Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wel, rwy'n gobeithio nad ydynt yn dysgu o Ysbyty Glan Clwyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond buaswn yn dweud, fel y dywedodd y cyngor iechyd cymuned ddoe, byddech yn disgwyl i'r ffigurau fod yn uwch, ond ymddengys bod y ffigurau hyn yn afresymol ac yn anghymesur o uchel mewn perthynas â'r gwahaniaeth demograffig sydd gennym yn y rhan arbennig honno o Gymru. Felly, buaswn yn gofyn eto i chi ystyried gofyn i berson annibynnol neu gorff annibynnol adolygu'r ffigurau hynny, fel y gallwn gael yr hyder sydd gennych chi—ac mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu eich hyder—nad oes problem fwy systemig ar waith yma sy'n achosi'r ffigurau pryderus hyn yn Ysbyty Glan Clwyd.
A gaf fi ofyn hefyd, o ystyried eich bod yn cydnabod bod yna anghenion demograffig arbennig yn y rhan benodol honno o'r wlad, a ydych yn hyderus fod gan y bwrdd ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â'r rheini? Oherwydd os oes ganddynt, mae cwestiwn arall yn codi o ran y ffordd y mae'r bwrdd yn cael ei reoli o dan eich goruchwyliaeth chi yn y cyswllt hwn.