Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:58, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag yw'r rhesymau dros y penderfyniad yn erbyn EMIS Health Ltd, mae hyn yn effeithio ar nifer o bractisau meddygon teulu ledled Cymru sydd wedi bod yn defnyddio system EMIS ers blynyddoedd lawer. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn pryderu y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar feddygon teulu a chleifion oherwydd maint y newidiadau sydd eu hangen i newid i system newydd. Mae yna ofnau y gallai hyn beri i feddygon teulu hŷn ymddeol yn gynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon nad oes gan y proffesiwn hwn, sydd eisoes o dan bwysau, amser nac adnoddau i newid i system TG newydd, ac a ydych yn hyderus fod y systemau newydd a ddarparwyd gan Vision a Microtest yn ddigon cadarn i atal methiannau tebyg i'r rhai a welsom ddydd Mercher diwethaf?