.
Ond yn anad dim, pwynt canolog fy nghwestiwn yw: a ydych yn credu ei bod yn dal yn briodol, o ystyried yr adolygiad seneddol, fod gennym bellach ymgynghoriadau yn cael eu cynnal gan y byrddau iechyd mewn gwirionedd, neu a ddylent fod yn rhai iechyd a gofal cymdeithasol, o gofio'r ffaith ein bod yn chwilio am ffordd integredig a di-dor o symud ymlaen? Oherwydd fe fydd unrhyw beth y bydd y maes iechyd yn penderfynu ei wneud yn cael effaith enfawr ar awdurdodau lleol, ac ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol, a darpariaeth tai. Ac os ydym yn ceisio mabwysiadu ffordd fwy cyfannol o roi'r unigolyn wrth wraidd eu hanghenion iechyd wrth symud ymlaen, mewn gwirionedd dylem fod yn edrych arno yn ei gyfanrwydd. Mae llawer o'r ymgynghoriadau hyn yn ymwneud ag iechyd, ac nid ydynt yn cynnwys ail hanner y ddarpariaeth bwysig iawn y dylem fod yn ei rhoi mewn gwirionedd.
Wel, mae yna rywbeth yma ynglŷn â deall y cynigion y cyfeiriwyd atynt yn gynharach gan David Rees, a siaradodd am lawdriniaeth thorasig a'r ganolfan trawma mawr. Mae'r rheini'n ymgynghoriadau gwasanaeth iechyd arbenigol sydd angen cael eu cynnal. A fy mhryder bob amser, os ydym yn osgoi mynd i'r afael â phroblemau, yw y byddwn yn caniatáu i ni'n hunain fod mewn sefyllfa lle mae'r ddadl yn fwy anodd, a mwy o frys o ran yr angen i newid. Felly, nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol ceisio atal y gwasanaeth iechyd rhag cynnal ymgynghoriadau ar y ffordd y dylid newid a diwygio gwasanaethau. Ond wrth gwrs, mae yna ystod eang o'r gwasanaethau hynny sy'n ymwneud yn briodol â sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gael perthynas a sgyrsiau priodol gyda phartneriaid gofal cymdeithasol.
Er enghraifft, ar yr ymgynghoriad ynglŷn â Phen-y-bont ar Ogwr, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mae yna sgwrs yn sicr, nid yn unig gydag awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, ond mewn gwirionedd gyda phartneriaid yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, ac wrth gwrs Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn ogystal, am effaith bosibl y rheini. Felly, mae yna barodrwydd a chydnabyddiaeth fod angen i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agosach. Mae byrddau partneriaethau rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn rhan o hynny, a phan fyddwch yn cynnal ymgynghoriad, disgwyliaf y bydd hynny'n wir bryd hynny hefyd. Ond nid wyf yn credu o gwbl fod achos dros gamu'n ôl a rhoi diwedd ar yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd; mae angen i ni ddysgu a gwella, yn hytrach na gwasgu'r botwm saib ar newid, diwygio a gwella ein gwasanaeth iechyd.
Bydd fy ymgysylltiad â fy mwrdd iechyd yn llawer mwy anodd ar ôl digwyddiadau'r 24 awr diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod yn gwybod bellach y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rhydd â'r Llywodraeth, gyda'r bwriad o ddifenwi ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd. Felly, hoffwn gadarnhau fy mod yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu cadarnhau heddiw pa wybodaeth arall sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad â'u byrddau iechyd. Byddai'n ddefnyddiol gwybod beth sydd ganddo o'i flaen yn ei ffeil fach.
Ond o safbwynt y cyhoedd, er mwyn iddynt hwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau bwrdd iechyd, mae'n rhaid iddynt gredu bod y cynigion yn yr ymgynghoriad yn gredadwy. Nawr, un o'r cynigion yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n debygol o gael ei gyflwyno ym mis Mawrth, yw cynnig am ysbyty newydd sbon, rywle yn y gorllewin, i gymryd lle Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg. Er mwyn i hwnnw fod yn gynnig credadwy, i'w gymryd o ddifrif mewn ymarfer ymgynghori, ac ennyn ymateb credadwy gan y cyhoedd, mae'n rhaid iddo ddweud wrth y Siambr yma heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian cyfalaf os argymhellir ysbyty newydd sbon ar gyfer gorllewin Cymru. A fydd yn gwneud hynny, fel bod gan unrhyw ymgynghoriad rywfaint o hygrededd ynghlwm wrtho?
Credaf fod dau bwynt cyffredinol yno. Mae'r cyntaf mewn perthynas â'r pwyntiau a wnaethoch am ddifenwi Aelodau'r Cynulliad a'u hymdrechion i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob Aelod Cynulliad yn ymgysylltu â'u bwrdd iechyd lleol ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd. Rydym newydd gael adolygiad seneddol sy'n nodi, unwaith eto, fod y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu trefnu ar hyn o bryd wedi gweithio'n dda i ni yn y gorffennol ond nad ydynt yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae angen i ni eu newid. A dyna'r her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Credaf y dylai pob Aelod Cynulliad gymryd rhan briodol yn y sgwrs honno. Unwaith eto, mae angen i'r aeddfedrwydd a arweiniodd at yr adolygiad seneddol barhau yn y ddadl barhaus honno. Ac rwy'n credu, pan fo dadl yn y lle hwn, wrth gwrs, bydd cryn dipyn o ddadlau yn y Siambr. Nid yw fel pe bai Gweinidogion—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni ganiatáu i'r Gweinidog gael ei glywed. Parhewch, Ysgrifennydd y Cabinet.
Nid yw fel pe bai Gweinidogion yn gyfan gwbl rydd o feirniadaeth a chwestiynau ynghylch cymhellion a gonestrwydd yn y lle hwn. Credaf ei bod yn bwysig fod Aelodau'n agored ac yn onest gyda'r cyhoedd a'r Siambr hon ynglŷn â beth yw ein safbwyntiau a lle rydym yn mynd. Ac mae honno'n safon i bob un ohonom anelu tuag ati.
O ran eich pwynt ynglŷn â lle rydym yn awr, Simon Thomas, gyda'r cynigion a allai ddod yn y dyfodol, rwyf wedi dweud yn y gorffennol, ac rwy'n bod mor agored a gonest ag y gallaf eto, nad wyf yn gallu nodi'r sefyllfa mewn perthynas â pha gynigion a fydd neu na fydd yn cael eu trafod a'u cyflwyno yn y gwanwyn, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddynodi. Buaswn yn annog pawb i ymgysylltu cyn hynny ac wedi hynny, ac os oes cynigion go iawn yn cael eu cyflwyno, wrth gwrs y byddwn yn edrych yn synhwyrol ar beth yw'r rheini. Ond fe wyddoch na allaf ddweud heddiw y byddaf yn dod o hyd i arian neu adnoddau ar gyfer penderfyniad yn y dyfodol oherwydd ni fyddai honno'n sgwrs agored a gonest, ac rydych yn gofyn i mi wneud rhywbeth cyn bod yna gynnig i mi ymateb iddo mewn gwirionedd.
Hoffwn atgoffa pobl—[Torri ar draws.] Hoffwn atgoffa pobl fod rôl i Weinidogion yn hyn, ond hefyd rydym wrthi'n adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Mae'r adeilad yn cael ei adeiladu. Mae wedi bod yn drafodaeth a fu ar y gweill ers nifer o flynyddoedd yn dilyn cynnig, ac yn dilyn amryw o ffyrdd o edrych ar yr achos busnes, i gael cyfalaf yn barod i wneud hynny. Dewisais adael i'r achos cyfalaf fynd rhagddo ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn. Felly, roedd penderfyniad yno, un a wnaed gennyf fi, ac roedd hynny ar ôl gwneud a chytuno ar yr achos, gyda chefnogaeth y cyhoedd a chlinigwyr lleol ynglŷn â beth y dylid ei wneud i ad-drefnu'r system iechyd yn y rhan honno o Gymru.
Rwy'n cydnabod y gwahoddiad i ddweud rhywbeth byrbwyll ar y pwynt hwn, ond nid wyf am dderbyn ei gynnig caredig i wneud hynny.