3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru? 120
Fe godoch y mater hwn ddoe gyda'r Prif Weinidog, wrth gwrs, ac fe'i gwnaeth hi'n glir nad yw'r ffigurau'n ystyried oedran, amddifadedd nac afiechyd. Rwyf am eich cyfeirio'n ôl at ei sylwadau:
'Nawr, roedd y mesur penodol yr adroddwyd amdano yn ymwneud â niferoedd bach ac nid yw wedi ei addasu ar sail oedran o ganlyniad i hynny. Oedran sy'n debygol o fod y prif reswm pam mae'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel, ac mae'n adlewyrchu'r ffaith mai Conwy sydd â'r ganran uchaf o bobl dros 75 oed yng Nghymru gyfan.'
'Mae ffigurau mwy diweddar gan y bwrdd iechyd yn dangos rhywfaint o ostyngiad i'r ffigur uchaf a adroddwyd. Mae'r cyfraddau marwolaeth cyffredinol yn yr ysbyty ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru.'
Fel y gwyddoch, mae poblogaeth Conwy bob amser wedi bod yn hŷn na rhannau eraill o Gymru, ac yn wir, yn hanesyddol, mae'r ffigurau marwolaethau yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn is na chyfartaledd Cymru. Felly, yn sicr nid yw oedran yn esgus dros y cynnydd anhygoel a welsom mewn cyfraddau marwolaeth yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys honno yn y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi mwy na dyblu ers 2012, ac mae arnaf ofn na fydd eich ymateb hunanfodlon yn bodloni cleifion yng ngogledd Cymru sydd eisiau gwybod pam eu bod bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw yn yr ysbyty hwnnw nag y maent mewn ysbytai eraill ledled y wlad, ac mae'r sefyllfa yno i'w gweld yn waeth o lawer na'r sefyllfa yn Wrecsam ac ym Mangor.
Mae hyn yn peri pryder sylweddol i fy etholwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu â mi yn dilyn yr adroddiad, ac mae clinigwyr wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn bryderus ynglŷn â'r cyfraddau marwolaeth hyn. Maent yn dweud mai'r broblem fwyaf yn yr ysbyty yw diffyg mynediad at welyau ysbyty fel nad yw'r unigolion yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys mewn lleoliad gofal addas i allu gofalu am eu hanghenion, a dyna pam fod pobl yn marw'n ddiangen yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys.
O gofio mai dyna yw barn y clinigwyr a'r nyrsys sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon, a ydych yn derbyn bod yr esgus llipa rydych wedi'i roi hyd yn hyn yn anfoddhaol? A wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad ar unwaith fel y gallwn sefydlu a yw'r sefyllfa'n cael ei hachosi gan brinder gwelyau? A pha sicrwydd a rowch y bydd canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw yn cael eu cyhoeddi, fel bod y cyhoedd yn gallu gweld pa gamau rydych yn eu cymryd, o ystyried bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig ac yn cael ei redeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru?
Nid oes gennyf unrhyw fwriad o gwbl o gael fy ngwthio i ymddwyn yn anghymedrol gan weiddi a iaith yr Aelod gyferbyn sy'n fwriadol arswydus. Yn anffodus, mae ganddo hanes yn hyn o beth.
Nid yw'n wir o gwbl fod y Llywodraeth yn hunanfodlon. Nid yw'r ffaith fy mod yn dewis cadw'n dawel ac yn peidio â chymryd rhan mewn ffrae swnllyd yn golygu nad wyf yn poeni am y gwasanaeth ac nad oes gennyf ddiddordeb mewn gwella. Mae'n siomedig iawn fod system agored rydym wedi'i rhoi ar waith mewn byrddau iechyd, i fod yn agored ac yn dryloyw, yn cael ei henllibio yn y modd hwn, a chithau'n gwybod yn iawn nad yw'r ffigurau hyn wedi cael eu haddasu i ystyried ffactorau eraill. Rydych yn gwybod hynny. Rydych wedi gweld y briff ffeithiol sy'n datgan hynny.
Pam ei fod yn ddwbl? Pam ei fod yn fwy na dwbl?
Ac rwy'n credu o ddifrif hefyd y dylai'r Aelod ystyried y ffaith, o fewn ein system yma yng Nghymru, mai ni yw'r unig wlad yn y DU—[Torri ar draws.]
Darren Millar, rydych wedi gofyn eich cwestiynau, gwrandewch ar yr atebion yn awr.
Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi cynnal adolygiad llawn o bob marwolaeth sy'n digwydd mewn ysbyty. Mae pobl eisoes yn mynd ati'n fwriadol i ddysgu o'r marwolaethau sy'n digwydd mewn ysbyty. Rwy'n disgwyl iddynt gael diwylliant agored sy'n dysgu o fewn ein gwasanaeth iechyd, ac i ymrwymo'n briodol i wella ansawdd a gwella canlyniadau i bobl. Os ydym yn mynd i weithio mewn system lle mae unrhyw ymgais i gyhoeddi data'n agored ac yn dryloyw yn cael ei defnyddio yn y ffordd hon, i godi ofn—ac nid wyf yn derbyn bod fersiwn Darren Millar o'r digwyddiadau yn cynrychioli barn y gymuned glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd nac unrhyw ran arall o'r wlad—yna byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle na fydd gwelliant yn digwydd mor gyflym ag y gallai ac y dylai ei wneud mewn gwirionedd. Rwy'n cymryd fy nghyfrifoldebau o ddifrif, a chredaf fod ein clinigwyr yn gwneud hynny hefyd. Ac mae'n wir fod canlyniadau'r adolygiadau hynny ar gael yn gyffredinol er mwyn inni allu gweld y dysgu sy'n digwydd o bob un o'r adolygiadau hynny. Ac yn wir, mae rhannau eraill o system y DU bellach yn awyddus i ddysgu o'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru er mwyn dysgu'n briodol o bob marwolaeth sy'n digwydd mewn ysbyty.
Wel, rwy'n gobeithio nad ydynt yn dysgu o Ysbyty Glan Clwyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond buaswn yn dweud, fel y dywedodd y cyngor iechyd cymuned ddoe, byddech yn disgwyl i'r ffigurau fod yn uwch, ond ymddengys bod y ffigurau hyn yn afresymol ac yn anghymesur o uchel mewn perthynas â'r gwahaniaeth demograffig sydd gennym yn y rhan arbennig honno o Gymru. Felly, buaswn yn gofyn eto i chi ystyried gofyn i berson annibynnol neu gorff annibynnol adolygu'r ffigurau hynny, fel y gallwn gael yr hyder sydd gennych chi—ac mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu eich hyder—nad oes problem fwy systemig ar waith yma sy'n achosi'r ffigurau pryderus hyn yn Ysbyty Glan Clwyd.
A gaf fi ofyn hefyd, o ystyried eich bod yn cydnabod bod yna anghenion demograffig arbennig yn y rhan benodol honno o'r wlad, a ydych yn hyderus fod gan y bwrdd ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â'r rheini? Oherwydd os oes ganddynt, mae cwestiwn arall yn codi o ran y ffordd y mae'r bwrdd yn cael ei reoli o dan eich goruchwyliaeth chi yn y cyswllt hwn.
Rwyf am ddyfynnu o'r cyhoeddiad ei hun:
Mae'r siart canlynol yn dangos nifer y marwolaethau am bob 10,000 ymweliad â phob adran ddamweiniau ac achosion brys. Dylid pwysleisio bod y ffigurau a gofnodir yn farwolaethau bras, ac yn wahanol i farwolaethau mewn mannau eraill yn yr ysbyty, ni wneir unrhyw ymgais i "safoni". O ganlyniad, ni roddir ystyriaeth i ffactorau fel oedran a difrifoldeb salwch, ffactorau y gwyddys y gallant effeithio ar y risg o farwolaeth.
Gallwn naill ai gael sgwrs lle rydym yn ymosod ar y bwrdd iechyd ac yn ceisio awgrymu, rywsut, fod yna gyfrifoldeb gwleidyddol dros gyfradd farwolaeth annerbyniol, neu gallwn geisio deall beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Buasai'n llawer gwell gennyf ddeall beth sy'n digwydd a dysgu o hynny. Dyna pam y cyhoeddir y ffigurau hyn. Dyna pam y cynhelir adolygiad o bob marwolaeth yn yr ysbyty. Ac unwaith eto, nid wyf am gael fy ngwthio i awgrymu na ellir ymddiried yn yr arweinyddiaeth glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae yna heriau ar draws ein gwasanaeth iechyd, ac ni fyddaf yn rhoi'r bai ar ein staff gweithgar am ystod o feysydd lle y gwyddom fod gwelliant i'w weld yno eisoes mewn gwirionedd, ac mae'r ffigurau hyn yn rhan o hynny.
A buaswn yn atgoffa pawb yn y Siambr hon, mewn perthynas ag adnoddau, mai bwrdd iechyd gogledd Cymru yw'r bwrdd iechyd sydd â'r adnoddau gorau yn y wlad, fesul y pen. Ac mewn gwirionedd, ein her yw canfod sut y gallwn gael mwy o werth o bob £1 rydym yn ei wario ar y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Nid wyf yn ystyried hwn yn fater sy'n ymwneud ag adnoddau ariannol. Os ydych yn edrych ar gyfanswm yr arian sydd gennym ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd, rydym yn bendant iawn mewn adeg o gyni a'i effaith ar wasanaethau cyhoeddus.
Wel, ar ran fy etholwyr yn Aberconwy, hoffwn ddiolch i Darren Millar am godi'r mater hwn unwaith eto yn y Siambr. A rhaid imi ddweud fy mod yn hynod siomedig ddoe ynglŷn â'r sylwadau gwamal a wnaed gan ein Prif Weinidog mewn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Darren Millar iddo ddoe, gan awgrymu mai oedran yw'r prif reswm pam y mae'r ffigur hwn i'w weld yn uchel yn ôl pob tebyg. Rydym yn sôn am bobl sydd wedi marw.
Nawr, pan edrychwch ar y ffigurau, o'u cymharu â phoblogaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ym mis Hydref, nodais mai'r bwrdd oedd â'r lefel uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a ddosberthir fel rhai cymedrol, difrifol neu farwolaeth yng Nghymru, gan gynnwys 41 o farwolaethau damweiniol. Nawr, yn y ffigurau sy'n cael eu cyflwyno, mae fy nhad fy hun yn un o'r ystadegau hynny—marwolaeth ddamweiniol yn deillio o lawdriniaeth.
Ond gadewch i mi fynd â chi'n ôl i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Yn y cyfnod hwnnw o 18 mis olaf o fywyd fy nhad, cefais lawer o brofiadau o gael fy nal yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys gydag ef, wedi fy nal gyda phobl eraill ar drolïau mewn coridorau, a dynion ambiwlans yn methu mynd yn ôl at eu hambiwlansys. Nid yw'r system, llif cleifion drwy'r ysbyty, yn dda. Ond fe ddywedaf wrthych: mae eich holl Aelodau Cynulliad gogledd Cymru yma, ar sawl achlysur, a'n Hysgrifennydd Cabinet, wedi nodi'r ffaith bod problemau—problemau difrifol—o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Bellach, mae'r cyfan rwyf wedi—. Rydych wedi cael eich beio a'ch cyhuddo o haerllugrwydd ffroenuchel. Ddoe, fe'ch cyhuddais o ddiffyg diddordeb. Profwch fi'n anghywir, profwch bawb yn anghywir. Dewch gyda mi—gadewch i mi fynd â chi drwy'r wardiau, lle mae pobl yn gwisgo cathetrau, lle y gwelwch jygiau llawn o ddŵr lle nad oes neb wedi yfed drwy'r dydd, lle y gwelwch fagiau cathetr bron â byrstio. Dowch gyda ni, Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yna, os dowch gyda ni—byddai'n braf pe bai'n ddirybudd; rwy'n barod i wneud hynny—ac fe ddangosaf olygfeydd gwrthun i chi.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi ein cyhuddo o siarad gwleidyddol gorchestol. Nid oes unrhyw siarad gwleidyddol gorchestol yn werth y gofid y bydd rhywun yn ei deimlo pan fyddwch wedi colli rhywun sy'n annwyl o ganlyniad i driniaeth wael yn un o'ch ysbytai. Nid wyf yn beio'r meddygon ymgynghorol. Nid wyf yn beio'r staff. Rwy'n beio'r broses. Nid yw'n ymwneud ag arian. Mae'n ymwneud â gweithdrefn. Mae'r ysbyty hwn o dan eich rheolaeth uniongyrchol, ac nid yw'n gwella dim. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnewch rywbeth. Gwnewch rywbeth ar ran yr holl etholwyr sy'n dod ataf—
Iawn, mae angen i chi ddod i ben yn awr.
Iawn. Mae gennyf ddau adroddiad ombwdsmon roedd yn rhaid i mi eu rhoi i'r ombwdsmon: un lle roedd rhywun yn angheuol wael, ac un yn awr, lle roedd gennyf etholwr, o ganlyniad i'r problemau hyn—. Roedd y ddau'n adroddiadau lles y cyhoedd adran 16. Felly, mae'r dystiolaeth yno, pe baech chi ond yn gwrando. Os gwelwch yn dda, er lles pob claf sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, neu'r rhai sydd yno eisoes, os gwelwch yn dda gwnewch rywbeth.
Wel, ni allai neb fethu â chydnabod y galar rydych chi'n amlwg yn ei deimlo yn sgil colli eich tad. Ac mae'n wirioneddol ddrwg gennyf am eich colled. Fy ngwaith, wrth gyflawni'r rôl hon ar ran pobl Cymru, yw edrych ar sut rydym yn gwella gwasanaethau ar draws y system, er mwyn deall sut y gellir defnyddio enghreifftiau unigol i ddysgu oddi wrthynt, a dyna'r ffordd rydym yn nodi gwelliant yn ansawdd ein system. Nid grymuso'n unig a wnawn, rydym yn disgwyl i bobl fod yn rhan o'r gwaith o wella ansawdd o fewn ein gwasanaeth. Ac mewn gwirionedd, yn Ysbyty Glan Clwyd, mae ganddynt gyfraddau marwolaethau gwell na'r cyfartaledd ar ôl llawdriniaethau dewisol a brys fel ei gilydd. Felly, mewn gwirionedd mae ganddo record gyffredinol dda. Nawr, nid yw hynny'n golygu na fydd yna byth gamgymeriad, oherwydd nid oes gennym system sy'n berffaith, ac nid yw'n deg i ni ddisgwyl safon berffaith gan neb wrth iddynt ddarparu gwasanaeth iechyd gwladol. Ond byddwn bob amser yn edrych am welliant pellach, ac er yr holl angerdd a galar sy'n bodoli ac rwy'n ei gydnabod gan yr Aelod, nid wyf yn credu y dylwn fod yn barod i dderbyn y cyhuddiadau a wneir am fy uniondeb a fy niddordeb yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n rhan o fywyd cyhoeddus oherwydd fy mod eisiau helpu i wneud ein gwlad yn well. Mae gwneud y gwaith hwn yn fraint wirioneddol, ac yn bendant mae gennyf ddiddordeb mawr yng ngorffennol, presennol a dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna pam rwy'n gwneud y gwaith hwn. Dyna pam y byddaf yn parhau i wneud y gwaith hwn, ac i weithio ochr yn ochr â phobl ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd gwladol i geisio gwneud yn siŵr fod y dyfodol yn un gwell, ac y gwnawn bopeth y gallwn ei wneud gyda'r adnoddau sydd gennym i ddarparu gwell gofal iechyd ym mhob cymuned yng Nghymru, a dyna'n bendant yw fy ymrwymiad gonest a diffuant.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf felly gan Simon Thomas.