Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y ffordd yn llunio cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer gweithwyr gofal. Ac yn ogystal â symleiddio'r system, mae hwn yn gyfle i ymateb i faterion newydd nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y cymwysterau sy'n bodoli eisoes. Ceir mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus, er enghraifft, mewn perthynas â sepsis, ac er bod gweithwyr gofal yn debygol o gael rhywfaint o hyfforddiant mewn perthynas ag adnabod arwyddion o strôc, nid ydynt yn cael yr hyfforddiant hwnnw ar gyfer arwyddion o sepsis ar hyn o bryd, yn gyffredinol. O gofio bod rhai pobl sydd â chyflyrau cydafiachus yn fwy tebygol o ddatblygu sepsis nag eraill, ac y gellid drysu rhwng yr arwyddion ag arwyddion o gyflyrau eraill, a wnewch chi ofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru ystyried cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth o sepsis fel rhan o'r cwricwlwm ar gyfer cymwysterau gweithwyr gofal?