Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, bu anhrefn mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai ledled y wlad o ganlyniad i fethiant eang yn systemau TG y GIG, gyda llawer o feddygon teulu yn adrodd nad oeddent yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion. Disgrifiodd un meddyg teulu y sefyllfa fel un rwystredig iawn a braidd yn beryglus. Nid oedd ysbytai'n gallu cael gafael ar ganlyniadau profion a dywedwyd wrth un claf y byddai'n rhaid iddo aros am fis arall am ganlyniadau biopsi oherwydd yr ôl-groniad a achoswyd gan fethiant y systemau. Gobeithio y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol. Ysgrifennydd Cabinet, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhesymau dros y methiant hwn, a pha wersi, os o gwbl, sydd wedi cael eu dysgu?