Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch un o fy etholwyr, Janet Lewis, enillydd haeddiannol gwobr nyrs endocrin 2018 am ei harweinyddiaeth yn dyfeisio atebion i wella darpariaeth gofal iechyd a chydraddoldeb ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin? Yn fwy cyffredinol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chleifion Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i'w gwneud yn ymwybodol o'r gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu cynnig ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, fel y gallant elwa ar arbenigedd Janet a'i chydweithwyr?