Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:56, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru newydd gyhoeddi y bydd y contract newydd ar gyfer systemau a gwasanaethau clinigol meddygon teulu yn cael ei ddyfarnu i Vision Health Ltd a Microtest Ltd. Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o bractisau meddygon teulu sy'n defnyddio systemau a ddarperir gan EMIS Health Ltd. Mae practisau meddygon teulu wedi cael gwybod nad yw EMIS Health Ltd wedi bodloni nifer o'r meini prawf ar gyfer gwerthuso tendrau angenrheidiol ac y bydd angen i bractisau EMIS ddewis system amgen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar y rhesymau pam nad oedd EMIS Health Ltd yn llwyddiannus ar y cam tendro? Mae'n gysylltiedig â'r newyddion fod NHS Digital wedi gosod cosbau sylweddol o filiynau o bunnoedd am fethu bodloni gofynion cytundebol y contract GP Systems of Choice yn Lloegr?