Tiwmorau Niwroendocrin

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:18, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Daw hyn yn ôl at un o'r heriau sy'n ein hwynebu. Buaswn bob amser yn hoffi pe gallem gael rhaglen sgrinio sy'n effeithiol o ran y gwerth a gawn ohoni, o ran yr arian a hefyd o ran y canlyniadau a'n helpu i ganfod achosion yn gynnar. Ond rhan o'n anhawster yn y maes hwn yw nad oes dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n achosi tiwmorau niwroendocrin. Fel gyda phob maes, lle rydym yn ystyried cael rhaglen sgrinio rydym yn edrych am dystiolaeth wyddonol ddilys. Mae pawb ohonom yn hoffi cael ein harwain gan dystiolaeth, yn hytrach na chan ddogma, ar y mater hwn ynglŷn â beth y dylem ei wneud. Felly, os oes yna broses a arweinir gan dystiolaeth ynghyd â rhaglen sgrinio briodol ar gyfer unigolion sy'n wynebu mwy o risg, byddwn yn edrych ar hynny o ddifrif wrth gwrs, ac fel gyda phethau eraill, yn ystyried ei gweithredu yma yng Nghymru.