Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 31 Ionawr 2018.
Dyna'r newyddion roeddwn eisiau ei glywed: y ffaith bod y ddogfen hon yn destun adolygiad, sydd, wrth gwrs, ar gyfer oedolion, ac mae'r ddogfen hon hefyd yn destun adolygiad, sef y ddogfen ar gyfer gofal parhaus i blant. Mae'r ddwy ddogfen gyda'i gilydd yn cynrychioli'r daith y gallai plentyn fynd arni, o blentyndod i fywyd fel oedolyn, ac rwy'n cael yr argraff bendant nad yw gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi'r ddogfen hon ar hyn o bryd, a chyfrifoldeb gwasanaethau iechyd yw'r ddogfen hon. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r ffaith fy mod wedi clywed mai ymarfer tacluso yw'r adolygiad. Wel, cyhoeddwyd dogfen y plant yn 2012 a dogfen yr oedolion yn 2014. Credaf ein bod angen rhywbeth mwy sylfaenol nag ymarfer tacluso. Credaf ein bod angen adolygiad sylfaenol, a fydd yn ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd a'r comisiynydd plant i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r gwendidau sy'n cael eu cydnabod yn y dogfennau hyn ac yn lleihau'r angen i fyrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol alw am arweiniad cyfreithiol yn y dyfodol a darparu llawer mwy o sicrwydd nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.