Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 31 Ionawr 2018.
Nid yw fel pe bai Gweinidogion yn gyfan gwbl rydd o feirniadaeth a chwestiynau ynghylch cymhellion a gonestrwydd yn y lle hwn. Credaf ei bod yn bwysig fod Aelodau'n agored ac yn onest gyda'r cyhoedd a'r Siambr hon ynglŷn â beth yw ein safbwyntiau a lle rydym yn mynd. Ac mae honno'n safon i bob un ohonom anelu tuag ati.
O ran eich pwynt ynglŷn â lle rydym yn awr, Simon Thomas, gyda'r cynigion a allai ddod yn y dyfodol, rwyf wedi dweud yn y gorffennol, ac rwy'n bod mor agored a gonest ag y gallaf eto, nad wyf yn gallu nodi'r sefyllfa mewn perthynas â pha gynigion a fydd neu na fydd yn cael eu trafod a'u cyflwyno yn y gwanwyn, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddynodi. Buaswn yn annog pawb i ymgysylltu cyn hynny ac wedi hynny, ac os oes cynigion go iawn yn cael eu cyflwyno, wrth gwrs y byddwn yn edrych yn synhwyrol ar beth yw'r rheini. Ond fe wyddoch na allaf ddweud heddiw y byddaf yn dod o hyd i arian neu adnoddau ar gyfer penderfyniad yn y dyfodol oherwydd ni fyddai honno'n sgwrs agored a gonest, ac rydych yn gofyn i mi wneud rhywbeth cyn bod yna gynnig i mi ymateb iddo mewn gwirionedd.
Hoffwn atgoffa pobl—[Torri ar draws.] Hoffwn atgoffa pobl fod rôl i Weinidogion yn hyn, ond hefyd rydym wrthi'n adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Mae'r adeilad yn cael ei adeiladu. Mae wedi bod yn drafodaeth a fu ar y gweill ers nifer o flynyddoedd yn dilyn cynnig, ac yn dilyn amryw o ffyrdd o edrych ar yr achos busnes, i gael cyfalaf yn barod i wneud hynny. Dewisais adael i'r achos cyfalaf fynd rhagddo ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn. Felly, roedd penderfyniad yno, un a wnaed gennyf fi, ac roedd hynny ar ôl gwneud a chytuno ar yr achos, gyda chefnogaeth y cyhoedd a chlinigwyr lleol ynglŷn â beth y dylid ei wneud i ad-drefnu'r system iechyd yn y rhan honno o Gymru.
Rwy'n cydnabod y gwahoddiad i ddweud rhywbeth byrbwyll ar y pwynt hwn, ond nid wyf am dderbyn ei gynnig caredig i wneud hynny.