2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 31 Ionawr 2018.
Galwaf ar lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y ffordd yn llunio cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer gweithwyr gofal. Ac yn ogystal â symleiddio'r system, mae hwn yn gyfle i ymateb i faterion newydd nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y cymwysterau sy'n bodoli eisoes. Ceir mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus, er enghraifft, mewn perthynas â sepsis, ac er bod gweithwyr gofal yn debygol o gael rhywfaint o hyfforddiant mewn perthynas ag adnabod arwyddion o strôc, nid ydynt yn cael yr hyfforddiant hwnnw ar gyfer arwyddion o sepsis ar hyn o bryd, yn gyffredinol. O gofio bod rhai pobl sydd â chyflyrau cydafiachus yn fwy tebygol o ddatblygu sepsis nag eraill, ac y gellid drysu rhwng yr arwyddion ag arwyddion o gyflyrau eraill, a wnewch chi ofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru ystyried cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth o sepsis fel rhan o'r cwricwlwm ar gyfer cymwysterau gweithwyr gofal?
Suzy, diolch yn fawr iawn am godi'r pwynt pwysig hwn. Yn ogystal â chodi'r pwynt hwn, byddai'n werth sôn am waith y grŵp trawsbleidiol ar sepsis, sydd wedi nodi pwysigrwydd hyn, yn arbennig ar draws hyfforddiant gofal cymdeithasol hefyd, ac edrychaf ymlaen at ymateb iddo ar ôl trafod gyda fy swyddogion.
Mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn bellach o ymwybyddiaeth gynyddol o sepsis ac o bwysigrwydd diagnosis cynnar yn ogystal â thriniaeth gynnar. Mae'n amlwg, hyd yn oed gyda'r ymwybyddiaeth gynyddol a'r cynnydd yn nifer y bobl sydd â sepsis, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig, ac wrth gwrs, cynnydd yn nifer ein poblogaeth hŷn sydd â sepsis, fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i sepsis yn gostwng, ac mae'n bosibl fod hynny'n rhannol o ganlyniad i'r ymwybyddiaeth gynyddol, a'r cynnydd mewn hyfforddiant rydym yn ei wneud yn gyffredinol mewn perthynas â hyn. Gwyddom nad yw hi'n bosibl atal pob marwolaeth o ganlyniad i sepsis, ond gwyddom ei bod yn bosibl atal rhai. Felly, mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn gwbl hanfodol.
Nawr, mae'n anodd dod i gasgliadau pendant ar hyn o bryd o'r ffigurau blynyddol. Mae'n ymddangos ein bod yn wir yn gwneud rhywbeth yn iawn yng Nghymru gyda'n hyfforddiant a'n dull o weithredu. Ond edrychaf ymlaen at ymateb i'r sylwadau a wnaed heddiw, yn ogystal â gwaith y grŵp hollbleidiol ar sepsis, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio, nid yn unig ar draws y maes iechyd, ond ar draws gwaith cymdeithasol yn ogystal, fel y gallwn wneud yn siŵr fod cyfle, ar bob pwynt, i wneud diagnosis cynnar iawn a chael y driniaeth gynnar, a pharhau â'r gwaith da rydym yn ei wneud.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Dyna oedd fy mhwynt, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod gweithwyr ysbytai yn cael yr hyfforddiant hwn, ond nid yw gweithwyr gofal cymdeithasol o reidrwydd yn ei gael. A dyna pam yr hoffwn ei weld yn cael ei brif-ffrydio yn y cwricwlwm ar gyfer y cymwysterau.
Gan symud ymlaen at rywbeth arall yn awr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau mewn ateb ysgrifenedig i mi—y llynedd—fod awdurdodau lleol yn darparu arian cyfatebol ar gyfer yr arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru tuag at y rhaglen datblygu gweithlu gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, aethoch ymlaen i ddweud yn yr un ymateb fod 44c yn cael ei wario gan Lywodraeth leol am bob £1 a werir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw hynny'n swnio fel arian cyfatebol i mi. Er fy mod yn derbyn bod cynghorau'n brin o arian, rwy'n cofio eich rhagflaenydd yn rhyddhau arian ychwanegol i gynghorau yn amodol ar dystiolaeth i ddangos ei fod yn cael ei wario ar amcanion gwella gofal cymdeithasol. [Torri ar draws.] Mae arnaf ofn, do, fe wnaethoch. Mae gennyf y cwestiynau a'r atebion i brofi hynny. Gan fod y gronfa bellach yn cael ei goruchwylio gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a oes ganddynt bŵer i ofyn i awdurdodau lleol am fwy o gyfraniadau i'r gronfa ac a oes ganddynt lythyr cylch gwaith oddi wrthych ynglŷn â'r canlyniadau y gallech eu disgwyl, ac yn arbennig a yw Gofal Cymdeithasol Cymru efallai yn mynd i gyfyngu ar ei gostau gweinyddu ei hun wrth weinyddu'r gronfa honno?
Diolch yn fawr iawn. I fod yn glir, nid yw'r ffigurau sydd gennyf ar elfen yr arian cyfatebol yr un peth. Yn sicr, nid 44 y cant ydyw. O'r £7.15 miliwn o gyllid i'r rhanbarthau i ddarparu hyfforddiant gofal cymdeithasol gan Gofal Cymdeithasol Cymru, rwyf wedi cael gwybod bod awdurdodau lleol yn darparu arian cyfatebol ar 25 y cant o hwnnw—felly, chwarter hwnnw. Ond byddaf yn edrych ar y ffigur hwnnw o 44 y cant, oherwydd yn sicr nid yw hwn yn fater roeddwn yn ymwybodol ohono. Felly, ie, yn wir, os gall yr Aelod anfon hwnnw ataf fe edrychaf arno. Ond fel y gŵyr, o fewn hwnnw, mae blaenoriaethau eleni wedi cynnwys gofal a chymorth yn y cartref, maent wedi cynnwys recriwtio a chadw, datblygu gyrfa a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion pwysig hynny mewn perthynas â'r gwaith sy'n rhaid i ni ei wneud ar hyfforddi'r gweithlu, oherwydd mae cael pobl i weld bod hwn yn broffesiwn gwerthfawr yn ogystal â phroffesiwn lle y cânt eu gwerthfawrogi yn golygu ein bod yn buddsoddi mwy yn yr hyfforddiant a bod gennym gydberchnogaeth arno. Mae'n gydberchnogaeth drwy awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Rydym yn rhoi arian i mewn. Mae yna ddisgwyliad gyda'r arian cyfatebol y bydd awdurdodau lleol hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Ond wrth gwrs, byddwn yn cadw hyn o dan arolwg yn ogystal. Ond mae yna bellach bortffolio sylweddol o waith ar y gweill yn y maes hwn, a phan fyddaf yn ymweld â gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, rwy'n pwysleisio wrthynt yn gyson pa mor bwysig yw'r gwaith, ond hefyd bod angen i ni fel Aelodau Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, a hefyd awdurdodau lleol a phawb arall, werthfawrogi a siarad allan am werth y gwaith hwn, oherwydd gwyddom mai dyma'r rheng flaen go iawn o ran ein rhyngwyneb â rhai unigolion agored iawn i niwed.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi sôn rhywfaint am hyn ddydd Llun. Clywsant dystiolaeth fod bywyd gwaith cyfartalog gweithiwr cymdeithasol yn llai nag wyth mlynedd, tra gellid disgwyl, mewn cymhariaeth, i nyrs weithio am 16 mlynedd a meddyg am 25. Er bod hynny'n golygu bod angen hyfforddi gweithwyr cymdeithasol newydd o hyd, mae hefyd yn golygu bod prinder gwirioneddol o brofiad y gellir ei drosglwyddo i genedlaethau newydd, os mynnwch, o hyfforddeion a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
O gofio'r hyn rydych newydd ei ddweud am gronfa'r gweithlu, sut rydych yn disgwyl gwella'r niferoedd sy'n cael eu denu at waith cymdeithasol, ac i aros mewn gwaith cymdeithasol, yn fwy pwysig? A ydych yn credu bod y cymwysterau newydd yn berthnasol i hynny? Pwy sy'n penderfynu ar y dangosyddion perfformiad allweddol y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn edrych arnynt er mwyn sicrhau cynnydd yn y ddau fater?
Mae yna ddau beth. Y cyntaf yw nad un ateb sydd i hyn—mae yna nifer fawr o ffyrdd y gallem fwrw ymlaen â'r gwaith hwn—ac yn ail gallaf ddweud na fydd yn digwydd dros nos. Ond rydych yn llygad eich lle yn dweud bod rhai o'r materion rydych eisoes wedi eu codi yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain i geisio dyfeisio pecyn priodol o gymhellion sy'n dangos mewn gwirionedd fod hwn yn lwybr gyrfa gwerthfawr, nid swydd yn unig. Mae'r sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos diwethaf yn arwyddocaol iawn sef y gallech fod yn gweithio ddwywaith neu deirgwaith cyn hired pe baech yn dilyn gyrfa nyrsio neu mewn meysydd eraill, a gweld hynny fel dilyniant gyrfa.
Gwyddom hefyd fod rhai gweithwyr cymdeithasol yn cael eu symud o waith cymdeithasol i lwybrau gyrfaol eraill yn ogystal. Rydych yn edrych yn benodol ar bethau fel gweithwyr gofal cartref o fewn gofal cymdeithasol. Felly, mae gwneud pethau fel ymestyn y gofrestr, fel rydym yn ei wneud yn awr—mae'n dasg anodd i ddarparwyr gofal cartref, rwy'n sylweddoli hynny, ond mae ymestyn y gofrestr o weithwyr gofal cartref ar sail gwirfoddol o 2018 ymlaen, cyn cofrestru gorfodol o 2020 ymlaen, yn rhan o hynny. Mae'n rhan hanfodol, oherwydd mae'n rhan hanfodol o'r broses o broffesiynoli'r gweithlu i sicrhau bod gennym weithwyr gofal cymdeithasol sy'n meddu ar gymwysterau priodol i ddarparu gofal cymwysedig i'r rhai agored i niwed yn ein cymdeithas.
Mae hefyd yn golygu gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu llwybrau gyrfa clir—nid swydd y byddwch yn mynd iddi heb fodd o gamu ymlaen, neu swydd y byddwch yn mynd iddi ac yn rhoi'r gorau iddi'n gynnar, fel y dangosodd y ffigurau, ond llwybr gyrfaol priodol y mae pobl yn gallu gweld y gallant ei ddatblygu dros amser hir o fewn yr yrfa hon, ac yn gallu gweld gyrfa mor werthfawr yw hi, gydag addysg a dysgu parhaus sy'n galluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu drwy eu gyrfa. A hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud—soniais am y rôl sydd gennyf yn hyn fel Gweinidog, ac rwy'n siŵr fod gan bob Aelod o'r Cynulliad rôl yn hyn yn ogystal, o safbwynt siarad ar ran y proffesiwn yn gyffredinol—mae hefyd yn ymwneud â gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu ymgyrch farchnata a recriwtio a chadw staff i roi cyhoeddusrwydd i'r ddelwedd gadarnhaol honno o'r hyn y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud.
Un pwynt terfynol: Rydym hefyd wedi darparu £19 miliwn o gyllid rheolaidd eleni i awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr gwasanaethau i helpu i reoli effaith gweithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Mae'r cyflog byw cenedlaethol ei hun yn rhan o'r llu o ffyrdd rydym yn dweud bod hwn yn broffesiwn gwerthfawr, gyda phobl werthfawr yn gweithio ynddo, ac rydym am weld mwy o bobl yn camu i'r maes ac yn aros ynddo'n hwy. Byddwn yn gwneud hynny a byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i wneud yn siŵr fod hon yn cael ei gweld fel gyrfa werth chweil ar gyfer y tymor hir.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. A allaf i ofyn i'r Gweinidog ba asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o'r ymchwil yn y British Medical Journal yn ddiweddar sydd yn cysylltu toriadau i gyllideb gofal cymdeithasol efo graddfeydd lawer uwch o farwolaethau yn Lloegr?
Mae'r sylw wedi cael ei wneud yn dda a gwyddom fod yr amseroedd rydym ynddynt yn parhau o ran y pwysau estynedig ar y gyllideb, ac nid oes unrhyw bwynt anwybyddu'r lle hwn a sefyll ar fy nhraed a dweud ein bod yn gallu gwneud gwyrthiau rhyfeddol—rydym yn gweithio o fewn y cyfyngiadau sydd arnom. Yr hyn sydd gennym yng Nghymru, mae'n rhaid i mi ddweud, yw dull gwahanol iawn o weithredu mewn perthynas â'r hyn a wnawn ym maes gofal cymdeithasol ac ym maes iechyd, yn enwedig y dull a fabwysiadwyd gyda'r gefnogaeth drawsbleidiol, anwleidyddol a fu i'r adolygiad iechyd a gofal cymdeithasol, os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r gronfa gofal canolraddol, yn y ffordd honno o weithio cydgysylltiedig. Felly, nid ydym yn chwilio am gyllid ychwanegol, er y buaswn wrth fy modd yn cael rhywfaint, Dai—buaswn wir. Ond mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio'r cyllid sydd gennym ar hyn o bryd mewn ffordd glyfar.
Bûm yn ar ymweliad yng Nghaerdydd y bore yma gyda fy nghyd-Aelod Julie Morgan, yn edrych ar y ganolfan byw'n annibynnol, sy'n gwneud yn union hynny. Mae'n defnyddio cyllid gofal canolraddol, y buddsoddwyd £60 miliwn gennym ynddo dros y flwyddyn ddiwethaf, i edrych ar y ffyrdd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cydgysylltu er mwyn darparu'r gofal di-dor hwnnw a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi neu'n agosach at eu cartrefi am gyfnod hwy, ac yn well, fel nad ydynt yn gorfod cael ffurfiau drutach ar driniaeth a gofal yn ddiweddarach.
Felly, Dai, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed yn yr adroddiad hwnnw, oherwydd mae'n dangos bod yn rhaid i ni barhau i feddwl ynglŷn â sut rydym yn gwneud y mwyaf o'r arian sydd gennym. Bydd yn gwybod hefyd, wrth gwrs, fod yna drafodaeth ar ardoll gofal cymdeithasol ymhlith y pedwar cynnig a gafodd eu trafod a'u cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad gan yr Ysgrifennydd Cyllid a fy nghyd-Aelod, Mark Drakeford. Credaf ei bod yn berthnasol fod hwnnw'n cael ei drafod yn awr oherwydd bydd yn rhaid i chi a fi a'n teuluoedd a'n hetholwyr ystyried o ddifrif, yn y tymor hwy, wrth i ni edrych ar y tueddiadau a nodwyd gennym yn y dangosyddion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru fel dangosyddion cenedlaethol o'r straen a fydd ar y system, sut yr awn i'r afael â hynny. Mae gweithio'n fwy clyfar yn rhan o hynny ac mae dod o hyd i'r arian yn rhan arall. Buaswn wrth fy modd yn meddwl y byddent, yn natganiad nesaf y Trysorlys gan Lywodraeth y DU, yn agor y llyfr siec ac yn dweud, 'Gadewch i ni roi rhywbeth yma mewn gwirionedd', fel y gallwn gael y symiau canlyniadol, ond rydym yn aros.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae ymchwil y BMJ yn dangos fod 22,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn yn Lloegr o achos torri cyllideb gofal cymdeithasol yn Lloegr—22,000 o bobl yn marw o achos y torri yn y gyllideb. Dyna beth y mae polisi llymder yn ei achosi. Ar ben hynny, achos gwnaeth y Llywodraeth yn Lloegr ddiogelu wariant ar iechyd—hynny yw 'ring-fence-io' iechyd yn Lloegr—bu i gyllid gofal cymdeithasol gymryd hit enfawr fel canlyniad. A dyna pam rŷm ni'n cael y 22,000 o farwolaethau yna: achos y toriadau yna ac achos nad oes digon o bres.
Nawr, mae pobl wastad yn dweud, 'Ddim jest pres yw e, Dai', ond, yn achos gofal cymdeithasol, arian yw e, a dweud y gwir, achos mae yna bobl mewn ysbytai pan ddylent fod allan o ysbyty. Dyna beth y canlyniad diffyg gofal cymdeithasol. Byddwn ni'n sôn am farwolaethau yn Ysbyty Glan Clwyd yn nes ymlaen. Pam mae'r bobl yna dal i fod yn yr ysbyty? Achos nad ydyn nhw'n gallu mynd allan ac yn ôl i'w cartrefi o achos diffyg gofal cymdeithasol a diffyg arian.
Fel rŷch chi wedi cyfeirio, yn sgil yr adolygiad seneddol i iechyd a gofal cymdeithasol gan Dr Ruth Hussey a phwysigrwydd canolog gofal cymdeithasol a'r galw am drawsnewid, a ydych chi, yn y bôn, yn mynd i alw am gynyddu'r gwariant ar ofal cymdeithasol, achos dyna beth sydd angen ei wneud—nid gwneud mwy efo'r arian sydd ddim gyda ni, ond galw am gynnydd yn y gwariant a chynnydd yng nghyllid yr integrated care fund?
Diolch i chi, Dai. Ambell beth yma: y cyntaf yw, fel y gwyddoch, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin—nid wyf eisiau cymharu â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin—yr hyn rydym wedi'i wneud yw, mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, sef y dull rydym yn ei fabwysiadu, yn seiliedig ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth arall yma, gyda'r syniad o integreiddio. Yn yr un modd gyda'r cyllid, mae mwy o gyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru nag ar draws y ffin. Ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol o'r straen ar y system.
Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r syniadau hyn o sut rydym yn defnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol—wel, rwyf wedi cael sawl cyfarfod, a chyfarfodydd cynhyrchiol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, dros yr ychydig fisoedd diwethaf y bûm yn y swydd, gyda'r partneriaethau rhanbarthol, er enghraifft. Mae'r syniad y dylem wneud mwy o gomisiynu ar y cyd—sut rydym yn cael gwell gwerth am ein harian, fel y gallwn ddweud, 'Wel, rydym wedi nodi beth yw anghenion llety gofal yr henoed'? Gallem gymhwyso hyn i feysydd eraill o feddwl yn ogystal. Sut rydym yn dweud ar y cyd, 'Fe edrychwn ar yr hyn sydd gennym gyda'n gilydd'? Sut y gallwn ni ddarparu ar gyfer hynny a chyflawni mwy ar lefel y rhanbarthau—darparu mwy o gartrefi gofal a darparu mwy o leoedd a gwell canlyniadau i bobl?
Un peth pwysig gyda hynny mae'n rhaid i mi ddweud, er mor anodd ydyw, yw'r mater o gyfuno cyllidebau. Mae hyn yn anodd, oherwydd mae pawb ohonom yn Aelodau etholedig—mae gennym feddylfryd Aelod etholedig yn ogystal ag eistedd yma'n meddwl am bolisi mewn ffordd strategol iawn. Gwyddom pa mor anodd yw hi i bobl ddweud, 'Wel, cyfuno cyllidebau—onid yw hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ildio rhywfaint?' Mewn rhai ffyrdd, ydi, ond os yw'n cyflawni'r canlyniadau cywir o ran gofal cymdeithasol, yna dylem fod yn edrych ar hynny.
Mae yna bethau yng Nghymru y gallwn eu gwneud yn fwy clyfar, yn fwy trefnus ac yn wahanol, a dylem fod yn gwneud hynny. Ond yn y pen draw, Dai, rwy'n cytuno â chi—mae yna her fwy wrth symud ymlaen, o ran iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n rhan o fyrdwn yr adolygiad iechyd a gofal cymdeithasol, sef edrych ar y ddau faes gyda'i gilydd. Mae proses ddi-dor y llwybr i rywun sy'n glaf neu'n etholwr i chi—nad oes rhaid iddynt feddwl am bwy sy'n ymdrin â hwy na pha awdurdod sy'n ei wneud, ond ei fod yn teimlo'n gofleidiol. Rwy'n argyhoeddedig, wrth i ni edrych ar rai o'r modelau gyda chyllid y gronfa gofal canolraddol, mai dyna'n bendant yw'r trywydd y dylem ei ddilyn.
Diolch eto. Fy nghwestiwn olaf i ydy: mae'r ymchwil yn y BMJ hefyd wedi darganfod mai un o'r pethau eraill llesol i atal marwolaethau, yn ogystal â rhagor o arian—rydym ni wedi ymdrin â'r pwynt yna—ydy presenoldeb nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Dyna beth mae'r ymchwil yn ei ddangos. Wrth gwrs, wrth i bawb drafod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Cynulliad diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth chi bleidleisio yn erbyn gwelliannau a fuasai wedi galluogi awdurdodau lleol i gyflogi nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Ond mae yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem yna. Felly, yn unol â'r dystiolaeth, pa gynlluniau sydd gennych chi, fel Llywodraeth, i gynyddu nifer y nyrsys mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel rhan o unrhyw gynllun i liniaru effeithiau marwol y polisi o lymder o Lywodraeth San Steffan?
Wel, Dai, diolch i chi am godi'r pwynt hwnnw. Fel y gwyddoch, drwy'r ymgynghoriad a oedd yn rhagflaenu hyn, a oedd yn eithaf helaeth, ond hefyd drwy gyflwyno'r rheoliadau—amrywiaeth eang o reoliadau—mae'r hyn a wnawn gyda'r angen nyrsio hefyd yn rhan o hyn, yn enwedig mewn lleoliadau llety gofal. Yn draddodiadol, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, mewn gwirionedd, yw 'Os gallwch ddarparu nyrs o fewn cartref gofal, yna mae popeth yn ardderchog ac rydych yn iawn', ond mewn gwirionedd, mewn rhai lleoliadau gofal, gwyddom y byddwch angen mwy na hynny. Mewn lleoliadau gofal eraill, efallai y bydd angen nyrsio drwy gydol y nos; mewn achosion eraill, bydd angen mwy yn ystod y dydd neu i'r gwrthwyneb. Felly, o fewn y cynigion rydym wedi bwrw ymlaen â hwy, rydym wedi cynnwys mwy o hyblygrwydd, ond nid yw hynny'n tynnu oddi wrth yr angen, Dai, i wneud yn siŵr ein bod yn darparu ar gyfer anghenion y rhai mewn lleoliadau cartrefi gofal; mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'w wneud yn ôl anghenion yr unigolion hynny.
Nawr, mae hynny'n golygu, mae'n rhaid i mi ddweud, fod y cartrefi gofal hynny, a'r modd y cânt eu monitro yn ehangach, angen gwneud yn siŵr eu bod yn asesu anghenion eu preswylwyr yn fanwl ac yna'n darparu ar eu cyfer. Os yw hynny'n golygu mwy nag un nyrs, dylai fod mwy nag un nyrs. Os yw'n golygu mwy nag un yn ystod y nos, dyna y mae'n ei olygu, oherwydd gwyddom fod angen iddo fod yn seiliedig ar yr anghenion unigol yno a'r anghenion cyfunol yn y lleoliad gofal hwnnw.
Felly, mae wedi symud at ddull mwy hyblyg, a sylweddolaf fod hynny wedi peri i rai pobl ddweud, 'Wel, a yw hynny'n golygu nad ydym angen un ym mhob cartref?' Wel, yr hyn sydd ei angen yw'r lefel gywir o nyrsio ar gyfer pob lleoliad cartref gofal, a dyna beth rydym wedi ymrwymo i'w sicrhau.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, bu anhrefn mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai ledled y wlad o ganlyniad i fethiant eang yn systemau TG y GIG, gyda llawer o feddygon teulu yn adrodd nad oeddent yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion. Disgrifiodd un meddyg teulu y sefyllfa fel un rwystredig iawn a braidd yn beryglus. Nid oedd ysbytai'n gallu cael gafael ar ganlyniadau profion a dywedwyd wrth un claf y byddai'n rhaid iddo aros am fis arall am ganlyniadau biopsi oherwydd yr ôl-groniad a achoswyd gan fethiant y systemau. Gobeithio y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol. Ysgrifennydd Cabinet, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhesymau dros y methiant hwn, a pha wersi, os o gwbl, sydd wedi cael eu dysgu?
Ie, rwy'n cydnabod yr anghyfleustra a achoswyd i staff a chleifion yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn dilyn y digwyddiad yr wythnos diwethaf. Credir nad digwyddiad seiber ydoedd, sy'n gadarnhaol, ac yn wir, credir mai mater technegol ydoedd, er ei fod yn eang. Roedd yr holl systemau yr effeithiwyd arnynt yn gweithio'n iawn eto erbyn 8 o'r gloch ar yr un diwrnod. Mae yna her o ran dal i fyny gydag unrhyw oedi ac ôl-groniadau posibl. Mae gwaith pellach wedi'i wneud heddiw ar ddarparu wal dân newydd, ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae ein systemau mewn sefyllfa addas a phriodol i symud ymlaen. Ond wrth gwrs, mae yna gwestiwn ehangach ynglŷn â buddsoddi mewn TG i ddarparu mwy yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru newydd gyhoeddi y bydd y contract newydd ar gyfer systemau a gwasanaethau clinigol meddygon teulu yn cael ei ddyfarnu i Vision Health Ltd a Microtest Ltd. Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o bractisau meddygon teulu sy'n defnyddio systemau a ddarperir gan EMIS Health Ltd. Mae practisau meddygon teulu wedi cael gwybod nad yw EMIS Health Ltd wedi bodloni nifer o'r meini prawf ar gyfer gwerthuso tendrau angenrheidiol ac y bydd angen i bractisau EMIS ddewis system amgen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar y rhesymau pam nad oedd EMIS Health Ltd yn llwyddiannus ar y cam tendro? Mae'n gysylltiedig â'r newyddion fod NHS Digital wedi gosod cosbau sylweddol o filiynau o bunnoedd am fethu bodloni gofynion cytundebol y contract GP Systems of Choice yn Lloegr?
Dylwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi bod yn esgeulus yn peidio â diolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sydd wedi gweithio'n galed i ddatrys y mater technegol yr wythnos ddiwethaf ac i sicrhau nad oedd yr amhariad yn fwy eang, ac yn wir, fel rwy'n dweud, cafodd y mater ei ddatrys o fewn yr un diwrnod.
O ran EMIS a mater systemau i gefnogi meddygon teulu, rwy'n cydnabod ei bod yn her oherwydd mae nifer sylweddol o feddygon teulu yn defnyddio un o'r systemau hynny ar hyn o bryd. Ni allaf drafod y rhesymau llawn am hynny oherwydd mae yna gyfnod o her gyfreithiol ac felly ni allaf wneud datganiad llawn nes hynny. Ond rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod bod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi cyhoeddi datganiad byr iawn, oherwydd roedd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yn rhan o'r trafodaethau ynghylch tendro yn y dyfodol, ac maent hwy eu hunain wedi cydnabod, er ei fod yn anodd, eu bod o'r farn fod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud am fod yn rhaid i safonau gofynnol gael eu bodloni yn rhan o broses y contract. Ond rwy'n credu y bydd proses yr her gyfreithiol yn dod i ben tua diwedd yr wythnos nesaf neu ddechrau'r wythnos wedyn, ac os nad oes her, gellir gwneud datganiad llawnach.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag yw'r rhesymau dros y penderfyniad yn erbyn EMIS Health Ltd, mae hyn yn effeithio ar nifer o bractisau meddygon teulu ledled Cymru sydd wedi bod yn defnyddio system EMIS ers blynyddoedd lawer. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn pryderu y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar feddygon teulu a chleifion oherwydd maint y newidiadau sydd eu hangen i newid i system newydd. Mae yna ofnau y gallai hyn beri i feddygon teulu hŷn ymddeol yn gynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon nad oes gan y proffesiwn hwn, sydd eisoes o dan bwysau, amser nac adnoddau i newid i system TG newydd, ac a ydych yn hyderus fod y systemau newydd a ddarparwyd gan Vision a Microtest yn ddigon cadarn i atal methiannau tebyg i'r rhai a welsom ddydd Mercher diwethaf?
Credaf fod y materion yn wahanol, gyda pharch. Nid wyf yn credu bod y materion sy'n ymwneud â chanolfannau data yr un peth â'r meddalwedd a'r cymorth rydym yn siarad amdano i gefnogi meddygon teulu i weithio yn eu practisau. Ac fe af yn ôl at y datganiad a wnaed gan David Bailey, cadeirydd cyngor Cymru o Gymdeithas Feddygol Prydain, sydd hefyd yn feddyg teulu ei hun, ac mae ei bractis yn defnyddio systemau EMIS. Mae wedi cydnabod y bydd newid i system newydd yn broblem ymarferol i feddygon teulu, a dyna pam fod sgyrsiau eisoes wedi'u cynnal ynglŷn â'r hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen i helpu i symud practisau i feddalwedd newydd sy'n ateb ein gofynion ar gyfer y system sy'n rhaid i ni ei chynnal yma yng Nghymru. A dyna'r pwynt: mae'n rhaid i ni gael system sy'n cefnogi nodau ac amcanion y ffordd rydym eisiau rhedeg ein system yma, ac nid gadael i'n system gael ei gyrru gan ofynion cyflenwr meddalwedd allanol.
Rwy'n cydnabod yr heriau ymarferol ynglŷn ag a fydd rhai meddygon teulu yn dewis gadael y proffesiwn yn gynt nag y byddem eisiau iddynt ei wneud, wrth gwrs, os nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael cymorth i wneud hyn. Dyna pam fod natur barhaus ein sgwrs gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn bwysig. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd iddynt fod yna awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach i'w helpu i wneud hynny ac i barhau i ddarparu gofal rhagorol o ansawdd uchel i bob cymuned yng Nghymru.